Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Mehefin, fe benderfynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd y dylid cynnal pob un o’r 22 o adolygiadau o ffiniau etholiadol yn ystod y tymor Llywodraeth Leol presennol, hy cyn cynnal yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2022, gan roi digon o amser i ystyried y newidiadau a’u hadlewyrchu mewn Gorchmynion. Er mwyn ei gwneud yn bosibl cyflwyno’r newidiadau erbyn etholiadau’r prif gynghorau ym mis Mai 2022, bydd angen sicrhau bod yr adolygiadau wedi eu cwblhau a bod y Gorchmynion mewn grym erbyn diwedd mis Medi 2021, er mwyn i’r awdurdodau gael digon o amser i allu gweithredu’r newidiadau hynny.

Ar 17 Rhagfyr 2020, ysgrifennais at yr aelodau i roi trosolwg o’r broses adolygu a ddefnyddir gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn), a’r sefyllfa o ran rhaglen yr adolygiadau etholiadol ar hyn o bryd. Cadarnheais fod nifer bach o adolygiadau etholiadol wedi denu nifer sylweddol o sylwadau.

Mae’r sylwadau hynny’n ymwneud â’r canlynol:

  • Caerdydd – Llanrhymni, Pontprennau, a Phentref Llaneirwg
  • Caerffili –Ystrad Mynach a Llanbradach
  • Sir y Fflint – Yr Hob a Chaergwrle

Rwyf wedi ystyried yn ofalus y pwyntiau a wneir yn y sylwadau hyn wrth ddod i benderfyniad ar yr adolygiadau.

Wrth adolygu’r trefniadau etholiadol, rhaid i’r Comisiwn wneud y canlynol:

  • Ceisio sicrhau bod y gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i bob aelod etholedig o’r cyngor yn debyg ym mhob ward etholiadol y brif ardal, neu mor debyg â phosibl,
  • Rhoi sylw i’r ffaith ei bod yn ddymunol pennu ffiniau hawdd eu hadnabod ar gyfer wardiau etholiadol, sef ffiniau a fydd yn parhau felly,
  • Rhoi sylw i’r ffaith ei bod yn ddymunol osgoi torri ar draws ymlyniadau lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

Yng ngoleuni cynnwys y sylwadau a wnaed, rwyf wedi ysgrifennu i’r Comisiwn i ofyn am wybodaeth bellach am yr argymhellion penodol ar gyfer yr ardaloedd a nodir uchod.

Gofynnwyd i’r Comisiwn ddarparu’r wybodaeth honno erbyn 30 Ebrill. Bydd yr wybodaeth a roddir yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru nesaf ar ôl etholiadau’r Senedd ym mis Mai.