Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y seithfed adroddiad a'r olaf gan Weinidogion Cymru ar gyflawni a gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014 ei osod gerbron Senedd Cymru heddiw.

Mae Rhan 2 o Ddeddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datganoli cyfres o bwerau cyllidol i Gymru. Mae'r rhain yn galluogi Senedd Cymru i ddeddfu ar gyfer trethi Cymreig ar drafodiadau tir a gwarediadau tirlenwi, ac i osod Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru. Hefyd mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig trethi Cymreig newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd Cymru a dau Dŷ'r Senedd.

O dan adran 23 o'r Ddeddf, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru adrodd bob blwyddyn ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni a gweithredu'r darpariaethau o dan Ran 2 o'r Ddeddf, hyd at flwyddyn ar ôl i'r darpariaethau terfynol gael eu rhoi ar waith. Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn i nodi blwyddyn ers diwedd y flwyddyn ariannol pan gyflwynwyd yr olaf o'r darpariaethau, ac felly dyma'r adroddiad terfynol sy'n ofynnol o dan y Ddeddf.