Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn  dilyn Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 a gyhoeddwyd gennyf yr wythnos ddiwethaf, heddiw rwy'n rhannu manylion y dyraniadau cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol yn 2018-19. Mae'r datganiad hwn hefyd yn rhoi manylion y setliad cyffredinol dangosol ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Bydd hyn yn rhoi sylfaen gadarn i awdurdodau lleol ar gyfer bwrw ymlaen â'u proses gosod y gyllideb eu hunain am y ddwy flynedd sydd i ddod.

Ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd gostyngiad o 0.5 y cant yn y cyllid craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2018-19 o'i gymharu ar sail gyfatebol â'r flwyddyn bresennol. Gostyngiad pellach o 1.5% yw'r setliad dangosol ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Mae hyn yn cynnwys yr effaith y bydd y £3.5 biliwn o doriadau heb eu dyrannu y mae Canghellor y Trysorlys yn bwriadu eu gorfodi yn 2019/20 yn ei chael ar gyllideb Llywodraeth Cymru.  

Os bydd y Canghellor yn dilyn ein cyngor ac nid yn bwrw ymlaen â’r toriadau yng  Nghyllideb yr Hydref wedyn fy mlaenoriaeth gyntaf fydd i edrych eto ar y toriadau rydym yn gorfod gwneud, gan gynnwys ar gyfer Llywodraeth Leol.

Mae hwn yn setliad realistig, sy'n parhau i ddiogelu llywodraeth leol rhag toriadau sylweddol yn erbyn cefndir o ostyngiad parhaus yn y cyllidebau a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn golygu y bydd gan awdurdodau lleol £4.2 biliwn i'w wario ar gyflenwi gwasanaethau allweddol y flwyddyn nesaf. Mae £1.8 miliwn o gyllid gwaelodol yn gynwysedig yn y cyfanswm hwn i sicrhau nad oes raid i unrhyw awdurdod ymdopi â gostyngiad o fwy nag 1% i'w Grant Cymorth Refeniw y flwyddyn nesaf.

O dan y setliad, mae cyllid wedi’i ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel addysg a gofal cymdeithasol. Mae £62 miliwn arall wedi’i rhoi i elfen ysgolion y setliad yn 2018-19. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cynnal cyfran gwariant cyllid craidd tybiedig Llywodraeth Cymru ar ysgolion ar yr un lefel â 2017-18. Bydd hwn yn codi i £108 miliwn yn 2019-20, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i barhau i fuddsoddi mewn addysg ac i flaenoriaethu cyllid ar gyfer ysgolion mewn setliad sy'n dynnach yn gyffredinol.

Bydd £42 miliwn arall yn cael ei rhoi i elfen gofal cymdeithasol y setliad yn 2018-19. Felly, byddwn yn cynnal cyfran gwariant cyllid craidd tybiedig Llywodraeth Cymru ar ofal cymdeithasol ar yr un lefel â 2017-18. Bydd y gwariant hwn yn cynyddu i £73 miliwn yn 2019-20, gan adlewyrchu, hyd yn oed pan fo'r setliad cyffredinol yn dynnach eto, ein bod yn cydnabod bod angen buddsoddi mewn gofal cymdeithasol.

Mae'r setliad hefyd yn cynnwys £6 miliwn arall fel cymorth ar gyfer cyflenwi gwasanaethau lleol i fodloni dyletswyddau atal digartrefedd, sy'n ychwanegol at y £6 miliwn a ddarparwyd gennym yn y setliad ar gyfer 2017-18.

Yn ogystal â'r setliad, rydym yn darparu £600,000 i gefnogi llywodraeth leol i roi'r gorau i godi tâl am gladdedigaethau plant. Mae hyn yn cydnabod y camau cadarnhaol a gymerwyd eisoes gan gynghorau ym mhob cwr o Gymru, ac yn adeiladu arnynt. Mae hefyd yn sefydlu trefn deg a chyson ar draws Cymru.

Drwy Gynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, er gwaetha'r diffyg yn y cyllid sy'n cael ei drosglwyddo gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor, mae’r Llywodraeth Cymru hon wedi ymrwymo o hyd  i ddiogelu aelwydydd incwm isel, ac sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol, rhag unrhyw ostyngiad mewn cymorth.

Rwyf wedi cadarnhau eisoes bod Llywodraeth Cymru yn mynd i barhau i gynnal hawliadau llawn o dan ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2018-19. Rydym unwaith eto yn darparu £244 m ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn y Setliad Llywodraeth Leol. Bydd y trefniadau o 2019-20 ymlaen yn cael eu pennu fel rhan o'n hystyriaethau ehangach i sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy teg.

Cyn cytuno ar y setliad terfynol, byddwn yn ystyried y dystiolaeth bellach a gaglwyd ar effaith ariannol cynyddu'r terfyn cyfalaf a ddefnyddir ar gyfer codi tâl am ofal preswyl. Bydd hyn yn caniatáu inni benderfynu ar y cam nesaf ar gyfer cynyddu'r terfyn hwn i gyflawni ein hymrwymiad i'w godi i £50,000 yn ystod oes y llywodraeth hon.

Mae llywodraeth leol Cymru yn dal i gael ei diogelu rhag effeithiau cyni cyllidol, fel yr eglurwyd eisoes, ond rwy'n cydnabod hefyd bod y setliad hwn yn dal i gynrychioli toriad mewn termau real yn y cyllid craidd. Rhaid cofio hefyd fod hyn ar adeg pan fo awdurdodau o dan bwysau gwirioneddol yn wyneb materion megis y boblogaeth sy'n heneiddio, tâl a phwysau eraill yn sgil chwyddiant.

