Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 25 Medi 2014 fod System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn cael ei chyflwyno ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Cyhoeddais hefyd yr ystod o fesurau a fydd yn cael eu defnyddio i asesu ysgolion cynradd ac addewais roi diweddariad pellach maes o law ar y mesurau ar gyfer ysgolion uwchradd.

Bydd y system newydd yn asesu ysgolion ar sail model tri cham:

  • Cam Un: dyfarniad ynghylch perfformiad ysgol, a'r safonau yn yr ysgol, gan ddefnyddio ystod o fesurau perfformiad a ddarperir gan Lywodraeth Cymru; 
  • Cam Dau: dyfarniad ynghylch gallu ysgol i wella ei hunan, yn seiliedig ar hunanwerthuso cadarn mewn perthynas â'r arweinyddiaeth, y dysgu a'r addysgu; 
  • Cam Tri: cyfuniad o'r ddau ddyfarniad yn arwain at ddosbarthu ysgol i gategori lliw, wedi'i gadarnhau gan Gynghorwyr Herio o’r consortia addysg ac fel a gytunwyd gan yr awdurdod lleol.  

Bydd y penderfyniad hwn hefyd yn cael ei gymedroli gan grŵp sicrhau ansawdd a safoni i sicrhau cysondeb mewn consortiwm unigol ac ar draws yr holl gonsortia.

Rhoddwyd eglurhad manwl yn y Datganiad Ysgrifenedig a ryddhawyd ar 25 Medi 2014 o'r ffordd y bydd y system tri cham ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn gweithio.

Rydym wedi gwrando ar adborth gan randdeiliaid ac wedi gweithio’n agos â’r awdurdodau lleol a'r consortia wrth inni adolygu'r mesurau a ddefnyddiwyd ar gyfer Bandio ysgolion uwchradd. Fel y soniais yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddais cyn hyn ar y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion, mae'r system yn adeiladu ar lwyddiant Bandio ond, erbyn hyn, mae wedi datblygu'n ddull mwy holistaidd o fynd ati i wella ysgolion. Fel yn achos ysgolion cynradd, bydd hwn yn fodel absoliwt. Bydd hyn yn golygu y gall ysgolion sy'n gallu dangos gwelliant yn erbyn eu llinellau sylfaen eu hunain symud i fyny yn y system heb i ysgol arall orfod symud i lawr yn y system.

Mae 14 o fesurau perfformiad ar gyfer ysgolion uwchradd:

Trothwy Lefel 2 yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a mathemateg (L2 yn cynnwys C/S a M).
a. Perfformiad cyffredinol dros y tair blynedd flaenorol
b. Perfformiad disgyblion cymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM) yn ystod y tair blynedd flaenorol
c. Cynnydd cymharol (yn seiliedig ar berfformiad cyffredinol)
d. Perfformiad yn erbyn lefel Prydau Ysgol am Ddim (FSM) yr ysgol

Sgôr Pwyntiau wedi'i Chapio yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a mathemateg (mesur newydd)
a. Perfformiad cyffredinol dros y tair blynedd flaenorol
b. Perfformiad disgyblion eFSM yn ystod y tair blynedd flaenorol
c. Cynnydd cymharol (yn seiliedig ar berfformiad cyffredinol)
d. Perfformiad yn erbyn lefel FSM yr ysgol

5+ A*-A neu gyfwerth (mesur newydd) 
a. Perfformiad cyffredinol dros y tair blynedd flaenorol
b. Perfformiad disgyblion eFSM yn ystod y tair blynedd flaenorol
c. Cynnydd cymharol (yn seiliedig ar berfformiad cyffredinol)
d. Perfformiad yn erbyn lefel FSM yr ysgol

Presenoldeb 
a. Perfformiad cyfredol yn erbyn lefel FSM yr ysgol
b. Absenoldebau cyson yn erbyn lefel FSM yr ysgol

Mae'r model yn cynnwys dau fesur newydd – y Sgôr Pwyntiau wedi'i Chapio yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a mathemateg a chyflawni 5A*-A neu gyfwerth. Ceir disgrifiad fanylach o'r dangosyddion hyn isod:

