Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers 2018, mae’r trothwy ad-dalu benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2 (myfyrwyr israddedig sy’n breswylwyr fel arfer yng Nghymru neu fyfyrwyr o’r UE sy’n astudio yng Nghymru sy’n dechrau eu cwrs ar 1 Medi 2012 neu ar ôl hynny) wedi cynyddu bob mis Ebrill yn unol â newidiadau i enillion cyfartalog. Gwnaed datganiad gennyf i ar 15 Chwefror i gyhoeddi y byddai’r trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau Cynllun 2 yn cael ei rewi am flwyddyn ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.

Ar 24 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ddiwygio’r system cymorth i fyfyrwyr addysg uwch, yn ymateb i adolygiad Augar, ac roeddent yn cynnwys cyhoeddi y byddai’r trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau Cynllun 2 yn cael ei rewi am ddwy flynedd arall ar y lefel bresennol o £27,295. Gwnaed datganiad gennyf i ar 20 Hydref i gyhoeddi na fydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r diwygiadau newydd y bydd Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Cadarnhawyd y byddai benthycwyr Cymru yn aros ar y system bresennol am flwyddyn arall.

Mae hyn yn golygu, yn unol â’r cyhoeddiad ar gyfer benthycwyr yn Lloegr, y bydd y trothwy ar-dalu ar gyfer benthycwyr Cynllun 2 yng Nghymru yn aros ar y lefel bresennol o £27,295 am ddwy flynedd arall, hyd fis Ebrill 2025.

Dyma un o'r rhannau o'r system ar gyfer cyllid myfyrwyr lle mae'n parhau'n anodd iawn i Gymru droedio llwybr amgen. Er bod rhai agweddau ar y polisi wedi'u datganoli mewn deddfwriaeth, nid ydynt wedi'u datganoli'n ymarferol. Mae goblygiadau ymarferol i hyn am nad yw rhai swyddogaethau penodol yn rhan o gylch gwaith Gweinidogion Cymru, megis y drefn ar gyfer gwneud ad-daliadau drwy'r system treth incwm/y cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE), a swyddogaethau sy'n rhoi dyletswyddau ar gyflogwyr.

Yn y meysydd hynny lle mae polisi addysg uwch wedi'i ddatganoli'n fwy eglur, rydym yn parhau i gymryd camau i sicrhau ein bod yn gallu darparu'r system cyllid myfyrwyr mwyaf blaengar yn y DU. Mae gan fyfyrwyr israddedig yng Nghymru lai i’w ad-dalu ar gyfartaledd na myfyrwyr israddedig yn Lloegr gan eu bod yn gallu gwneud cais am becyn costau byw hael o grantiau a benthyciadau, sy'n gyfwerth â'r Cyflog Byw Cenedlaethol. Bydd y myfyrwyr hynny sydd ei angen mwyaf yn cael y cymorth grant uchaf. Mae Cymru hefyd yn cynnig pecyn cymorth sylweddol i fyfyrwyr rhan-amser, ar ffurf cymysgedd o grantiau a benthyciadau, gan roi cyfle i fyfyrwyr o bob cefndir ymgymryd ag astudiaethau rhan-amser.

Gall graddedigion yng Nghymru hefyd fanteisio ar gynllun i ddileu rhan o'u dyledion pan fyddant yn dechrau eu had-dalu. Mae'r ‘cynllun dileu rhannol’ yn golygu gostyngiad o hyd at £1,500 i ddyledion myfyrwyr pan fyddant yn gwneud yr ad-daliad cyntaf. Llywodraeth Cymru yw'r unig lywodraeth yn y DU sy'n cynnig y cynllun hwn.