Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol.

Ar 12 Gorffennaf 2011, gwnaeth Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gan gyhoeddi ei fwriad i ddeddfu ar gynnal ein hymrwymiad i sefydlu datblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus yng Nghymru a chreu corff datblygu cynaliadwy statudol newydd i Gymru hefyd.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Papur Gwyn sy’n disgrifio ein cynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy yn unol â’r ymrwymiad hwn.  Mae hwn yn gam pwysig iawn ymlaen yn ein taith ddatganoli ac mae’n ychwanegu at yr hyn yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn ac mae’n amlinellu sut y byddwn yn defnyddio ein pwerau deddfwriaethol sylfaenol i gynnal fframwaith lywodraethu gryfach er mwyn cefnogi datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 4 Mawrth 2013.  Rwy’n gobeithio cyflwyno’r Bil i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hydref 2013.