Mae'n hanfodol, felly, ein bod ni'n parhau i gydweithio i gyflawni arbedion. Rwyf wedi gwrando’n astud ar yr achos a gyflwynwyd gan gynghorau Cymru mai un ffordd o wneud hynny fyddai drwy leihau'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â grantiau penodol, a rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau o ran sut y maent am ddefnyddio'r adnoddau hyn. Mae’r setliad hwn yn cynnwys mwy na £90 miliwn sy’n cael ei roi ar ffurf grantiau penodol ar hyn o bryd. Yn rhan o’r swm hwnnw, mae £30 miliwn yn cael ei ddarparu fel grantiau gofal cymdeithasol, £27 miliwn yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd ar gyfer y Grant Byw'n Annibynnol a £35 miliwn ar gyfer y Grant Refeniw Sengl.

Yn ogystal â chydgrynhoi grantiau yn y Grant Cymorth Refeniw, rydym hefyd yn cyfuno grantiau eraill, gyda fframweithiau canlyniadau i gefnogi hyn. Mae hyn yn rhoi mwy o sefydlogrwydd ar gyfer awdurdodau lleol ac yn lleihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â chyllid grant.

Bydd mwy o wybodaeth am grantiau ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â'r wybodaeth fanwl am y Gyllideb ar 24 Hydref.

Mae'r rhaglen beilot gydweithredol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y sector cyhoeddus yn ardal Cwm Taf wedi dangos bod cyfleoedd clir i'r sector cyhoeddus ym mhob cwr o Gymru wneud arbedion drwy ddefnyddio tir ac asedau adeiladu yn well.  Rhyddheais £2 m yn gynharach yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r gwaith o asesu'r agenda ar gyfer mapio asedau sy'n cael ei chyflwyno drwy'r Gweithgor Asedau Cenedlaethol. Bydd swyddogion yn cynnig cymorth ariannol cyn hir i hwyluso trefniadau gwell ar gyfer cipio data ar eiddo a mapio asedau, gan sicrhau bod gwybodaeth well ar gael am yr ystad gyhoeddus yn gyfan. Gallai cyfleoedd ddod i’r amlwg yn sgil hyn i wneud arbedion pellach ond bydd hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i integreiddio gwasanaethau a'u cyflenwi'n well.  

Er mwyn sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i allu paratoi ar gyfer y cyfnodau fwyfwy heriol sydd o'n blaenau, mae'n hanfodol inni fwrw ati gyda'n cynlluniau ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Bydd gwneud hyn yn caniatáu inni ddarparu'r mecanweithiau ar gyfer sicrhau bod trefniadau gweithio'n rhanbarthol yn orfodol, ac yn cael eu rhoi ar waith yn drefnus  Bydd hyn, ynghyd â'r rhyddid cynyddol a ddaw, er enghraifft drwy roi'r pŵer cyffredinol o gymhwysedd i'r awdurdodau, yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol a'u bod yn cyflenwi gwasanaethau effeithiol a chadarn.

Mae gweithio gyda phartneriaid ehangach yn y sector cyhoeddus hefyd yn hanfodol. Mae awdurdodau lleol wedi dangos eu bod yn gallu gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol drwy'r Gronfa Gofal Integredig. Rhaid i awdurdodau yn awr fodloni eu rhwymedigaethau statudol mewn perthynas â chyfuno cyllidebau ar gyfer gwasanaethau allweddol. Mae fy nghyd-weinidog, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gwneud datganiad ar wahân heddiw ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae tabl cryno ynghlwm wrth y datganiad hwn sy'n amlinellu dyraniadau'r setliad fesul awdurdod. Mae'r dyraniadau yn deillio o'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol. Yn seiliedig ar y fformiwla a'r data cysylltiedig, mae'r tabl yn dangos yr ystod o ddyraniadau cyllid. Mae chwe awdurdod yn elwa ar yr adnoddau ychwanegol sydd wedi’u cynnwys i gefnogi trefniadau cyllid gwaelodol. Mae un awdurdod, Caerdydd, yn cael cynnydd cyffredinol yn y setliad ar sail gyfatebol.

Bydd mwy o wybodaeth am y setliad yn cael ei hanfon i bob awdurdod lleol a'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:

http://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/settlement/lg-settlement-2018-19/?lang=cy

Rwy'n disgwyl i bob awdurdod ymgysylltu'n ystyriol â'u cymunedau lleol wrth iddynt ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb.

Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yn unigol yw gosod y dreth gyngor ac rwy'n disgwyl iddynt ystyried yr amrywiaeth lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau y maent yn ei wynebu, wrth osod y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

O ran cyllid cyfalaf, mae'r setliad hwn yn cynnal cyllid cyfalaf cyffredinol yn £143 miliwn ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd mewn perthynas â chyllid ar gyfer blaenoriaethau gwariant cyfalaf yr awdurdodau eu hunain yn y dyfodol.

Bydd gan awdurdodau fynediad hefyd at gyllid cyfalaf a chymorth cyllido arloesol ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys Ysgolion yr 21ain ganrif, gwaith atal llifogydd a thai.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi dechrau'r cyfnod ymgynghori ffurfiol o 6 wythnos ar y setliad llywodraeth leol dros dro. Bydd hwn yn dod i ben ar 21 Tachwedd 2017.

Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw ddiweddariad ar ein cynlluniau ar gyfer diwygio'r fframwaith cyllid llywodraeth leol er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y dyfodol. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau a chyfraniadau mewn perthynas â symud ymlaen ar y mater pwysig hwn.

http://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/publications/?lang=cy