Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Heddiw, bydd y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De yn cyhoeddi ei gynllun gweithredu lefel uchel, Ein Cymoedd, Ein Dyfodol.
Mae’r cynllun yn amlinellu blaenoriaethau’r tasglu ar gyfer y dyfodol, yn seiliedig ar waith ymgysylltu eang gyda phobl sy’n byw a gweithio yn y Cymoedd. Mae’n seiliedig hefyd ar dystiolaeth y mae’r tasglu wedi’i chasglu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Ein Cymoedd, Ein Dyfodol wedi’i ddatblygu yn seiliedig ar dair blaenoriaeth allweddol:
- Swyddi o ansawdd da a’r sgiliau i’w cyflawni
- Gwell gwasanaethau cyhoeddus
- Y gymuned leol
Gweledigaeth y tasglu yw cau’r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru erbyn 2021. Gwneir hyn trwy helpu 7,000 o bobl ychwanegol i ddod o hyd i waith a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd.
Mae Ein Cymoedd, Ein Dyfodol yn amlinellu pob math o gamau gweithredu i gyflawni’r nod hwn, gan gynnwys creu chwe safle strategol newydd mewn ardaloedd penodol ledled y Cymoedd lle byddwn yn ceisio canolbwyntio gwariant i roi cyfle i’r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd. Bydd y tasglu’n gweithio gyda chymunedau lleol ac awdurdodau lleol i ddatblygu’r canolfannau hyn ymhellach i sicrhau bod eu ffocws yn adlewyrchu’r cyfleoedd ym mhob ardal.
Dyma’r chwe safle:
- Pontypridd/Trefforest, yn canolbwyntio ar ddatblygiadau preswyl, swyddfa, diwydiannol a manwerthu
- Caerffili/Ystrad Mynach, yn canolbwyntio ar ddatblygiadau preswyl, swyddfa a diwydiannol
- Cwmbrân, yn canolbwyntio ar ddatblygiadau swyddfa, diwydiannol a phreswyl
- Merthyr Tudful, yn canolbwyntio ar ddatblygiadau swyddfa, diwydiannol a phreswyl
- Castell-nedd, yn canolbwyntio ar ddatblygiadau diwydiannol, preswyl, digidol ac ynni
- Glyn Ebwy, yn canolbwyntio ar barc busnes modurol newydd
Byddwn yn ceisio sicrhau hefyd fod mwy o swyddi sector cyhoeddus yn cael eu hadleoli yng Nghymoedd y De, gan gynnwys yn y chwe safle strategol, lle bo hynny’n briodol.
Yn ystod yr holl gyfarfodydd cyhoeddus a sgyrsiau a gafwyd gyda phobl sy’n byw a gweithio yn y Cymoedd, dywedodd pobl wrthym nad yw gwasanaethau cyhoeddus mor gydgysylltiedig ag y gallent fod.
Mae Ein Cymoedd, Ein Dyfodol yn amlinellu gwaith sydd wedi cychwyn mewn tair cymuned yn y Cymoedd i nodi rhwystrau sy’n atal gweithredu cymunedol rhag cyrraedd ei botensial llawn. Bydd yr hyn a ddysgwyd o’r prosiectau braenaru hyn yn Llanhiledd, Glynrhedynnog a Glyn-nedd a Banwen yn helpu i sbarduno newid yn Llywodraeth Cymru ac ar draws gwasanaethau lleol.
Clywodd y tasglu bob math o sylwadau am y Cymoedd eu hunain, gan gynnwys harddwch naturiol y dirwedd a phryderon ynghylch hygyrchedd. Mae’r cynllun yn cynnwys ymrwymiad i archwilio datblygiad Parc Tirweddau’r Cymoedd, a fydd yn helpu cymunedau lleol i weithio gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i fanteisio’n llawn ar dreftadaeth ac adnoddau naturiol eu hardal.
Y bobl sy’n byw a gweithio ym mhob cymuned sy’n adnabod yr ardaloedd hyn orau. Felly, byddwn yn gofyn iddynt ddylunio a datblygu cynigion a fydd yn diwallu eu hanghenion penodol.
Mae sefydliad y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De yn gyfle cyffrous i ganolbwyntio ymdrechion ac adnoddau ar draws llywodraeth er mwyn gwneud newidiadau go iawn a fydd yn para i’r dyfodol. Y cam nesaf yw troi’r blaenoriaethau lefel uchel hyn yn gamau gweithredu penodol.
Bydd y tasglu’n gweithio gyda phobl o bob cwr o Gymoedd y De i ddatblygu cynllun cyflawni a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau wrth i waith y tasglu ddatblygu dros y misoedd nesaf.