Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraethu sy’n cynnwys ein blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru.  

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn pennu’r prif gamau y byddwn yn eu cymryd mewn perthynas â dŵr, â’r mesurau y byddwn yn eu defnyddio i olrhain unrhyw ddatblygiadau.  Mae hyn yn adeiladu ar yr ymrwymiadau ehangach sy’n gysylltiedig â dŵr a bennwyd yn Strategaeth yr Amgylchedd Cymru 2006, y Cynllun Datblygu Cynaliadwy – Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned 2009, Strategaeth Newid Hinsawdd Cymru Hydref 2010 a Datganiad Sefyllfa Polisi Strategol Cymru Chwefror 2011.  

Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio â’r sector dŵr i ddatblygu’r ymrwymiadau a bennwyd yn y Rhaglen Lywodraethu.  Rwy’n falch o’r datblygiadau sylweddol yr ydym eisoes wedi’u gwneud ers ei gyhoeddi, ac o’r gwaith y byddwn yn ei wneud dros y misoedd nesaf.  

Mae cadw biliau dŵr yn fforddiadwy yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.  Bydd rhoi dewis o opsiynau o godi tâl, amddiffyn grwpiau bregus a lleihau dyledion drwg yn sichrau hyn.  

Rhwng 31 Mawrth a 1 Gorffennaf cynhaliwyd ymgynghoriad ar nifer o argymhellion o’r Arolwg Annibynnol i Godi Tâl am Wasanaethau Dŵr a Charthffosiaeth (Adolygiad Walker).  Roedd hyn yn cynnwys opsiynau am fforddiadwyedd dŵr, i roi mwy o gymorth i gartrefi bregus ac incwm isel yng Nghymru, opsiynau ar gyfer codi tâl fydd yn gwella effeithlonrwydd, fyddai’n golygu manteision i bob cwsmer, tra’n amddiffyn grwpiau bregaus, ac opsiynau ar gyfer gosod mesuryddion yn y dyfodol.  

Cyhoeddwyd crynodeb gennym o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar 16 Tachwedd, ac rydym bellach yn defnyddio’r ymatebion i’n helpu i ddatblygu polisïau yn y maes hwn yn y dyfodol.  

Roedd Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn cynnwys darpariaethau i ddelio gyda dyledion drwg ac i annog tariffau cymdeithasol yn y diwydiant dŵr.  Dyma’r ddau argymhelliad a ddeilliodd o Adolygiad Walker, a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2009.  Mae’r darpariaethau ar dariffau cymdeithasol yn galluogi ymgymeryddion dŵr a charthffosiaeth i gynnwys tariffau yn eu cynlluniau codi tâl, sydd wedi’u cynllunio i leihau’r taliadau ar gyfer grwpiau cwsmeriaid a fyddai fel arall wedi’i chael yn anodd i dalu biliau dŵr a charthffosiaeth yn llawn.  Rydym am weld opsiynau tariff sydd o fewn cyrraedd cwsmeriaid ac sy’n hawdd eu gweinyddu.  I helpu cwmnïau dŵr a charthffosiaeth i ddatblygu tariffiau priodol ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru, rydym wedi datblygu canllaw tariff cymdeithasol yr ydym yn ymgynghori arno ar hyn o bryd.  Daw’r ymgynghoriad i ben ar 6 Chwefror 2012 ac rwy’n croesawu unrhyw sylwadau.  Rydym yn bwriadu cwblhau’r canllawiau hyn ar ddechrau 2012.

Gan fod pob cwsmer yn talu cost dyledion biliau dŵr, mae’n bwysig bod ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth yn gallu lleihau’r ddyled hon.  Mae’r darpariaethau yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ar ddyledion drwg yn caniatâu i wybodaeth am feddiannwyr nad ydynt yn berchnogion fod ar gael yn uniongyrchol i’r ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth i helpu i fynd i’r afael â dyledion drwg yn y diwydiant dŵr.  Rydym wrthi’n datblygu’r ddarpariaeth hon ac yn bwriadu ymgynghori ar Reoliadau dyledion drwg ar ddechrau 2012.  

