Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r Polisi Masnach: Materion Cymru (https://beta.llyw.cymru/brexit). Dyma’r papur safbwynt polisi diweddaraf sy’n ymwneud â Brexit. Mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn cynrychioli’r newid mwyaf yn ein statws masnachol rhyngwladol ers cenedlaethau. Mae’r papur hwn yn dangos y byddwn ni, fel Llywodraeth, waeth beth fo’r heriau sy’n ein hwynebu, yn sicr o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau canlyniad cadarnhaol i’r trafodaethau â’r 27 Aelod-wladwriaeth. Rhaid i’r canlyniad fod yn rhesymegol ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Yn bwysicach na hynny, rhaid iddo hefyd fod yn fanteisiol i fusnesau a dinasyddion Cymru gyfan.

Mae Cymru’n wlad fentrus sydd o hyd yn edrych am gyfleoedd masnachu yn fyd-eang. Mae busnesau Cymru yn masnachu â'r byd cyfan, ac yn 2016, roedd allforion Cymru yn fusnes gwerth £14.6 biliwn. Mae gan ein heconomi berthynas agos ag integredig â’r Farchnad Sengl. Roedd 61% o’n hallforion nwyddau ‘cyfan’ a bron i hanner ein mewnforion yn dod o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod, fel gwlad, yn cael mynediad llawn a di-rwystr i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd i ddatblygu mwy ar ein buddiannau economaidd. Rydym eto i gael ein darbwyllo bod ymadael ag Undeb Dollau'r Undeb Ewropeaidd o fudd i ni, yn y dyfodol agos beth bynnag. Wedi dweud hynny, rydym yn derbyn bod cyfleoedd sylweddol i fasnachu y tu allan i Ewrop. Rydym yn benderfynol o hybu masnach Cymru ar draws y byd.

Mae hwn yn gyfnod pwysig o ran datblygu polisi masnach y DU a’r pwerau datganoledig. Golyga hyn bod rhaid penderfynu ar berthynas fasnach newydd â'r Undeb Ewropeaidd â’r byd yn ehangach na hynny drwy ymgynghoriad rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Gweinyddiaethau Datganoledig. Bydd hynny yn adlewyrchiad teg a llawn o fuddiannau'r Deyrnas Unedig gyfan. Rydym yn galw am sefydlu Cyngor o Weinidogion y DU. Bydd cylch gwaith y corff hwn yn cynnwys ymgynghori ar faterion masnachol rhwng y pedair gweinyddiaeth ddatganoledig. Yn y cyfamser, dylid sefydlu pwyllgor newydd, sef Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Fasnach Ryngwladol, er mwyn cytuno ar ffyrdd o weithio ar y cyd o ran masnach. Byddai Llywodraeth Cymru'n barod iawn i gyfrannu’n adeiladol mewn partneriaeth o'r fath.