Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n flwyddyn ers sefydlu'r Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ac roeddwn am achub ar y cyfle hwn i gydnabod y cynnydd rydym wedi'i wneud wrth ddatblygu dull newydd o wella ysgolion i Gymru. 

Ein nod yw grymuso arweinwyr ysgolion a staff ysgolion fel bod ganddynt y gallu i sicrhau eu datblygiad eu hunain a gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr, ysgolion ac awdurdodau lleol eraill i wella canlyniadau dysgu ac addysgol ein pobl ifanc. 

Ar y cyd ag awdurdodau lleol, undebau, Estyn, ysgolion a phartneriaid o bob rhan o'r sector, rydym yn adeiladu diwylliant newydd ar gyfer gwella ysgolion, ac mae’r cydweithio rhwng ysgolion yn rhan annatod o'r gwaith hwnnw. 

Ym mis Tachwedd, cyflwynodd pob awdurdod lleol yng Nghymru gynlluniau i Lywodraeth Cymru yn amlinellu'r ffordd y byddant yn cyflawni eu trefniadau i wella ysgolion lleol. Rydym yn gweithio'n agos ag awdurdodau lleol i gefnogi'r newidiadau hyn ar lefel leol. 

Rwy hefyd wedi ymrwymo i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol gref trwy bennu rhai blaenoriaethau sydd wedi'u diffinio'n glir ac sy'n canolbwyntio ar wella ysgolion ar lefel genedlaethol. Rwyf wedi cadarnhau'r rhain, sef presenoldeb, llythrennedd a rhifedd, ac mae  llesiant gwell yn ategu'r rhain. 

Erbyn 1 Ebrill 2025, bydd corff Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymorth Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth yn cael ei sefydlu fel ei fod yn barod i weithredu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Drwy ganolbwyntio ar ddarparu ystod fach a blaenoriaethol o raglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol, bydd y corff hwn yn sicrhau maes dysgu proffesiynol symlach a chydlynol. 

Mae nifer o raglenni cymorth cenedlaethol yn cael eu datblygu i ddarparu cymorth dwys ar gyfer sgiliau trawsgwricwlaidd hanfodol llythrennedd a rhifedd, ynghyd â chynllunio, cynnydd ac asesu'r cwricwlwm. Mae'r cymorth hwn yn cael ei gynllunio ar y cyd ag awdurdodau lleol, ymarferwyr a phartneriaid eraill.

Bydd Tîm Gwella Addysg sydd newydd ei sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru yn hwyluso trafodaethau rheolaidd ag awdurdodau lleol ac ysgolion – gan gysylltu blaenoriaethau cenedlaethol â darpariaeth leol. 

Rwy'n ymwybodol bod newid sylweddol yn y system, ac rwyf am sicrhau bod cyfanswm y newid yn gydlynol ac yn gadarn – dyma rôl y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol.

Ysgrifennodd Kirsty Williams CBE, Cadeirydd y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol, ataf ym mis Rhagfyr gan nodi eu sylwadau ar y model arfaethedig ar gyfer gwella ysgolion. Amgaeaf gopi o'r llythyr hwnnw. Rwy'n croesawu eu sylwadau a'r casgliadau y maent wedi'u cyrraedd hyd yma yn nhaith y Rhaglen.

Wrth inni symud ymlaen i'r cyfnod pontio, bydd y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn parhau â'i rôl wrth adolygu cydlyniad trefniadau newydd ysgolion. Byddaf hefyd yn sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd ar gyfer Penaethiaid i gynnig gwybodaeth a chymorth gwerthfawr mewn perthynas â'r model wrth symud ymlaen, a byddaf yn rhoi gwybod rhagor am hynny maes o law.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl bartneriaid, aelodau o'r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol a'r sector ehangach am eu hymrwymiad i weithio gyda ni. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd wrth inni drosglwyddo i'r trefniadau newydd yn ystod 2025, ond mae ymrwymiad pob sefydliad partner i lwyddiant y Rhaglen yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi.