Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae'r sector Modurol yng Nghymru yn rhan hanfodol o'r economi yng Nghymru a'r DU. Gan gyflogi bron i 19,000 o bobl yng Nghymru, dywedodd MAKE UK (y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol yn flaenorol) bod gan y sector y 3ydd cyfraniad uchaf i Werth Ychwanegol Gros sector moduro y DU o gymharu â gwledydd datganoledig eraill. Gydag un system 40 haen a chyflenwyr cymwys ar draws y sectorau teithio, masnachol ac oddi ar y ffordd, a dros gant o gwmnïau y gadwyn gyflenwi a 2 waith peiriannau yn cynhyrchu ychydig dros 30% o'r 2.7 miliwn o beiriannau sy'n cael eu cynhyrchu yn y DU, mae'r sector yng Nghymru hefyd yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi yn y DU.
Mae'r sector, oedd tan yn ddiweddar wedi gweld twf am sawl blwyddyn, yn mynd trwy gyfnod o newid yn ddiweddar na welwyd mo'i debyg. Mae newidiadau technolegol mawr; effaith safonau amgylcheddol cryfach a digwyddiadau megis sgandal allyriadau VW yn newid y diwydiant yn sylweddol.
Mae cyfyngu ar y defnydd o diesel mewn dinasoedd mawr ledled y byd, gwahardd cerbydau petrol a diesel newydd rhag cael eu gwerthu yn y dyfodol a chyflymu technoleg gyriant hybrid a thrydan yn cael effaith ar dueddiadau gweithgynhyrchu. Roedd gostyngiad o 30% yn y ceir diesel newydd a gofrestrwyd yn y DU yn 2018 ac mae cyfran diesel o farchnad foduron y DU wedi gostwng 10% rhwng 2017 a 2018. Yn ystod yr un cyfnod, bu gostyngiad o 9% yn nifer y ceir oedd yn cael eu cynhyrchu yn y DU i'r nifer isaf mewn pum mlynedd.
Yn y cyd-destun hwn o newid sylfaenol mae penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud gan weithgynhyrchwyr ynghylch buddsoddiadau'r dyfodol. Bydd Brexit fydd yn golygu gadael y Farchnad Sengl Ewropeaidd a’r Undeb Tollau yn arwain at ansicrwydd ychwanegol a’r potensial am dariffau a rhwystrau di-dariff, anawsterau a chostau gan roi Cymru a’r DU o dan anfantais arall eto, hynny ar adeg pan mae penderfyniadau buddsoddi tyngedfennol yn cael eu gwneud. Dyna’n union pam y mae’r bygythiad o Brexit heb gytundeb mor niweidiol i’r diwydiant modurol yn y DU. Mewn sector sydd mor ddibynnol ar gadwyni cyflenwi a marchnadoedd ledled Ewrop, mae risg ychwanegol o wneud ymrwymiadau hirdymor i weithrediadau yn y DU tra bo ein perthynas â'r UE yn y dyfodol yn parhau i fod yn ansicr. Mae nifer o'r gweithgynhyrchwyr hyn wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau dros dro i gynhyrchu os bydd Brexit heb gytundeb.
Rydym hefyd wedi gweld gohirio rhaglen fuddsoddi fawr gan Nissan a'r cyhoeddiad diweddar gan Honda eu bod yn cau. Mae'n bosibl bod y gytundeb fasnach rhwng yr EU - Siapan fydd yn cael gwared ar bron i bob tariff masnach rhwng y ddwy ochr wedi chwarae rhan yn y penderfyniadau gan Nissan a Honda, a gallai yn wir gael effaith ar fwy o gwmnïau Siapan yn yr UE mewn amser. Allwn ni ddim ynysu'r sector modurol yng Nghymru oddi wrth y grymoedd byd-eang hyn, nid yw Llywodraeth Cymru yn aros yn ei hunfan.
Diolch i'r gwaith da gan Fforwm Modurol Cymru sy'n cydweithio'n agos iawn â ni, rydym wedi cynnal asesiad risg o'r sector, gan nodi'r cwmnïau hynny sydd o bosibl o dan y bygythiad mwyaf o ganlyniad i'r dylanwadau byd-eang hyn. Mae hyn yn ein galluogi i gysylltu'n gynnar â'r cwmnïau hynny sy'n flaenoriaeth a sianelu adnoddau.
Rydym wrth gwrs yn gweithio gyda cwmnïau yn y sector bron yn ddyddiol, yn eu cynorthwyo mewn nifer o feysydd gweithredol a strategol gan gynnwys cynlluniau buddsoddi, anghenion hyfforddi, materion yn gysylltiedig â chystadleuaeth a gofynion y farchnad allforio er enghraifft.
Mae digwyddiadau blynyddol megis ein Autolink, Automechanika y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr a Masnachwyr Moduro (SMMT) a Cenex wedi'i drefnu gan y Bartneriaeth Cerbydau Carbon Isel yn rhoi'r cyfle i'n cwmnïau glywed gan arbenigwyr y diwydiant am gyfeiriad y sector yn y dyfodol. Caiff y cyfranwyr fanteisio hefyd o gyfarfod ag amrywiol unigolion o fewn y diwydiant gan gynnwys Gweithgynhyrchwyr Cyfarpar Gwreiddiol, llunwyr polisïau, prifysgolion a chwsmeriaid.
Caiff yr achlysuron hyn o fewn y diwydiant eu defnyddio hefyd i dargedu cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi trwy ddigwyddiadau cwrdd â'r prynwr, gan alluogi cyflenwyr o Gymru i gysylltu'n uniongyrchol â chwsmeriaid newydd posibl. Mae ein gweithgareddau ein hunain yn y maes hwn wedi rhoi cyfleoedd gan gwmnïau megis Aston Martin, Lear a Honda (ymhell cyn cyhoeddi eu bod yn cau) a bydd y gwaith yn parhau.
