Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch Yes Loans Cyf, Cwmbrân.

Yn dilyn ymchwiliad hir gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) i arferion busnes annheg yn Yes Loans, ar 8 Mawrth, cyhoeddodd yr OFT ei fod yn dirymu trwydded gredyd y cwmni.  

Mae Yes Loans yn frocer credyd diwarant sy’n darparu benthyciadau diwrnod cyflog ac Yswiriant Diogelu Taliadau yn ogystal â rheoli hawliadau.  Mae’r cwmni’n cyflogi rhyw 520 o staff yn ei swyddfeydd yng Nghwmbrân.

Penderfynodd yr OFT ddirymu trwydded Yes Loans oherwydd eu bod wedi methu â chydymffurfio â Deddf Credyd Defnyddwyr 1974, methu â chydymffurfio â rheoliadau cysylltiedig ac â gofynion a nodwyd cyn hynny gan yr OFT.  Gall y cwmni apelio yn erbyn y penderfyniad a pharhau i fasnachu trwy gydol unrhyw broses apelio.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r cwmni wrth i’r mater ddatblygu a byddwn yn barod i gynorthwyo’r gweithlu os bydd unrhyw effaith niweidiol ar swyddi.