Sgôr Pwyntiau wedi'i Chapio yn cynnwys Cymraeg/Saesneg a mathemateg

Caiff hwn ei gyfrifo mewn ffordd debyg iawn i'r Sgôr Pwyntiau wedi'i Chapio a gyfrifir eisoes, heblaw bod canlyniad gorau disgybl mewn mathemateg, a'i ganlyniad gorau mewn Cymraeg  Iaith/Llenyddiaeth neu Saesneg Iaith/Llenyddiaeth, yn cael eu cynnwys yn awtomatig, yn ogystal â'r chwe chymhwyster gorau arall. Gall y chwe chymhwyster gorau sy'n weddill gynnwys unrhyw un o'r cymwysterau mathemateg neu Cymraeg/Saesneg nad ydynt wedi'u cyfrif fel cymwysterau gorau y disgybl yn y pynciau hynny. Os nad oes gan ddisgybl gymhwyster mewn mathemateg neu mewn Cymraeg/Saesneg, yna bydd ei sgôr yn sero ar gyfer y cymhwyster hwnnw wrth gyfrifo'r sgôr pwyntiau.

Mae'r mesur newydd hwn yn gyson â'r cyfeiriad rydym yn symud iddo ar gyfer mesur perfformiad ysgolion ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4. Cyhoeddais eisoes fy mod yn bwriadu gosod mwy o bwyslais yn y dyfodol ar Sgôr Pwyntiau wedi'i Chapio ar ei newydd wedd a fydd yn galw am gyrhaeddiad mewn TGAU Cymraeg Iaith neu Saesneg Iaith, TGAU Mathemateg-Rhifedd a TGAU Mathemateg yn ogystal â dau gymhwyster gwyddoniaeth gorau'r disgybl.

5+ A*-A neu gyfwerth 
Mae hwn yn debyg i fesur trothwy Lefel 2, ond rhaid i ddisgybl gyflawni o leiaf 5 TGAU gradd A* neu A neu gyfwerth cyn cyflawni'r dangosydd hwn. Ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn TGAU, rydym yn cyfrifo mesur cyfwerth yn seiliedig ar werth gradd A mewn TGAU.

Mae'r mesurau perfformiad newydd ar gyfer ysgolion uwchradd yn rhoi ffocws diwyro ar fy nhair blaenoriaeth ar gyfer gwella llythrennedd, gwella rhifedd a lleihau'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol.  Rydym ni wedi codi'r bar, a hynny'n fwriadol.  

Mae mwy o ffocws ar berfformiad disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM) yn y System Gategoreiddio. Yn ogystal ag edrych ar berfformiad pob disgybl yng nghyd-destun lefelau FSM yr ysgol, rydym hefyd yn edrych ar berfformiad disgyblion eFSM yn benodol ym mhob grŵp data. Pan fo llai na 25.8 y cant (cyfartaledd cenedlaethol 2013, a fydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n flynyddol) o ddisgyblion eFSM yn cyflawni Lefel 2 yn cynnwys C/S a M, bydd yr ysgol yn cael ei gosod yn y categorïau isaf. Fodd bynnag, lle bo carfannau yn fach iawn neu lle ceir cyfran uchel o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig, caiff hyn ei drafod a'i ystyried gyda'r ysgol ar lefel leol cyn dod i ddyfarniad proffesiynol.

Rwy'n ymwybodol, fodd bynnag, fod cyd-destun yr ysgol yn chwarae rhan fawr yn neilliannau disgyblion, er nad yw'n esgusodi perfformiad gwael ychwaith. Yn ystod Cam Dau y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion, bydd y consortia yn dod i ddyfarniad yn seiliedig ar gyd-destun ysgol a'r gwerth ychwanegol y mae'r ysgol yn ei gynnig i gyfleoedd bywyd disgyblion.

Ar ôl dilysu'r data, bydd categorïau pob ysgol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Fy Ysgol Leol, ym mis Ionawr bob blwyddyn. Bydd canllawiau llawn ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a'r consortia, yn ogystal â chanllaw i rieni, ar gael cyn hir ar wefan Llywodraeth Cymru.