Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n lansio Rhaglen genedlaethol ar gyfer Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghymru, gyda chymorth £1.15 miliwn. Bydd y Rhaglen hon yn sicrhau dulliau clir a chyson o ymdrin â diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol ym mhob gwasanaeth yng Nghymru. Prif nod y Rhaglen yw gwella diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol, gwella profiadau ohono a’r canlyniadau yn ei sgil. Bydd y Rhaglen hefyd yn darparu cymorth er mwyn galluogi timau i gynnig profiad gofal iechyd o ansawdd uchel i’r holl fenywod beichiog, babanod a theuluoedd ar draws lleoliadau gofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion gyfuno gweithgareddau gwella gofal mamolaeth a newyddenedigol sy’n bodoli eisoes mewn un Rhaglen. Rwyf hefyd wedi gofyn iddynt ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol dros y misoedd nesaf fel rhan o gam darganfod i ystyried y camau blaenoriaeth ychwanegol y mae’n rhaid inni eu cymryd yn y dyfodol.

Bydd y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol hon yn rhoi mwy o bwyslais, a phwyslais cydlynol, ar weithgareddau sy’n bodoli eisoes. Bydd y Rhaglen yn cryfhau’r cyfeiriad cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, gan gyfuno’r weledigaeth ar gyfer gofal mamolaeth gyda’r weledigaeth arfaethedig ar gyfer gofal newyddenedigol a fydd yn rhannu blaenoriaethau a themâu allweddol.

Rwy’n falch iawn y bydd Gwelliant Cymru yn darparu arbenigedd ac adnoddau er mwyn gweithio ochr yn ochr gyda byrddau iechyd i nodi blaenoriaethau a gwelliannau allweddol o fewn cam cyntaf y Rhaglen. Bydd yr adroddiad ar gam cyntaf y Rhaglen yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidogion yn 2022/23.

Rwy’n cydnabod, o fewn y Rhaglen hon, bwysigrwydd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol fel sylfaen ar gyfer iechyd a llesiant yn y dyfodol ac wrth roi’r cychwyn gorau i bob plentyn mewn bywyd.