Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n ymrwymo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyrff cyhoeddus, a’r rheini sy’n cael cyllid cyhoeddus, yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog ymysg, yn ogystal â rhwng, eu staff. Ar ôl trafod gyda rheolwyr ac undebau llafur cyrff hyd braich Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio cyllid a ddarperir gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod gweithwyr yn y cyrff hyd braich hyn yn cael o leiaf yr un cyflog sylfaenol â’r radd gyflog gyfatebol yn Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n golygu y bydd naw corff yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyflog sylfaenol ar gyfer un neu fwy o raddau yn eu sefydliad. Mae’r cyrff eraill eisoes yn talu o leiaf yr un cyflog sylfaenol ar gyfer pob gradd ag y telir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lefel gyfatebol.
Disgwylir i oddeutu 500 o staff ar draws naw o sefydliadau gael codiad cyflog o ganlyniad i’r cytundeb hwn, sy’n cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2021. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu hyd at £652,000 bob blwyddyn o 2021/2022 tan 2024/2025 – uchafswm o £2.6 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd – i helpu’r cyrff hyn i sicrhau cydraddoldeb cyflog ehangach yn sector cyhoeddus Cymru.
Mae hwn yn gam pwysig tuag at weithredu un o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chyflawni argymhellion y comisiwn Gwaith Teg a gwireddu ein huchelgais i sicrhau bod Cymru yn wlad Gwaith Teg. Yn y cytundeb hwn, er ein bod yn rhoi sylw i gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru ei hunan fel man cychwyn, rydym yn awyddus i hyrwyddo cydraddoldeb cyflog ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda rheolwyr ac undebau llafur i symud y gwaith hwn yn ei flaen.
Dyma’r cyrff hyd braich y disgwylir iddynt gael eu hariannu er mwyn creu mwy o gydraddoldeb cyflog:
Cyngor Celfyddydau Cymru
Gyrfa Cymru
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Comisiynydd Pobl Hŷn
Gofal Cymdeithasol Cymru
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Cymru
Chwaraeon Cymru
HANNAH BLYTHYN AS/MS
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol