Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Cartrefi Gofal yn chwarae rhan ganolog wrth ofalu am bobl hŷn sy’n fregus. Wrth i fwy a mwy o bobl gyrraedd eu henaint hwyr, bydd ein polisi o annibyniaeth, atal ac ymyrraeth gynnar a amlinellir yn ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’ yn golygu y bydd angen i gartrefi gofal ymateb i’r heriau hynny.

Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i chi y byddaf, yn y Gynhadledd Gwasanaethau Cymdeithasol Genedlaethol yng Nghaerdydd ar 21 Mehefin, yn cyhoeddi y byddaf yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Bydd y Grŵp hwn yn fy nghynghori ynglŷn â’r ffordd orau o gwrdd ag anghenion llety a gofal pobl hŷn, gan gynnwys archwilio’r model adnoddau a fydd yn cynnal yr anghenion hynny. Byddaf yn cyhoeddi’r cylch gorchwyl a’r aelodau yn y man.

Byddaf hefyd yn cyhoeddi datblygiadau pellach gyda fy nghynlluniau ar gyfer Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac, yn arbennig, fy mwriad y dylai’r Fforwm Partneriaeth gwmpasu holl brif bleidiau gwleidyddol Cymru. O ganlyniad, byddaf yn chwilio am aelodau o blith aelodau cabinet yr awdurdodau lleol o bob un o’r pleidiau hyn ynghyd â Chadeirydd y Cyngor Gofal, arweinwyr y sector annibynnol a’r trydydd sector.