Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Fel rhan o gyllideb 2017-18, cytunodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar waith i ddatblygu Academi Genedlaethol y Llywodraeth – gan greu perthynas hirdymor rhwng yr Academi a sefydliad addysg uwch sy’n dyfarnu graddau.
Rwyf wedi cyfarfod ag Adam Price AC i drafod sut i symud ymlaen mewn perthynas â'r ymrwymiad hwn. Cytunasom y byddai ef yn arwain ar waith i ymchwilio i enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol ac ystyried faint o botensial sydd ar gyfer academi neu ysgol o'r fath yng Nghymru. Rwyf i wedi cynnig cymorth gan fy Adran i ymgymryd â'r gwaith hwnnw, ac mae yntau wedi derbyn fy nghynnig.
Rydym wedi cytuno yn awr ar y cylch gorchwyl a ganlyn;
• Ymchwilio i'r potensial ar gyfer creu Ysgol Genedlaethol y Llywodraeth i Gymru gan ystyried meysydd yn gysylltiedig â llywodraethiant o'r radd flaenaf, llywodraethu gwledydd bach a dwyieithog, gweinyddiaeth ac ymchwil gyhoeddus a datblygu gwasanaethau cyhoeddus sy'n arwain yn eu meysydd.
• Edrych ar draws y sectorau cyhoeddus a dinesig, ystyried y sefydliadau, cyrff ac athrofeydd ac ysgolion sy'n bodoli eisoes, gan nodi'r gallu a’r capasiti ar gyfer y potensial i sefydlu ysgol o’r fath;
• Erbyn diwedd y flwyddyn newydd, amlinellu'r cysyniad o Ysgol Genedlaethol y Llywodraeth i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ei ystyried ymhellach.
Bydd gwaith Adam Price AC yn dechrau yn awr ac edrychaf ymlaen at dderbyn ei adroddiad yn y flwyddyn newydd.