Fel rhan o agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i leihau canran y bobl sy’n cael eu hadnabod fel pobl sydd â phroblemau fforddiadwyedd yng Nghymru.  Rydym yn bwriadu adeiladu ar y gwaith yr ydym eisoes wedi’i wneud ar dariffau cymdeithasol a dyledion drwg a bydd rhagor o waith yn llunio rhan o’r Cynllun Trechu Tlodi.  

Rwy’n credu bod gwneud cwsmeriaid yn ganolog i gyflenwi yn allweddol i ddatblygu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru.  Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd David Gray ei gasgliadau a’i argymhellion o’i adolygiad annibynnol o Ofwat, rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr, a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, y corff sy’n cynrychioli buddiannau cwsmeriaid.  Edrychodd yr adolygiad ar swyddogaeth Ofwat, sut oedd yn gweithio ag eraill a sut oedd ei ddull o reoleiddio yn cyflawni disgwyliadau’r llywodraeth a chwsmeriaid.  Roedd yr adolygiad hefyd yn ystyried swyddogaeth bresennol y Cyngor Defnyddwyr Dŵr a threfniadau i gynrychioli defnyddwyr yn y dyfodol o fewn y sector dŵr.  

Prif gasgliadau’r adolygiad yw nad oes angen unrhyw adolygiad mawr ar reoleiddio y diwydiant dŵr, ond bod angen i Ofwat barhau â’i raglen i leihau baich rheoleiddio ac i weithio’n fwy adeiladol gyda sefydliadau eraill yn y sector.  Ers Gorffennaf, rydym wedi cysylltu ag Ofwat i helpu i lywio’r cynigion i leihau’r baich rheoleiddiol ac i osod cyfyngiadau pris yn y dyfodol, i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar fuddiannau’r cwsmeriaid.  Byddwn yn parhau i wneud hyn dros y misoedd nesaf wrth ddatblygu’r cynigion hyn.   

O ran y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, bu tîm adolygu Gray yn argymell yn gryf i Lywodraeth Prydain a Chymru bod angen cynrychioli’r defnyddiwr yn effeithiol o fewn y sector dŵr ar hyn o bryd, ac y dylid cadw swyddogaethau presennnol y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.  Rwy’n cytuno â’r safbwynt hwn ac yn gweld gwerth i swyddogaeth y Cyngor Defnyddwyr Dŵr mewn perthynas â chynrychioli cwsmeriaid yng Nghymru.   Bydd y gynrychiolaeth hon yn arbennig o bwysig i gynrychioli’r cwsmer yn y rownd nesaf o osod pris, Adolygiad Pris 2014 (PR14).  Hefyd, dros y blynyddoedd nesaf, cynhelir adolygiad a bydd newid yn y dull o reoleiddio a’r cynllunio strategol yn y sector dŵr.  Bydd gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr swyddogaeth allweddol o ddarparu mewnbwn critigol i lywio’r newidiadau hyn dros y blynyddoedd nesaf ac i sicrhau bod buddiannau cwsmeriaid, yn ddeiliaid tai a busnesau yng Nghymru yn cael eu cynrychioli yn effeithiol.   

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ei hargyhoeddi y bydd rhagor o gystadleuaeth ym myd manwerthu yn rhoi unrhyw fanteision mesuradwy i Gymru.  Fodd bynnag, rydym yn datblygu sylfaen dystiolaeth ar ddulliau fydd yn sbarduno arloesi a gwelliannau yn y diwydiant dŵr er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru.  Rydym yn bwriadu ystyried opsiynau o ran y polisïau y dyfodol yn yr Ymgynghoriad Strategaeth Dŵr yn ystod gwanwyn 2012.  

Mae amgylchedd dŵr o safon uchel yn hanfodol i gynnal ecosystem iach fydd yn ei thro yn darparu nifer o wasanaethau i bobl a rhywogaethau.  Rydym yn mabwysiadu dull ecosystem o reoli dŵr gan ganolbwyntio ar wasanaethau ecosystem yn ogystal â bodloni ein hymrwymiadau amgylcheddol Ewropeaidd.  

Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn ysgogiad deddfwriaethol ar gyfer dull integredig o reoli dŵr.  Mae cylch cyntaf y Cynlluniau Rheoli Basn Afon wedi dechrau, a phob mesur yn y cynllun i’w roi ar waith erbyn diwedd 2012.  Ar yr un pryd, rydym wedi gofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd ddechrau paratoi ar gyfer ail gylch y Cynlluniau Rheoli Basn Afon, ac i dynnu ar y gwersi sydd eisoes wedi’u dysgu o’r cylch cyntaf.   I gynorthwyo gyda hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Defra i ddiweddaru’r canllawiau i Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb ac yn  adlewyrchu polisïau’r Llywodraeth.  

Mae Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn tynnu sylw at lygredd gwasgaredig fel rheswm allweddol dros beidio â chyrraedd statws ecolegol da mewn nifer o afonydd ledled Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd gynhyrchu Cynllun Gweithredu Llygredd Gwasgaredig er mwyn mynd i’r afael â ffynonellau ystod eang o achosion o lygredd dŵr gwasgaredig; gan amlinellu atebion i fynd i’r afael â’r broblem mewn ardaloedd gwledig a dinesig.  Rydym wedi gofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd lunio’r cynllun gweithredu erbyn gwanwyn 2012, er mwyn mynd i’r afael â phroblemau yn y cylch presennol o Gynlluniau Rheoli Basn Afon ac i fwydo i’r ail gylch cynllunio ar gyfer y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.  

Mae nifer o Gyfarwyddebau Ewropeaidd sy’n gosod safonau a gofynion penodol i ddiogelu ein hamgylchedd, ac rwy’n ystyried cadw at ein rhwymedigaethau Ewropeaidd yn fater difrifol iawn.  Yn gynharach eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o ddyfroedd penodol ar gyfer pysgod cregyn yng Nghymru o dan Gyfarwyddeb Dyfroedd Pysgod Cregyn Ewrop.  Nod yr adolygiad oedd sicrhau bod yr holl ddyfroedd cynaeafu pysgod cregyn masnachol yn cael eu hamddiffyn yn briodol fel a amlinellir yn y Gyfarwyddeb Dyfroedd Pysgod Cregyn.  Cyhoeddwyd ymgynghoriad gennym ar 5 Rhagfyr sy’n rhoi amlinelliad o’n cynigion i newid y dynodiadau presennol.  Daw’r ymgynghoriad i ben ar 2 Mawrth 2012, ac rwy’n gobeithio y bydd cynrychiolwyr o’r diwydiant pysgod cregyn ac eraill sydd â diddordeb yn cyfrannu at yr ymgynghoriad ac yn llywio’r dynodiadau terfynol.    

Er mwyn gweithredu’r Gyfarwyddeb Nitradau yn effeithiol, bu Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o’r ardaloedd sydd wedi’u dynodi’n Barthau Perygl Nitradau, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o golli nitradau o ganlyniad i ddŵr ffo amaethyddol i gyrsiau dŵr.  Rydym wedi gofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd asesu a chynnig ardaloedd ble y ceir tystiolaeth bod llygredd nitradau yn achosi problemau yng Nghymru.  Rydym yn bwriadu ymgynghori ar yr ardaloedd sydd i’w dynodi yn ogystal â’r cynllun gweithredu i leihau llygredd nitradau o ffynonellau amaethyddol yn ystod gwanwyn 2012, i lwyio’r broses o ddynodi Parthau Perygl Nitradau ym mis Ionawr 2013.    

Mae canlyniadau dŵr ymdrochi ar gyfer 2011 yn dangos bod 87 allan o 88 o ddyfroedd ymdrochi Cymru wedi bodloni’r safon gofynnol ar gyfer iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, o dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi.  Roedd 82 allan o’r 87 o ddyfroedd ymdrochi yn bodloni’r Safon Canllaw Ewropeaidd llymach sy’n cael eu defnyddio wrth roi gwobrau Baner Las.   

