Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd yr achos cyntaf yng Nghymru o seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) ei gadarnhau noson 27 Medi gan y Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol (DCVO). Cafwyd hyd iddo mewn tair dafad a oedd wedi cael eu symud i fferm yng Ngwynedd o ddwyrain Lloegr. Mae'r Tafod Glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan fathau o wybed sy'n brathu. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas). Nid yw'n peryglu bwyd na phobl. 

Ddydd Sadwrn 28 Medi, yn unol â'n cynllun ar gyfer rheoli'r tafod glas, cafodd y tair dafad heintiedig eu difa a'u gwaredu i leihau'r risg o drosglwyddo feirws y Tafod Glas i wybed lleol. Mae'r defaid wedi cael eu prisio a bydd y perchennog yn derbyn iawndal.  Cafodd y defaid eu symud i Gymru cyn i'r cyfyngiadau gael eu gosod yn Lloegr.  Polisi Llywodraeth Cymru yw gwahardd symud anifeiliaid all ddal y clefyd o'r parth cyfyngedig yn Lloegr, ac eithrio i ladd-dai dynodedig.

Ers cael gwybod am yr achos, mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi cymryd llawer o samplau ac mae Sefydliad Pirbright wedi cynnal llawer o brofion labordy. Mae'r holl ddefaid eraill gafodd eu symud i'r daliad yr un pryd â'r defaid heintiedig wedi cael canlyniadau negatif i'w profion. Derbyniwyd canlyniadau terfynol y profion a gynhaliwyd ar y defaid a'r gwartheg oedd eisoes ar y daliad heddiw. Roedd pob un yn negatif. 

Gan fod yr holl dda byw oedd eisoes ar y daliad wedi cael canlyniadau negatif, casgliad interim y DCVO yw nad yw'n debygol bod gwybed lleol yn cario'r Tafod Glas.  Bydd rhagor o samplu a phrofion yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf i gadarnhau'r farn hon.

Bydd y daliad yn aros o dan gyfyngiadau, gyda gwaharddiad ar symud da byw i'r fferm ac oddi arni, nes y ceir canlyniadau rhagor o brofion.  Ar hyn o bryd, ni fyddwn yn gosod cyfyngiadau ehangach yn yr ardal.

Nod fy mholisi o hyd yw cadw'r tafod glas allan o Gymru, er lles ein hanifeiliaid a'r rhai sy'n eu cadw.   

Rwy’n deall y bydd llawer o ffermwyr yn poeni am y Tafod Glas. Mae delio'n llwyddiannus â chlefydau fel hyn yn gofyn am gydweithio rhwng ffermwyr, milfeddygon a gwahanol asiantaethau'r llywodraeth.  Hoffwn ddiolch i ffermwyr yng Nghymru am fod mor wyliadwrus.  Rwy'n ddiolchgar i bawb am y camau cyflym a gymerwyd i ddelio â'r digwyddiad hwn. 

Mae ceidwaid anifeiliaid wedi cael eu hannog i brynu stoc o ffynonellau dibynadwy, i gadw golwg am arwyddion y Tafod Glas ac i roi gwybod ar unwaith i'r Asiantaeth Iechyd Planhigion Anifeiliaid os amheuir bod achos o'r clefyd. Rydym yn ddiolchgar i'r sectorau da byw a milfeddygol ac eraill am ledaenu'r negeseuon hyn i'r diwydiant ehangach.