Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynrychiolodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a minnau Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar 23 Mawrth, sef y cyfarfod cyntaf ers i bob llywodraeth gytuno i ddefnyddio peirianwaith yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn sail ar gyfer ein cysylltiadau rhynglywodraethol yn gynharach eleni.

Roedd Prif Weinidog yr Alban y Gwir Anrh Nicola Sturgeon ASA a’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ader wedi Covid John Swinney ASA yn bresennol ar ran Llywodraeth yr Alban. Y Gwir Anrh Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, a gadeiriodd y cyfarfod rhithwir hwn o’r Pwyllgor Sefydlog, ac roedd Ysgrifenyddion Gwladol yr Alban a Chymru, a Gweinidog Gwladol Gogledd Iwerddon, hefyd yn bresennol. Roedd uwch swyddogion o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon yn bresennol fel sylwedyddion.

Ymysg yr eitemau ar yr agenda yr oedd: y sefyllfa sydd ohoni yn Wcráin a’r goblygiadau domestig i’r DU; gweithredu’r trefniadau Cysylltiadau Rhynglywodraethol newydd; y dull gweithredu o ran deddfwriaeth y DU a ffyrdd o weithio yn y dyfodol; a goblygiadau’r Papur Gwyn Codi’r Gwastad. Cyhoeddwyd hysbysiad ar ôl y cyfarfod: Hysbysiad y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol: 23 Mawrth 2022 - GOV.UK (www.gov.uk)

Yn ystod y cyfarfod, pwysleisiwyd nodweddion cadarnhaol cydweithio rhynglywodraethol o ran yr argyfwng Rwsia/Wcráin presennol, yn enwedig adsefydlu ffoaduriaid sy’n cyrraedd y DU. Ochr yn ochr â hyn, galwodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau am ymdrechion i wella’r systemau ar gyfer fisâu, cymorth i gyrraedd pen y daith, a llifoedd data. Croesawaf y ffaith bod sylw wedi’i roi ers y cyfarfod i gais penodol a wnes i i Lywodraeth y DU i wella’r sefyllfa o ran rhannu data. Yn fwy cyffredinol, yng nghyd-destun canlyniadau economaidd y sefyllfa yn Wcráin, galwais am i fforymau Cysylltiadau Rhynglywodraethol ganolbwyntio ar y ffordd y mae’n gwaethygu’r argyfwng costau byw cynyddol yn y DU.

O ran yr eitem ar yr agenda ynglŷn â deddfwriaeth y DU a chydsyniad deddfwriaethol, amlygodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau yr achosion annerbyniol a chynyddol o dorri Confensiwn Sewel. Tynnais sylw’r Cadeirydd at lythyr diweddar gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynglŷn â’r defnydd o ddeddfwriaeth y DU. Yn ogystal, anogais ystyriaeth o ddifrif o adroddiad ac argymhellion Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi ar y Confensiwn. Yn gysylltiedig â hyn, galwom am i Gonfensiwn Sewel gael ei godeiddio, ac i fecanweithiau adrodd i’r Seneddau unigol gael eu cryfhau. Yn y tymor byr, tanlinellodd y Cwnsler Cyffredinol bwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar ar Filiau’r DU yn y dyfodol. Gofynnwyd i swyddogion gymryd camau dilynol ar hyn a gweithio ar egwyddorion i leihau, os nad dileu, wahaniaethau mewn dulliau gweithredu.

Yn y drafodaeth ynglŷn â’r eitem am agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU, atgoffais y Cadeirydd o gasgliadau Adolygiad Dunlop, yn benodol: “ni ddylai cyllid gan Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig gymryd lle cyllid craidd a rhaid ei gymhwyso gyda chefnogaeth y llywodraethau datganoledig”. O ran sefyllfa gyffredinol y trefniadau ar gyfer cyllid i olynu cyllid yr UE, amlygais yr addewidion a’r ymrwymiadau a oedd wedi’u gwneud. Er gwaethaf y rhain, y gwirionedd yw bod penderfyniadau Llywodraeth y DU yn golygu y bydd Cymru tua £1 biliwn ar ei cholled. Pwysleisiais hefyd ei bod yn bwysig bod Llywodraeth y DU yn dysgu gwersi pan fo cydweithio adeiladol wedi bod yn bosibl, gan roi cyd-ddylunio a chydbenderfynu wrth wraidd y dull gweithredu.

O ran gweithredu’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol, cytunwyd y byddai blaenraglen o gyfarfodydd yn cael ei datblygu i alluogi patrwm ymgysylltu strwythuredig a rheolaidd.