Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn ymwybodol o’r materion a godwyd y llynedd o ganlyniad i chwalu Southern Cross Healthcare - y darparwr cartrefi gofal ar y pryd. A minnau bellach wedi pwyso a mesur y digwyddiadau hynny hoffwn roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ar y camau rwyf yn bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â methiant darparwyr gofal cymdeithasol ac i wella’r ffordd y mae’r farchnad gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael ei goruchwylio.

Un o’r negeseuon clir a ddaeth i’r amlwg yn sgil chwalu Southern Cross oedd y  rheidrwydd i sicrhau y byddai modd dod o hyd i leoliad gofal amgen i’r preswylwyr hynny yr effeithiwyd arnynt i ddiwallu eu hanghenion beunyddiol. Gan fod methiant ar ran darparwr yn digwydd heb fawr o rybudd yn aml, mae’n rhaid i hyn gael ei wneud mor gyflym â phosibl. Mae hyn yn atgyfnerthu’r angen i gyrff statudol gymryd perchnogaeth dros drefnu gofal amgen ac felly iddi fod yn glir pwy ddylai ymgymryd â’r dasg hon a pha gyfrifoldebau fyddai ynghlwm wrth y gwaith.
      
Yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig, bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod y Bil Gofal a gyflwynwyd gerbron y Senedd yn ddiweddar yn cynnwys darpariaethau sy’n gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol yn Lloegr os bydd darparwr gofal cymdeithasol yn methu. Mewn achosion lle mae darparwr gofal cartref yn methu bydd yn ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu ar gyfer anghenion gofal pwysicaf pawb mewn cartref gofal yr effeithir arno yn ei ardal. Byddai hyn yn cynnwys achosion lle’r oedd awdurdodau lleol eraill wedi’u gosod yno ar draws siroedd, neu lle’r oedd awdurdodau lleol yng Nghymru wedi’u gosod yno ar draws ffiniau. Byddai’n gymwys hefyd pe bai unigolyn wedi trefnu ei ofal ei hun (h.y. hunan-ariannwr), er na fyddai’r  ddyletswydd hon yn gymwys ond pe bai’r hunan-ariannwr yn fodlon i’r awdurdod lleol drefnu ei ofal pwysicaf. Mae’r darpariaethau hyn hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol yng Nghymru i wneud yr un peth yn achos unrhyw breswylwyr o Loegr a oedd wedi cael eu gosod ar draws ffiniau mewn cartref gofal yn ei ardal sy’n methu. Ar adeg briodol byddai’r cyfrifoldeb dros gomisiynu gofal unigolyn yn y tymor hir yn troi yn ôl i’w awdurdod comisiynu gwreiddiol i ddarparu trefniadau parhaol i ddiwallu eu hanghenion gofal.

Er mwyn sicrhau nad yw awdurdodau lleol sy’n trefnu’r gofal pwysicaf yn mynd i gostau ychwanegol mae’r Bil Gofal yn darparu i awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr adennill costau darparu llety a gofal oddi wrth yr awdurdod lleol comisiynu gwreiddiol mewn achosion lle’r oedd lleoliad trawsffiniol wedi digwydd. Lle mae’r awdurdod lleol wedi mynd i gostau wrth ddiwallu anghenion a oedd yn cael eu diwallu heblaw trwy ddarparu llety a gofal, mae’r awdurdod lleol yn gallu adennill y costau hynny oddi wrth yr oedolyn ei  hun.

Yn fy marn i mae’r dyletswyddau newydd hyn yn elfen allweddol wrth ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau agored i niwed y mae methiant ar ran darparwr gofal cymdeithasol yn effeithio arnynt. Felly, gosodais Gynnig Cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 23 Mai i gefnogi’r dyletswyddau hynny yn y Bil Gofal sy’n effeithio ar Gymru. Mae hyn yn arwydd o’m hymrwymiad i sicrhau bod pawb sydd mewn gofal preswyl yng Nghymru y mae methiant ar ran darparwr gofal cymdeithasol yn effeithio arnynt yn cael ei ddiogelu fel hyn er mwyn sicrhau bod eu hanghenion gofal pwysicaf yn cael eu diwallu o dan yr amgylchiadau anffodus hyn.

