Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 15 Gorffennaf, cyhoeddais estyniad hyd 9 Awst i’r rhaglen brofi wythnosol a gyflwynwyd ar 15 Mehefin ar gyfer staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Dywedais hefyd y byddem yn newid i gylch bob pythefnos pe bai nifer yr achosion o’r haint COVID-19 mewn cartrefi gofal yn parhau i fod yn isel.

Rwy’n falch o ddweud, diolch i wyliadwriaeth ac ymroddiad rheolwyr a staff cartrefi gofal, mae nifer yr achosion wedi parhau i fod yn isel. Yn unol â hynny, bydd y rhan fwyaf o gartrefi gofal yn newid i gylch profi bob pythefnos o 10 Awst ymlaen. Byddwn yn parhau i fonitro’r data yn agos a byddaf yn adolygu’r polisi ymhen wyth wythnos, ar ddechrau mis Hydref.

Mae nifer y profion positif mewn cartrefi gofal yn y Gogledd, er yn gymharol fach o ran nifer, wedi bod yn uwch nag mewn ardaloedd eraill yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n bosibl bod y nifer uwch o achosion ymhlith y boblogaeth ehangach yn y Gogledd nag mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, ynghyd ag achosion newydd mewn rhai cymunedau yn y Gogledd, wedi effeithio ar gartrefi gofal yn y rhanbarth. Am y rhesymau hyn, ac i roi sicrwydd parhaus i breswylwyr agored i niwed a’u teuluoedd, rwy’n gofyn i gartrefi gofal yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr barhau i gynnal profion wythnosol ar eu staff am yr wyth wythnos nesaf. Byddwn yn parhau i fonitro’r data profi yn y cartrefi gofal a’r gymuned ehangach yn agos.

Rwy’n cyhoeddi newid arall i’r polisi heddiw, sef o ddydd Llun nesaf, 10 Awst, dylid cynnal yr holl brofion rheolaidd ar staff cartrefi gofal drwy borthol y Deyrnas Unedig a’r labordai Goleudy. Mae fy swyddogion wedi bod yn siarad â’r sector cartrefi gofal a’r Byrddau Iechyd i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i gartrefi gofal sydd wedi bod yn cynnal y profion rheolaidd ar eu staff drwy’r Byrddau Iechyd a’u labordai. Dylid defnyddio labordai Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i brofi unrhyw staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal sy’n dangos symptomau COVID-19 ac ymateb i unrhyw gynnydd mewn achosion mewn cartrefi gofal.

Mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi’r diweddaraf i aelodau. Os yw aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddwn i’n hapus i wneud hynny.