Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth inni ddod at ddiwedd tymor y Senedd, dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru gyda’r sector cynghorau cymuned a thref, a sut yr ydym yn cefnogi’r sector hwnnw.

Mae cynghorau cymuned a thref yn rhan annatod o lywodraeth leol; maent yn atebol yn ddemocrataidd ac yn gweithio ar y lefel fwyaf lleol i wella eu cymunedau. Nid yw eu cyfraniad erioed wedi bod yn fwy amlwg nag y bu yn ystod yr ymateb i’r pandemig COVID-19. Wrth i’r pandemig ddechrau, daeth y cynghorau cymuned yn rhan o’r ymateb rheng flaen yn eu cymunedau, ac maent wedi cefnogi’r rheini mewn grwpiau agored i niwed, er enghraifft drwy ddarparu cymorth amhrisiadwy i helpu cleifion i gael gafael ar nwyddau neu gyffuriau o’u fferyllfeydd. Ar ran pawb a gafodd eu cynorthwyo ganddynt, hoffwn ddiolch yn ffurfiol i’r cynghorau a’r gwirfoddolwyr am eu holl gefnogaeth. 

Yn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad trawsbleidiol o’r sector cynghorau cymuned a thref, sy’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer y sector, gan argymell nifer o gamau y gallai llywodraeth genedlaethol a’r sector eu cymryd. Mewn ymateb, rydym wedi nodi nifer o feysydd allweddol lle y dylid gweithredu, er mwyn annog a galluogi’r sector i ddatblygu.

Ers hynny, rydym wedi gweithio’n agos gyda chynghorau cymuned, Un Llais Cymru, a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol i ddatblygu capasiti cynghorau er mwyn iddynt allu cyflawni eu gwaith yn hyderus er budd eu cymunedau. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:

  • Darparu cyllid i glercod cynghorau ar gyfer ennill cymhwyster y Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol sy’n benodol ar gyfer y sector hwn
  • Darparu mwy o gyllid i annog cynghorwyr i ddilyn hyfforddiant, gyda phwyslais penodol ar reoli ariannol a llywodraethu
  • Ariannu clystyrau o gynghorau cymuned i sefydlu trefniadau cyflawni ar y cyd
  • Cyhoeddi canllaw cyfryngau digidol, ac wedyn dalen ffeithiol ar ffynonellau cyllid sydd ar gael i gynghorau cymuned.
  • Deddfu, drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, i roi’r pŵer cymhwysedd cyffredinol i gynghorau cymwys o’r flwyddyn nesaf, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt baratoi adroddiadau blynyddol ac ystyried eu hanghenion hyfforddi.  Roedd y Ddeddf hefyd yn gwneud yr hyblygrwydd i gynnal rhith-gyfarfodydd yn hyblygrwydd parhaol.

Mae gwaith arall yn dal i fynd rhagddo, megis y gwaith a wneir ar y cyd i ddatblygu fframwaith i gynghorau hunanasesu eu perfformiad a nodi meysydd ar gyfer gwella, ochr yn ochr ag Un Llais Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, a Swyddfa Archwilio Cymru, gan edrych ar sut y gellid cefnogi trawsnewid digidol yn y sector cynghorau cymuned a thref.

Wedi dweud hynny, mae nifer o gwestiynau’n cael eu codi yn yr adolygiad y mae angen eu hystyried ymhellach, ac mae’r angen i ganolbwyntio ar yr ymateb i’r pandemig wedi golygu na fu’n bosibl rhoi’r ystyriaeth briodol iddynt. Er enghraifft, mae gwahaniaeth barn o ran a ddylai cynghorwyr gael eistedd ar gyngor cymuned yn ogystal â phrif gyngor; ai am un tymor yn unig y dylid cyfethol cynghorwyr; beth fyddai’r ffordd orau o ddiffinio’r rolau hynny, sy’n seiliedig ar le, y gallai cynghorau cymuned ymgymryd â nhw. Hefyd, mae cwestiynau eraill y gellid ymchwilio iddynt, megis a ddylai fod yn ofynnol i glercod feddu ar y cymhwyster priodol, ac a ddylai Gweinidogion fod â phwerau ymyrryd cymesur. Mae angen datblygu’r camau gweithredu hyn ymhellach yn ystod tymor y Senedd nesaf, gan weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu cynigion polisi clir, y gallai fod angen deddfwriaeth bellach ar gyfer rhai ohonynt. Mater i’r Llywodraeth nesaf fyddai symud ymlaen â’r rhain yn ôl ei blaenoriaethau.

Rwy’n credu bod y sector cynghorau cymuned yn adnodd nad yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn ar hyn o bryd mewn llawer i ardal yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y bydd llywodraethau ac arweinwyr cynghorau cymuned yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu’r sector er mwyn i iddo allu gwireddu ei botensial yn llawn yn y dyfodol.