Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Wrth i ni nesáu at y cyfnod sy'n weddill o'n strategaeth 2008-18, "Gweithio gyda'n gilydd i Leihau Niwed", mae Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi bron i £50 miliwn yn flynyddol i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae ein strategaeth yn gosod agenda genedlaethol glir ar gyfer ymdrin â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, sy'n cael effaith mor ddinistriol ar unigolion, eu teuluoedd a'n cymunedau.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau ar gyfer 2015, sy'n amlinellu'r cynnydd yr ydym wedi ei wneud yn ystod y 12 mis diwethaf. Yn hollbwysig, gallwn ddangos bod ein gwaith yn y maes hwn yn gwneud argraff. Rydym wedi gweld tuedd gyffredinol o welliant dros y 5 mlynedd ddiwethaf o ran amseroedd disgwyl ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio gwasanaethau triniaeth, ac mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos gostyngiadau mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac mewn marwolaethau cysylltiedig ag alcohol hefyd yng Nghymru.  

Bydd ein cynllun cyflawni nesaf yn glir ynghylch y cyfraniad y gall yr agenda camddefnyddio sylweddau ei wneud i gyrraedd y nodau a osodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cafodd y cynllun hefyd ei ddatblygu yn unol ag egwyddorion iechyd a gofal darbodus. Yn wir, mae’r ffordd y mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi cael eu siapio a’u darparu yn y blynyddoedd diwethaf yn darparu tystiolaeth dda o iechyd a gofal darbodus ymarferol. Mae'r maes polisi hwn, sy’n rhoi pwys ar adeiladu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth i mewn o’r dechrau ac sy’n cael ei gyflawni gan weithwyr proffesiynol yn y sector statudol ac yn y trydydd sector, yn enghraifft dda o'r modd y mae'r egwyddorion hyn yn sylfaen i’r gwasanaeth a ddarperir ac mae enghreifftiau o'r dull hwn wedi cael eu rhannu drwy gyfrwng ein hadnodd, rhoi gofal iechyd darbodus ar waith: http://www.prudenthealthcare.org.uk/cy.

Mae adroddiad 2015, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed dros y deuddeng mis diwethaf, sy'n cynnwys gwaith pellach i adeiladu ar lansiad y 'Fframwaith Adferiad' ym mis Chwefror 2014. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gydag ymarferwyr i ddatblygu a lledaenu hyfforddiant 'O Theori i Ymarfer' ar gyfer comisiynwyr a darparwyr er mwyn sicrhau bod dulliau sy'n seiliedig ar adferiad wedi eu hintegreiddio'n llawn i'r gwasanaethau craidd ar gyfer trin camddefnydd o sylweddau.

Mae lleihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i wenwyn, cysylltiedig â chyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau, yn parhau yn flaenoriaeth allweddol, a derbyn yr effaith drychinebus y maent yn ei chael ar deuluoedd a'r gymuned ehangach. Dengys ystadegau, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2015, ostyngiad o 30% mewn marwolaethau camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru ers 2010, sy'n groes i'r duedd mewn mannau eraill yn y DU. Mae'n eglur i ni fod cymryd camau'n fuan i ddatblygu mentrau wedi cael effaith sylweddol o ran y gostyngiad mewn marwolaethau ledled Cymru. Yn ystod 2014-15, mae nifer y pecynnau a ddosbarthwyd o Naloxone i'w Gymryd Gartref (THN), sy'n cildroi effeithiau gorddos o opiadau, wedi cynyddu o 55%, gyda 2,785 o becynnau wedi cael eu cyflenwi. O'r rhain, defnyddiwyd 257 o becynnau mewn digwyddiadau gwenwyn opioidau.


Gwelsom hefyd dwf yn nifer y bobl a gafodd eu hasesu a'u trin gan y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chynnydd o 11% yn y cleientiaid a aseswyd a chynnydd o 10% yn y nifer a gafodd driniaeth. Hyd yn oed gyda'r cynnydd sylweddol yma yn y niferoedd, mae'r amseroedd disgwyl wedi aros yn gyson, gydag 87% o gleientiaid yn cael eu gweld o fewn 20 diwrnod.

Nid ydym wedi celu'r ffaith ein bod yn siomedig na chymerodd Llywodraeth y DU gamau cryfach i leihau'r niwed cysylltiedig ag alcohol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i gefnogi Bargen Cyfrifoldeb Iechyd Cyhoeddus Llywodraeth y DU a'r chwe adduned newydd a gyhoeddwyd y llynedd. Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu Rhwydwaith Diwydiant Alcohol Llywodraeth Cymru, i'n cynorthwyo i ddeall sut y mae'r addunedau hyn yn cael eu cyflawni yng Nghymru.  

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan bendant yn y gwaith o adolygu’r canllawiau alcohol, sy'n cael ei arwain gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU, ac rydym yn parhau i ledaenu ymyriadau byrion alcohol ar draws Cymru, gan gynnwys arbrofi gyda'r rhaglen yn y gweithle.  

Rydym hefyd yn ymdrechu'n barhaus i wella ansawdd y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ac rydym yn cynnal peilot ar fframwaith newydd, sy'n gofyn i bob lleoliad adferiad preswyl gael ei ddarparu gan wasanaethau sy’n cydymffurfio â’r safonau craidd cenedlaethol ar gyfer camddefnyddio sylweddau.

Rydym yn dal i weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac mae heriau sylweddol yn parhau, y bydd angen i ni ymdrin â hwy yn y flwyddyn sydd i ddod. Rwyf wedi gofyn i'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau ystyried argymhellion yr Ymchwiliad i Sylweddau Seicoweithredol Newydd, a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'n cynghori sut y gallwn gryfhau ein hymateb o ran polisi. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad y panel ar ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ymhlith y boblogaeth sy'n heneiddio, sydd i gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Bydd gwaith yn parhau hefyd i gryfhau ein hymateb i'r Niwed i’r Ymennydd Cysylltiedig ag Alcohol (ARBD) drwy adeiladu ar y gwaith sylfaenol sydd wedi cael ei wneud gan Ganolfan Adferiad Brynawel, Alcohol Concern Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill.

Mae’r adroddiad cysylltiedig yn rhoi mwy o fanylion am y cynnydd yr ydym yn ei wneud o ran gweithredu ein strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd a'r cynllun cyflawni sy'n ei hategu. Mae mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn dal i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Trwy barhau i fuddsoddi yn yr agenda camddefnyddio sylweddau, trwy gadarnhau ymhellach egwyddorion iechyd a gofal darbodus a thrwy gydweithrediad parhaus gyda phartneriaid ar draws Cymru, byddwn yn parhau i wneud cynnydd yn y maes pwysig hwn.