Eleni cynhaliwyd ymgyghoriad gennym ar godi nifer y dyfroedd ymdrochi dynodedig yn 2012 ac rydym wedi derbyn sawl cais i’w hystyried.  

Rydym yn gweithio gyda Defra i symud tuag at safonau dyfroedd ymdrochi newydd fel a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi ddiwygiedig, ac mae angen eu cyrraedd erbyn tymor ymdrochi 2015.  Mae’r safonau diwygiedig yn symlach, yn llymach eto ac yn canolbwyntio mwy fyth ar iechyd y cyhoedd.  Bydd y gwaith ar y safon hwn yn debygol o’i gwblhau erbyn y flwyddyn nesaf.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu systemau carthffosiaeth a draenio sy’n cael eu cynnal yn dda, sydd â digon o gapasiti i ymdopi â’r galw, ac sydd ddim yn llygru neu’n achosi i’r system garthffosiaeth orlifo yng nghartrefi pobl.   

Daeth Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011 i rym ar Orffennaf 2011, gan hwyluso’r broses o drosglwyddo carthffosydd preifat a draeniau ochrol i ymgymerwyr carthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref 2011.  Mae hon yn garreg filltir fawr ac yn golygu cynnydd o 50% yn rhwydwaith carthffosiaeth Dŵr Cymru.  Hyd yma, bu’r broses o drosglwyddo yn llwyddiant yng Nghymru, ac mae wedi cael gwared ar y baich annheg i ddeiliaid tai o gynnal a chadw.   

Er mwyn sicrhau nad oes gennym ragor o garthffosydd preifat is na’r safon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 31 Hydref 2011, yn holi barn pobl am weithredu Adran 42 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.  Roedd hyn yn cynnwys darpariaethau i’w gwneud yn orfodol i gytuno ar broses o fabwysiadu carthffosydd budr ac i gyflwyno safonau gorfodol ar gyfer adeiladu carthffosydd budr disgyrchiant newydd a draeniau ochrol i sicrhau eu bod yn cael eu hadeiladu i safon addas.  Mae hefyd yn cynnwys y safonau adeiladu gorfodol drafft cysylltiedig ar gyfer carthffosydd budr a draeniau ochrol disgyrchiant sy’n cysylltu â’r system garthffosiaeth gyhoeddus.  

Bydd safonau gorfodol a safonau mabwysiadu yn sicrhau bod pob carthffos fudr disgyrchiant newydd sy’n cysylltu â’r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus yn cael ei hadeiladu i safon y gellir eu mabwysiadu, ac y dont yn gyfrifoldeb yr ymgymerwyr carthffosiaeth i sicrhau safonau cynnal a chadw uchel parhaus.  Daw’r ymgynghoriad i ben ar 23 Ionawr 2012, a bydd yr ymatebion yn allweddol wrth lunio’r safonau terfynol.  Wedi ystyried ymatebion yr ymgynghoriad, rwy’n bwriadu sicrhau bod y safonau adeiladu gorfodol wedi’u pennu erbyn Ebrill 2012.  

Roedd Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn cynnwys darpariaethau pwysig ar draenio cynaliadwy a fyddai’n cyflwyno trefniadau newydd i gymeradwyo a mabwysiadu systemau draenio.  Bydd cynnydd yn nifer y systemau draenio cynaliadwy yn helpu i reoli a lleihau’r llif dŵr wyneb i systemau draenio, yn lliniaru’r perygl o lifogydd ac yn diogelu ansawdd y dŵr.  Rwy’n bwriadu ymgynghori ar y cynigion i ddatblygu’r darpariaethau hyn ar ddechrau 2012.  

Rydym wedi ymrwymo i gyflenwad dŵr diogel sy’n gwrthsefyll peryglon naturiol ac effeithiau y newid yn yr hinsawdd tra’n sicrhau bod mesurau amddiffyn a diogelwch digonol wedi’u pennu.  

