Dawn Bowden AS, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith hirdymor y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni ein huchelgais i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Cyhoeddodd fy rhagflaenydd, Julie Morgan, y cyn Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiadau ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2023 a mis Mawrth 2024 ynglŷn â'r cynnydd.
Heddiw, rwy'n darparu diweddariad pellach am y broses o greu Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth, sy'n rhan o'r cam cyntaf tuag at sicrhau Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.
Mae'r swyddfa bellach yn weithredol ac yn canolbwyntio ar dri maes craidd, yn ogystal â sicrhau dull cydweithredol ac agored:
- Cefnogi Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru
- Datblygu, gweithredu a darparu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Cymru yn barhaus
- Gweithredu a rheoli'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yn barhaus.
Bydd y swyddfa genedlaethol yn darparu cymorth arweiniol canolog i’r sector drwy ysgogi gwelliannau yn y ddarpariaeth genedlaethol o ofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn sicrhau cydweithio; a chanlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Bydd hefyd yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi cael ei wneud i wella'r ffordd y caiff data a chanlyniadau gofal cymdeithasol eu coladu, gan roi darlun cliriach o'r ffordd y bydd darpariaeth gwasanaethau'n cael ei lywio gan dystiolaeth ymchwil, a helpu'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i hybu llais cryfach i'r sector.
Bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol, a'r blynyddoedd cynnar, gan weithio'n agos gyda Gweithrediaeth GIG Cymru i sicrhau bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn cyflawni'r weledigaeth o gael dull system gyfan fel y nodir yn y strategaeth Cymru Iachach.