Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon


Ar 8 Tachwedd 2011 cyflwynais fanylion ein Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol mewn datganiad llafar i’r Cyfarfod Llawn. Ymrwymais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd. Rhaglen weithredu bum mlynedd yw’r Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol, a’i nod yw trawsnewid safonau llythrennedd yng Nghymru. Mae’n mynnu bod pob ysgol yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd.


Roedd ein ‘Rhaglen Lywodraethu’ yn datgan mai ein nod ar gyfer addysg yw ‘helpu pawb i gyflawni ei botensial, lleihau anghydraddoldeb a gwella lles economaidd a chymdeithasol’. Fy mlaenoriaethau i yw gwella safonau llythrennedd a rhifedd, a lleihau effaith amddifadedd ar welliant addysgol.


Heddiw rwyf yn cyhoeddi’r Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol sy’n nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn eu cymryd i gyflawni newid sylweddol mewn safonau llythrennedd.  Wrth gyhoeddi’r Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol, rwyf yn rhoi syniad eglur o’r camau y mae angen eu cymryd er mwyn codi safonau.


Mae’r camau gweithredu yn y Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol yn canolbwyntio ar 4 thema allweddol:


• Gosod disgwyliadau a safonau cenedlaethol
• Mwy o gymorth a datblygiad
• Ymyraeth benodol gryfach
• Mwy o atebolrwydd a her.


Trwy sicrhau bod sgiliau llythrennedd yn rhan annatod o bob agwedd ar addysg a thrwy ddarparu cymorth o ansawdd da, ein huchelgais yw:


• i ddysgwyr o bob oedran ddod yn hyderus yn eu sgiliau llafaredd, ac yn dod yn ddarllenwyr ac yn ysgrifenwyr hyfedr; 
• y bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd iaith gyntaf, yn Gymraeg neu Saesneg, gan ddisgwyl y bydd dysgwyr sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yr un mor llythrennog yn y ddwy iaith erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2;
• y bydd dysgwyr sydd ar ei hôl hi ar hyn o bryd o’u cymharu â’u cyfoedion yn cyflawni eu potensial; 
• y bydd dysgwyr mwy galluog a thalentog yn cael eu herio yn briodol; 
• y bydd dysgwyr yn gadael ysgolion cynradd â gwell sgiliau llythrennedd er mwyn iddynt allu elwa’n llawn ar eu haddysg yn yr ysgol uwchradd; 
• y bydd gan ddysgwyr sy’n gadael addysg orfodol y sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu angenrheidiol ar gyfer addysg bellach neu gyflogaeth.

Mae llawer eisoes wedi’i wneud i roi’r camau yn ein Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol ar waith. Er enghraifft, mae’r gwaith o ddatblygu’r profion darllen cenedlaethol yn mynd rhagddo’n dda, bydd y Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn dechrau ym mis Medi ac yn cynnwys modiwl llythrennedd, a chyhoeddir y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn fuan er mwyn ymgynghori yn ei gylch.

Byddwn yn adolygu’r Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol yn rheolaidd er mwyn caniatáu ar gyfer ychwanegu camau newydd pe byddai angen, ac er mwyn i’n cynlluniau gyd-fynd â’r cyngor gorau sydd ar gael. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ein huchelgais o gael safonau llythrennedd cyson ledled Cymru a gallu cystadlu’n well yn economaidd, fel gwlad, yn fyd-eang.