Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer y trothwyon ar gyfer ad-dalu benthyciadau am flwyddyn ariannol 2022-23. Maent yn cynnwys rhewi'r trothwy am flwyddyn yn achos benthyciadau Cynllun 2 i fyfyrwyr, sef benthyciadau a wnaed ar 1 Medi 2012 neu ar ôl hynny, a chadw lefel bresennol y trothwy ar gyfer benthyciadau Cynllun 3 (ôl-raddedig).
Dyma un o'r rhannau o'r system ar gyfer cyllid myfyrwyr lle mae'n parhau'n anodd iawn i Gymru droedio llwybr amgen. Er bod rhai agweddau ar y polisi wedi'u datganoli mewn deddfwriaeth, nid ydynt wedi'u datganoli'n ymarferol. Mae goblygiadau ymarferol i hyn am nad yw rhai swyddogaethau penodol yn rhan o gylch gwaith Gweinidogion Cymru, megis y drefn ar gyfer gwneud ad-daliadau drwy'r system treth incwm/y cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE), a swyddogaethau sy'n rhoi dyletswyddau ar gyflogwyr.
Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu rhewi'r trothwy yng nghyd-destun Adolygiad Augar, a'r argymhelliad a wnaed ynddo i leihau'r trothwy – argymhelliad y mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno'n gryf ag ef.
Yn y meysydd hynny lle mae polisi addysg uwch wedi'i ddatganoli'n fwy eglur, rydym yn parhau i gymryd camau i sicrhau ein bod yn gallu darparu'r system cyllid myfyrwyr mwyaf blaengar yn y DU. Gall myfyrwyr israddedig yng Nghymru wneud cais am becyn costau byw hael, sy'n gyfwerth â'r Cyflog Byw Cenedlaethol, gan sicrhau bod y myfyrwyr hynny sydd ei angen mwyaf yn cael y cymorth grant uchaf. Mae Cymru hefyd yn cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr ôl-raddedig a rhan-amser ar ffurf cymysgedd o grantiau a benthyciadau, gan roi cyfle i fyfyrwyr o bob cefndir ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig a rhan-amser.
Gall graddedigion yng Nghymru hefyd fanteisio ar gynllun i ddileu rhan o'u dyledion pan fyddant yn dechrau eu had-dalu. Mae'r ‘cynllun dileu rhannol’ yn golygu gostyngiad o hyd at £1,500 i ddyledion myfyrwyr pan fyddant yn gwneud yr ad-daliad cyntaf. Llywodraeth Cymru yw'r unig lywodraeth yn y DU sy'n cynnig y cynllun hwn.
Mae'r cynllun ar gyfer y trothwy ad-dalu am flwyddyn ariannol 2022-23 fel a ganlyn:
Y trothwy ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr Cynllun 2
Ers 2018, mae'r trothwy ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr Cynllun 2 (myfyriwr israddedig sy'n breswylwyr fel arfer yng Nghymru neu fyfyriwr o'r UE sy'n astudio yng Nghymru sy'n dechrau ei gwrs ar 1 Medi 2021 neu ar ôl hynny) wedi cynyddu bob mis Ebrill yn unol â newidiadau i enillion cyfartalog. O dan y polisi hwn, byddai'r trothwy yn cynyddu 4.6% yn ychwanegol ym mis Ebrill 2022.
Fodd bynnag, gallaf gadarnhau y bydd y trothwy ar gyfer ad-dalu i fyfyrwyr Cynllun 2 yn aros ar y lefel bresennol o £27,295 y flwyddyn, £2,274 y mis, neu £534 yr wythnos drwy gydol blwyddyn ariannol 2022-23.
Y trothwy ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig (Cynllun 3)
Gallaf hefyd gadarnhau y bydd y trothwy ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig yn aros ar y lefel bresennol o £21,000 y flwyddyn, £1,750 y mis neu £404 yr wythnos ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU er mwyn ystyried y materion ehangach sy'n effeithio ar fyfyrwyr a graddedigion. Rydym yn bryderus o hyd am y llog a godir ar fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau yn benodol, a byddwn yn parhau i godi'r pwnc hwn fel mater o flaenoriaeth.