Mae’r cyfnodau hir o dywydd sych dros y dair mlynedd ddiwethaf yn ein hatgoffa o bwysigrwydd ein hadnoddau dŵr, a’r angen i bawb chwarae eu rhan i ddefnyddio dŵr yn effeithiol i sicrhau bod gennym ddigon o ddŵr yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.  Mae’n hanfodol i gymryd ymagwedd hirdymor tuag at gynllunio adnoddau dŵr a byddwn yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd a chwmnïau dŵr i sicrhau bod y mesurau priodol yn cael eu cymeryd, i ystyried effaith y galw yn y dyfodol a’r newid yn yr hinsawdd ar ein hadnoddau dŵr.   

Byddaf yn cymryd y cyfle hefyd yn ein Hymgynghoriad ar y Strategaeth Dŵr sydd ar y gweill i ystyried rhai o’r newidiadau sydd eu hangen i’n system bresennol o reoli adnoddau dŵr – sef y drwydded tynnu dŵr – i sicrhau ei fod yn addas at y diben a’i fod yn rhoi’r hyblygrwydd i Asiantaeth yr Amgylchedd i reoli’r broses o dynnu dŵr o’r amgylchedd mewn dull briodol.  

Mae gan effeithlonrwydd dŵr ran allweddol i’w chwarae mae’n amlwg wrth reoli dŵr yn gynaliadwy, a bydd angen darparu gwybodaeth a chyngor i annog pobl i fod yn ddoeth wrth ddefnyddio dŵr ar draws bob sector.  Byddwn yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod hyn yn digwydd ledled Cymru y flwyddyn nesaf.      

Yn gynharach eleni cafwyd ymgynghoriad ar yr argymhellion ar gyfer effeithlonrwydd dŵr o fewn Adolygiad Walker, gan holi barn am y cynigion i annog pobl i fod yn fwy effeithlon wrth ddefnyddio dŵr, trwy weithgareddau i newid agwedd, trefniadau gwirfoddol gyda gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr cynnyrch sy’n defnyddio dŵr, a swyddogaeth rheoleiddio.  Rydym yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad wrth ddatblygu polisïau ar gyfer Cymru yn y maes hwn yn y dyfodol.   

Cyhoeddais y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar 14 Tachwedd.  Mae’r Strategaeth Genedlaethol yn pennu pedwar o amcanion i reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.  Y rhain yw: lleihau canlyniadau llifogydd ac erydu arfordirol i unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd; codi ymwybyddiaeth pobl, ac ymgysylltu â phobl yn yr ymateb i’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol; rhoi ymateb effeithlon a chyson i lifogydd ac achosion o erydu arfordirol; a blaenoriaethu’r buddsoddiad yn y cymunedau sydd mewn mwyaf o berygl.   

Bwriad yr amcanion sydd wedi’u hamlinellu o fewn y Strategaeth Genedlaethol hon yw sicrhau ein bod yn datblygu system rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol sy’n addas i Gymru ac yn ddigon hyblyg i addasu i newidiadau yn y dyfodol.  

Bum yn cadeirio cyfarfod o Fforwm Diwydiant Dŵr Cymru ar 27 Gorffennaf.  Mae’r Fforwm hwn yn dod â rhanddeiliaid allweddol sydd â diddordeb yn y diwydiant dŵr a gwasanaethau dŵr yng Nghymru at ei gilydd.  Swyddogaeth y fforwm yw nodi ac ystyried sut i fynd i’r afael â’r prif heriau sy’n ein hwynebu yn y sector dŵr yn y dyfodol.  Rwyf am adeiladu ar y dull pwysig hwn o ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd dŵr, er enghraifft, yn ogystal â chanolbwyntio’n bennaf ar y broses o adolygu prisiau.  

Roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ymrwymiad i ddatblygu Strategaeth Dŵr Cymru.  Rwy’n bwriadu ymgynghori ar y cynigion ar gyfer y Strategaeth yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf.  Bydd y Strategaeth yn adeiladu ar yr ymrwymiadau polisi y tynnir sylw atynt yn y Datganiad Sefyllfa ar y Polisi Strategol a bydd yn pennu camau clir i’w cymeryd i gyflenwi a rheoli adnoddau dŵr yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.   

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod toriad er mwyn hysbysu’r aelodau.