Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 15 Ebrill, rhoddais wybod i Aelodau'r Cynulliad y dylai cyfleoedd asesu Ionawr barhau i fod ar gael ym mis Ionawr 2014 i’r myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu cyrsiau Safon Uwch ym mis Medi 2012. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod CBAC yn cynnig y cyfleoedd hyn i ddysgwyr yng Nghymru. 

Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi:

  • y bydd cymwysterau UG a Safon Uwch yn parhau i fod yn gymwysterau cysylltiedig yng Nghymru; hynny yw, lle mae'r cymhwyster UG yn cyfrannu at y Safon Uwch lawn; 
  • y bydd gan ddysgwyr yng Nghymru un cyfle i ailsefyll pob un o fodiwlau’r cymwysterau UG a Safon Uwch - a fydd ar gael bob haf, gyda'r marc gorau yn cyfrif tuag at y radd derfynol; ac
  • ar ôl Ionawr 2014, ni fydd cyfle i ddisgyblion gael eu hasesu ym mis Ionawr ar gyfer cymwysterau TAG (UG a Safon Uwch).

Bydd cael gwared ag asesiadau mis Ionawr yn lleihau'r amser a gaiff ei wario ar asesiadau yn hytrach nag ar ddysgu; bydd yn gwneud y system yn symlach ac yn fwy cost-effeithiol; a bydd yn lleihau'r baich arholi ar athrawon a dysgwyr.  Mae'r penderfyniad i gadw'r strwythur UG/Safon Uwch yng Nghymru yn cyd-fynd â safbwyntiau'r grwpiau perthnasol yng Nghymru a thu hwnt ynghylch rhinweddau'r system bresennol, a bydd yn parhau i ddarparu gwybodaeth werthfawr i Sefydliadau Addysg Uwch am y cynnydd y mae darpar-ymgeiswyr yn ei wneud.

Er y bydd cael gwared ar ffenest asesu mis Ionawr yn lleihau'n sylweddol y cyfleoedd i ddysgwyr ailsefyll modiwlau, i unwaith ar gyfer pob modiwl, fel yn achos TGAU ar hyn o bryd, bydd yn gyson ag argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau - fel sy'n wir am y cyhoeddiadau hyn i gyd.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda CBAC a grwpiau perthnasol eraill - gan gynnwys cyflogwyr a phob math o Sefydliadau Addysg Uwch, i ddatblygu'r argymhellion hyn. Efallai y bydd yr aelodau hefyd yn ymwybodol bod y cynigion hyn yn debyg i'r rhai a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon, ac rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ymchwilio ynghylch y posibilrwydd o drafod gyda'n cydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon i gytuno ar rai o fanylion y cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig.  

Daeth yr Adolygiad o Gymwysterau i'r casgliad bod cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn gymwysterau sy'n ennyn hyder a bod pobl yn rhoi gwerth arnynt. Drwy ddiwygio addas, a amserir yn briodol, gallwn sicrhau bod y cymwysterau hyn yn rhai gwell byth ac o safon sy'n cymharu â gweddill y DU a thu hwnt. Yng Nghymru, nid yw ein cefnogaeth i gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wedi gwegian ac rydym yn dal i fod yn ymroddedig i'w cadw.