Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol yn argymell cynnal archwiliad corfforol ar blentyn adeg ei eni a phan fydd yn 6 wythnos oed er mwyn canfod cataractau cynhenid, dysplasia'r cluniau, namau cynhenid ar y galon a cheilliau cudd yn gynnar. Argymhellir yr oedrannau hyn ar sail arferion gorau a thystiolaeth bresennol, a dylai’r babanod wedyn gael eu hatgyfeirio’n brydlon am asesiad clinigol cynnar.
Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'm swyddogion ddatblygu Rhaglen Archwiliadau Corfforol ar gyfer Babanod a Babanod Newydd-anedig er mwyn sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru wrth gynnal yr archwiliadau pwysig hyn. Bydd y rhaglen hon yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i atal cyflyrau hirdymor y gellir eu hosgoi, lleihau amrywiadau trwy ddatblygu prosesau sicrhau ansawdd a gwella’r cymysgedd o sgiliau ac effeithiolrwydd ar draws byrddau iechyd Cymru.
Bydd fy swyddogion yn sefydlu bwrdd prosiect i oruchwylio datblygiad y rhaglen dros y ddwy flynedd nesaf ac i gytuno ar fecanweithiau ar gyfer ei gweithredu yn y dyfodol a'i monitro yn y tymor hir. Bydd ei aelodau’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'r Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol. Bydd y bwrdd prosiect yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddatblygu un set o safonau gwasanaeth, archwilio unrhyw oblygiadau o ran adnoddau, datblygu protocolau allweddol a sicrhau bod llwybrau atgyfeirio cadarn yn eu lle ar gyfer cynnal archwiliadau diagnostig, asesu a rhoi triniaeth.