Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ar 26 Medi, cyhoeddais fy Nghynllun Gweithredu newydd ar gyfer Addysg yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn nodi ein cenhadaeth genedlaethol, a fydd yn arwain at roi cwricwlwm newydd sbon ar waith, gan ganolbwyntio ar arwain, dysgu proffesiynol, a system sy'n gwella ei hun.
Fy nod yn y pen draw yw codi safonau addysgol i bawb, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n ennyn hyder a balchder y genedl gyfan.
I wireddu'r uchelgais hon, rhaid inni oresgyn y rhwystrau a chefnogi dysgu drwy ddarparu ysgolion a cholegau sy'n addas i'r diben, sydd y maint cywir, yn y lleoliad cywir, ac yn meddu ar y cyfleusterau cywir i gyflwyno’r cwricwlwm newydd.
Ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yw'r ffordd ymlaen o ran hyn, ac mae'n cynrychioli'r buddsoddiad mwyaf i'n hysgolion a'n colegau ers yr 1960au.
Datblygwyd y Rhaglen mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Colegau Cymru, a Chyfarwyddwyr yr Esgobaethau. Bydd y don gyntaf o gyllid a roddir drwy'r Rhaglen yn arwain at fuddsoddi mwy na £1.4 biliwn dros gyfnod o bum mlynedd a fydd yn dod i ben yn 2019. Bydd yr arian yn cefnogi'r gwaith o ailadeiladu ac ailwampio dros 150 o ysgolion a cholegau ymhob cwr o Gymru.
Er hynny, mae angen gwneud mwy. Mae'n bleser felly cyhoeddi y bydd ail don o gyllid yn cael ei fuddsoddi drwy'r Rhaglen, a bydd hynny'n dechrau ym mis Ebrill 2019.
Yn yr un modd â'r buddsoddiad cyntaf, bydd yr ail fuddsoddiad, Band B, yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill. Bydd y rhan fwyaf o'r Rhaglen yn cael ei hariannu o gyllidebau cyfalaf. Fodd bynnag, yn wahanol i don gyntaf y Rhaglen, bydd ymgais yn y don nesaf i gynnwys buddsoddiad ychwanegol sydd â gwerth cyfalaf o tua £500m a ariennir drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Mae Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach wedi cynnig gwerth £2.3 biliwn o brosiectau, sy'n bodloni amcanion buddsoddi Band B y Rhaglen. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi pob un o'r prosiectau hyn, yn amodol ar gymeradwyo'r achosion busnes.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i gytuno ar amserlen ar gyfer eu prosiectau, gan gyflwyno cynlluniau buddsoddi fforddiadwy sydd hefyd yn cyd-fynd â'n huchelgais ni oll i greu amgylcheddau dysgu cynaliadwy sy'n diwallu anghenion ein cymunedau.