Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cafodd cyfnod o wyliadwriaeth swyddogol ei sefydlu yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn sgil symud dau anifail oedd wedi'u heintio â BTV-3 i'r ardal. Mae’n bleser cael dweud bod y cyfnod wedi dod i ben. Cafodd yr anifeiliaid heintiedig hyn eu darganfod yn y lle cyntaf gan APHA drwy olrhain symudiadau anifeiliaid risg uchel. Mae APHA wedi bod yn gweithio'n ddiflino i helpu i gadw Cymru'n rhydd o'r Tafod Glas. Ni wnaeth y cyfnod o wyliadwriaeth ddatgelu rhagor o achosion o'r haint, ac felly gallaf gadarnhau bod cyfyngiadau'r Tafod Glas ar y ddwy fferm yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru wedi'u codi.
Hoffwn ddiolch i APHA a Sefydliad Pirbright, a Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol am eu hymchwiliadau i'r digwyddiadau hyn ac am eu datrys. Hoffwn ddiolch hefyd i'r ffermwyr dan sylw am eu hamynedd a'u cydweithrediad gyda mesurau rheoli ac ymchwil y clefyd.
Roeddem yn lwcus mai achosion y bu "bron iddynt ddigwydd" oeddynt ac nad yw'r clefyd wedi lledaenu ymhellach yng Nghymru. Fodd bynnag, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau mewn cysylltiad â chlefydau anifeiliaid. Rhaid i mi bwysleisio eto mor bwysig yw prynu da byw o le cyfrifol a diogel er mwyn cadw'r Tafod Glas allan o Gymru. Symudiadau da byw yw'r perygl mwyaf o bell ffordd i dda byw Cymru.
Bydd polisi Llywodraeth Cymru o beidio â chaniatáu i anifeiliaid all ddal yr haint symud o'r parth cyfyngedig yn Lloegr, ac eithrio i ladd-dy dynodedig, yn parhau ac yn sail i ymdrechion y diwydiant. I helpu ffermwyr a milfeddygon, mae APHA wedi darparu map rhyngweithiol o'r Tafod Glas i bobl allu gweld, trwy fwydo cod post, maint y parth cyfyngedig, ac rwy'n annog pawb i'w ddefnyddio cyn prynu da byw.
Mae'n hanfodol bod ffermwyr, milfeddygon a masnachwyr da byw yn gweithio gyda'i gilydd,yn cymryd pob gofal ac yn cadarnhau o ble mae'r anifeiliaid yn dod a'u statws iechyd cyn iddynt symud. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni i ddiogelu iechyd a lles ein buchesi a'n diadelloedd, ac rwy'n annog pob ceidwad i feddwl nid yn unig am y risgiau i'w hanifeiliaid eu hunain wrth symud da byw, ond i anifeiliaid eu cymdogion hefyd.
Hoffwn ddiolch hefyd i'n partneriaid yn y sectorau amaethyddol a milfeddygol am gadw mewn cysylltiad â'm swyddogion ynghylch y Tafod Gleision. Trwy bartneriaeth y mae datrys her clefydau anifeiliaid, a'n huchelgais gyda'n gilydd yw cadw da byw Cymru yn ddiogel.
Er na allwn ragweld beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig i ni, wrth feddwl am wanwyn nesaf, rhaid bod yn barod i wynebu twf posibl yn y Tafod Glas. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag APHA, Sefydliad Pirbright a gweinyddiaethau eraill y DU i sicrhau ein bod yn barod.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda'n gweithgor diwydiant, i ddiogelu Cymru. Byddwn yn ystyried eu cyngor ar faterion strategol pwysig, megis rôl brechu da byw yn erbyn y Tafod Glas.
Am y tro, rhaid cadw golwg am y Tafod Glas a rhoi gwybod i APHA am unrhyw arwyddion er mwyn atal y clefyd rhag cydio yng Nghymru. Os oes gennych unrhyw amheuon bod anifail wedi dal y clefyd, rhaid i geidwaid a milfeddygon ei riportio er mwyn i ni allu gweithredu'n gyflym ac atal y feirws rhag ennill troedle. Er bod y tymheredd yn is ar hyn o bryd, mae gwybed yn dal i fod ar hyd y lle, a gall gwybed heintiedig achosi heintiau newydd o hyd wrth gael pryd o waed.
Nod fy mholisi o hyd yw cadw'r tafod Glas allan o Gymru, er lles ein hanifeiliaid a'r rhai sy'n eu cadw. Drwy weithio gyda'n gilydd, dyna'r cyfle gorau i gadw'r clefyd allan o Gymru.