Rydym hefyd yn annog cwmnïau i edrych ar gyfleoedd i gyflenwi'r gadwyn gyflenwi cerbydau trydan sy'n datblygu. Mae trafodaethau'n parhau gyda Grŵp Gweithgynhyrchu Warwick Prifysgol Warwick - sy'n canolbwyntio ar ddatblygu technoleg cerbydau trydan - i ddod â'u tîm o arbenigwyr yn y maes Parod i Drydaneiddio i Gymru i helpu cwmnïau fod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi newydd hon.
Rydym hefyd wedi tynnu sylw at y cyfleoedd ar gyfer cyllid i ddatblygu technoleg cerbydau trydan fel rhan o gytundeb sector moduro Llywodraeth Prydain. Mae digwyddiadau ar Her Faraday, Sbarduno'r Chwyldro Trydan a thechnoleg Innovate UK wedi'u cynnal yng Nghymru.
Rydym yn edrych ar nifer o'r cyfleoedd hir-dymor hyn yng nghyd-destun Rhaglen Cymoedd Technegol Llywodraeth Cymru, y rhaglen o fuddsoddiad gwerth £100 miliwn dros ddeng mlynedd i ddatblygu Blaenau Gwent, a'r Cymoedd yn ehangach, yn ganolfan sy'n cael ei chydnabod yn fyd-eang fel canolfan ddatblygu a darparu technolegau newydd, yn enwedig yn y sector modurol.
Bydd y newid sydd o fewn y sector modurol ar hyn o bryd yn dod â chyfleoedd posibl ar ffurf buddsoddwyr newydd, gan ddod â thechnolegau a chynnyrch i fodloni gofynion newydd y sector - ond dim ond os bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau perthynas fasnachu ar gyfer y dyfodol gyda'r UE sy'n sicrhau bod sector modurol y DU yn parhau i fod yn gystadleuol.
Bydd ein gweithgarwch buddsoddi mewnol yn parhau i nodi prosiectau posibl ar gyfer Cymru yn y sector hwn a sectorau eraill yn ystod y cyfnod heriol hwn. Roedd yn hynod galonogol bod Aston Martin wedi dewis Cymru fel canolfan eu rhaglen drydaneiddio, ac rydym yn cydweithio â hwy ar y cyfleoedd ychwanegol o fewn y gadwyn gyflenwi allai ddeillio o hyn.
Rydym yn trafod ar hyn o bryd gyda nifer o fuddsoddwyr posibl technoleg cerbydau trydan, ond mae'r gystadleuaeth yn galed. Mae'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraethau yr Almaen a Ffrainc o'u bwriad i fuddsoddi €1 biliwn a €750 miliwn yn y drefn honno mewn cronfa ar gyfer cynhyrchu cell bateri yn rhoi syniad inni o'r her sy'n ein hwynebu.3
Mae corff partneriaeth Llywodraeth Prydain o fewn y diwydiant, yr Automotive Council, yn arwain ar hyn drwy lywio cyfeiriad y sector yn y dyfodol mewn meysydd megis technoleg, cadwyni cyflenwi a chyllid. Rydym wedi sicrhau bod gennym bresenoldeb o Gymru ar weithgorau y diwydiant sy'n cael eu sefydlu gan y Cyngor. Ar lefel swyddogol rydym hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cydweithio'n agos â thimau sector moduro BEIS a DIT ar faterion sy'n codi a phrosiectau eraill.
I helpu gyda'r gwaith o ddenu cwsmeriaid a thechnolegau newydd, a phontio gyda thechnolegau eraill, mae'n rhaid inni barhau i ddatblygu, defnyddio a hyrwyddo asedau all chwarae rhan yn y gwaith hwn. Mae'r Catapult Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ogystal â'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn rhoi gallu unigryw o fewn y DU, mewn maes technolegol fydd yn hollbwysig i symudedd yn y dyfodol. Gydag arbenigedd academaidd mewn meysydd eraill megis baterïau a thechnoleg tanwydd, catalysis a thechnoleg deunyddiau ymysg eraill, gall Gymru chwarae rhan sylweddol yn natblygiad y sector yn y dyfodol.
Mae hwn yn gyfnod anodd iawn yn wir i'r sector, sydd, fel y crybwyllwyd eisoes, yn dibynnu cymaint ar symud nwyddau, gwasanaethau a phobl yn rhwydd. Gyda'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â dyfodol masnach o'r fath rydym, ar y cyd â Fforwm Modurol Cymru, wedi annog cwmnïau i gymryd rhan mewn nifer o sesiynau a gweithdai codi ymwybyddiaeth o Brexit ar gyfer y sector, gyda chwmni ymgynghori amlwg a'r SMMT. Rydym hefyd wedi hyrwyddo porthol Brexit Cymru a Chronfa Cydnerthedd Brexit i helpu cwmnïau yn y sector i gynllunio gystal â phosibl ar gyfer sefyllfa na wyddom dim amdani hyd yma.
Fel a grybwyllwyd gennyf, ni allwn warchod cwmnïau o Gymru rhag y dylanwadau byd-eang sy'n sbarduno newidiadau o fewn y sector. Mi allwn fodd bynnag barhau i annog Llywodraeth y DU i gytuno ar fargen sy'n rhoi y cyfle gorau un i'n cwmnïau modurol a'n cwmnïau gweithgynhyrchu gystadlu o fewn y diwydiant byd-eang hwn, sy'n hanfodol i'r DU ac i economi Cymru. Byddwn hefyd yn parhau i wrando a gweithio gyda'r sectorau modurol a sectorau eraill wrth iddynt wynebu amseroedd sy'n fwyfwy heriol.