Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r haf prysur i Economi Ymwelwyr Cymru wedi dangos pwysigrwydd hanfodol seilwaith twristiaeth o ran darparu profiad o safon i ymwelwyr.

Er mwyn helpu sefydliadau i gynllunio ymlaen ar gyfer y blynyddoedd i ddod, mae Y Pethau Pwysig yn gronfa newydd ledled Cymru sy'n cefnogi sefydliadau cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau dielw i gyflawni gwelliannau sylfaenol i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach. 

Mae 26 o brosiectau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid ar gyfer y gronfa £2.4 miliwn ar gyfer 2021-2022. 

Cefnogwyd prosiectau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach gan awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol a'r trydydd sector a - pob un yn helpu i sicrhau bod pob ymwelydd â Chymru yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy drwy gydol eu harhosiad.

Mae'r prosiectau'n cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, gwell cyfleusterau toiled a pharcio ceir, cyfleusterau Mannau Newid hygyrch a gwell arwyddion a phaneli dehongli.