Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i wasanaethau endosgopi, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar gynnydd y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol.

Ymatebais i alwad y Pwyllgor am dystiolaeth drwy gydnabod y pwysau sy'n wynebu gwasanaethau endosgopi yng Nghymru. Nodais fod nifer y triniaethau endosgopi diagnostig y mae angen eu darparu yn cynyddu oherwydd newidiadau yn y boblogaeth, trothwy is ar gyfer ymchwilio i achosion lle mae amheuaeth o ganser, yr angen cynyddol i gadw gwyliadwriaeth am ganser, a'r angen i ehangu’r rhaglen sgrinio coluddion. Mae'r pwysau hyn wedi golygu bod y galw am endosgopi yn llawer iawn mwy na'r capasiti craidd sydd ar gael. Rhoddodd y Grŵp Gweithredu ar Endosgopi gyngor i'r GIG a Llywodraeth Cymru a oedd yn awgrymu bod angen mwy o gyfarwyddyd ar gyfer mynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddull cenedlaethol newydd ar gyfer endosgopi ym mis Medi 2018, wedi'i gefnogi gan ddyraniad blynyddol o £1m i alluogi'r rhaglen waith genedlaethol.

Cafodd gweithdy cenedlaethol ei gynnal ar gyfer yr holl fyrddau iechyd a'r prif randdeiliaid ym mis Rhagfyr 2018, i ddatblygu cwmpas a ffocws y rhaglen. Yna, sefydlwyd y rhaglen genedlaethol o fewn Grŵp Cydweithredol y GIG ar ddechrau 2019, a chynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Endosgopi newydd ym mis Ebrill 2019. Mae'r Bwrdd yn cael ei gyd-Gadeirio gan uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys uwch arweinwyr byrddau iechyd. Ers mis Ebrill, cynhaliwyd dau gyfarfod pellach o'r Bwrdd ac mae pedair ffrwd waith wedi'u sefydlu. Y ffrydiau gwaith hyn yw:

  • Cynllunio ar gyfer y galw a chapasiti
  • Hyfforddiant ac addysg y gweithlu
  • Llwybrau clinigol
  • Cyfleusterau a seilwaith

Mae pob un o'r ffrydiau gwaith hyn yn cyflwyno agwedd allweddol o'r rhaglen genedlaethol.  Cytunwyd ar eu cylch gorchwyl ac mae'r rhaglenni gwaith wrthi'n cael eu datblygu. Mae'r ddwy ffrwd waith gyntaf eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gwmpasu a mapio'r anghenion gwasanaeth cyfredol. Cynhaliwyd asesiad sylfaenol o weithgareddau'r bwrdd iechyd, gan ei fireinio a chytuno arno. Mae gweithdy cynhyrchiant wedi'i drefnu ar gyfer pob uned y mis hwn i sicrhau bod pob un ohonynt yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael. O ran y gweithlu, mae rhaglen hyfforddiant ganolog wedi'i threfnu ar gyfer endosgopyddion clinigol ac rydym yn gobeithio y bydd yr hyfforddeion cyntaf yn dechrau eleni. O ran seilwaith, mae'r rhaglen yn ariannu rownd o gyn-asesiadau uned gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd erbyn diwedd mis Tachwedd. Disgwylir cael adroddiadau gan yr unedau unigol erbyn diwedd mis Rhagfyr ac mae gweithdy yn ymdrin â chynllunio ar gyfer achrediad wedi'i gynllunio ar gyfer mis Tachwedd.

Mae cynllun gweithredu ar endosgopi wedi'i ddrafftio gyda chamau gweithredu unionyrchol i sefydlu'r rhaglen, camau tymor canolig i helpu byrddau iechyd i sefydlogi eu sefyllfaoedd, a chamau tymor hirach i gyflawni gwasanaethau cynaliadwy. Rhagwelir y bydd y rhaglen ar waith am bum mlynedd o ystyried graddfa'r her i'w chyflawni a bydd y cynllun gweithredu yn cael ei adnewyddu yn flynyddol gyda rhagor o fanylion yn dod i'r amlwg yn y misoedd nesaf drwy raglenni gwaith is-grwpiau. Mae mwy na hanner y dyraniad cenedlaethol o £1m eisoes wedi'i ddosbarthu i Grŵp Cydweithredol y GIG ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i alluogi'r rhaglen. Er bod cynnydd da yn cael ei wneud yn genedlaethol, nid wyf yn disgwyl i fyrddau iechyd aros am ganlyniadau'r rhaglen i wella eu sefyllfa o ran endosgopi. Mae aelodau'r bwrdd yn deall bod angen ffocws lleol sylweddol ar wasanaethau endosgopi ac mae hyn wedi'i atgyfnerthu yn y canllawiau cynllunio diweddaraf a roddir i'r GIG. Rwy'n disgwyl gweld ffocws yn rownd nesaf Cynlluniau Tymor Canolig Integredig y byrddau iechyd.

Rwy'n cydnabod ei bod yn bwysig bod clinigwyr arbenigol yn cyfrannu at y rhaglen, a chynhaliwyd gweithdy ym mis Mai i gytuno ar y ffordd orau o gyflawni hyn. Penodwyd pedwar clinigwr profiadol ac uchel eu parch i'r rhaglen drwy broses gystadleuol ac maent yn cymryd rhan weithgar yn y ffrydiau gwaith. Hefyd, maes gweithgaredd perthnasol yw effeithiolrwydd y Rhaglen Sgrinio Coluddion. Mae hyn yn arwain at oblygiadau pwysig i'r Bwrdd Endosgopi ond nid yw dan arweiniad y Bwrdd. Y bwriad yw dod â'r rhaglen yn unol â chanllawiau Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ar yr ystod oedran mewn dau gam blynyddol ac yna sicrhau sensitifrwydd gorau'r prawf erbyn Ebrill 2023. Byddaf yn cael cyngor yn ystod yr wythnosau nesaf ar oblygiadau’r rhaglen effeithiolrwydd ar adnoddau a byddaf yn rhoi rhagor o fanylion yn y man.

Mae'n hanfodol ein bod yn cyflawni cynaliadwyedd gwasanaethau endosgopi fel y gall pobl gael mynediad i'r archwiliadau y maent eu hangen yn gyflym i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Rwy'n gobeithio ei bod yn glir i’r Aelodau bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau uniongyrchol a dwys i gefnogi byrddau iechyd i gyflawni'r rhain. Rwy'n hyderus y bydd y camau gweithredu yn ein rhoi ar y trywydd cywir a bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd nesaf.