Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, a phan oeddwn yn Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, gwnes fynychu pedwerydd cyfarfod y Grŵp Rhyng-Weinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd.

• Cadeiriwyd y cyfarfod gan Roseanna Cunningham ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir.  Roedd Paul Wheelhouse ASA, y Gweinidog Ynni, Cysylltedd a'r Ynysoedd, Edwin Poots ACD, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a'r Gwir Anrhydeddus Anne-Marie Trevelyan AS, y Gweinidog Busnes, Ynni a Thwf Glân (BEIS) yn y cyfarfod hwn hefyd.

Roedd y cyfarfod yn cynnwys trafodaeth ar newidiadau posibl yng nghwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU. Buom hefyd yn trafod y camau nesaf yn dilyn cyhoeddi'r Strategaeth Datgarboneiddio Diwydiannol. Yn olaf, bu edrych ymlaen at sut y byddai'r bedair weinyddiaeth yn cydweithio wrth ddatblygu Strategaeth Sero Net Llywodraeth y DU.