Mae’n fwriad gennyf felly gyflwyno gwelliannau i’n Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a  Llesiant (Cymru) i gydategu’r darpariaethau yn y Bil Gofal. Byddai’r rhain yn gosod  dyletswydd debyg ar awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu ar gyfer anghenion gofal pwysicaf pawb mewn cartref gofal yn eu hardal sy’n methu, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu gosod yno ar draws siroedd gan Awdurdodau eraill yng Nghymru a hunan-arianwyr (lle maent yn fodlon i’r awdurdod lleol wneud hyn). Byddai hefyd yn caniatáu i awdurdodau sy’n trefnu gofal uniongyrchol adennill cost trefnu hynny oddi wrth yr awdurdod lleol comisiynu gwreiddiol, neu yn achos hunan-ariannwr a oedd wedi cytuno i’r awdurdod lleol wneud hyn, oddi wrth yr hunan-ariannwr ei hun. Rydym wrthi’n negodi hefyd â Llywodraethau Datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau y gellir cytuno ar drefniadau gyda’r gwledydd hynny. Trwy gyfrwng y trefniadau hynny, y  darpariaethau yn y Bil Gofal a’r gwelliannau i’n Bil, y bwriad yw y câi pawb mewn cartref gofal yn y DU y mae methiant ar ran darparwr yn effeithio arnynt eu diogelu trwy drefnu bod eu hanghenion gofal pwysicaf yn cael eu diwallu nes y gellir sefydlu trefniadau mwy hirdymor ar gyfer eu gofal.

Byddai’r trefniadau hyn yn gwella’r amddiffyniad a roddir i breswylwyr cartrefi gofal lle codir pryderon am ddarparwyr, neu lle mae cartrefi’n cau. Cafodd canllawiau statudol ar hynny sef, “Escalating Concerns with, and Closures of, Care Homes for Adults”, eu cyhoeddi yn 2009 ar gyfer yr awdurdodau lleol. Mae’n egluro iddynt ac i gyrff statudol perthnasol eraill beth yw eu cyfrifoldebau a’u swyddogaethau wrth ymdrin â phryderon difrifol, a materion sy’n ymwneud â’r ffordd y mae cartref gofal yn gweithredu a/neu ansawdd y gofal sydd i’w gael ynddo. Mae Escalating Concerns wedi cael ei roi ar waith yn effeithiol ers iddo gael ei  gyflwyno. Er hynny, er mwyn sicrhau ei fod yn dal yn addas at ei ddiben, ei fod wedi cryfhau darpariaethau diogelu ac amddiffyn a’i fod yn effeithiol o ran ymdrin â sefyllfaoedd megis methiant darparwr, rwyf wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl i adolygu’r Canllawiau. Mae hwn yn cael ei gadeirio gan y Comisiynydd Pobl Hŷn ac rwyf wedi gofyn i’r Grŵp gynhyrchu canllawiau atodol ar gau cartrefi gofal i gefnogi Escalating Concerns. Mae bellach wedi cytuno ar ei gylch gorchwyl a’i raglen waith ac yn bwriadu cyflwyno adroddiad yn nes ymlaen eleni.  

Un o’r negeseuon allweddol eraill a ddaeth i’r amlwg yn sgil chwalu Southern Cross oedd yr angen nid yn unig i sicrhau bod y rhai sy’n gweithredu yn y sector yn ffit i wneud hynny ond hefyd i sicrhau, lle mae darparwyr yn mynd i anawsterau, fod ganddynt gynlluniau cadarn i ddelio â hyn. Mae hi, felly, yr un mor bwysig i reoleiddwyr darparwyr gofal cymdeithasol fod yn glir ynghylch gallu darparwyr i ddarparu gofal cyson o safon, ag yw hi i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ganlyniadau uniongyrchol methiant darparwr. Mae angen adolygu a gwella’r ffordd y mae’r sector yn cael ei reoleiddio.

Rydym eisoes wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar ddyfodol rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru ac i gyflwyno deddfwriaeth os bydd angen er mwyn cyflawni ein nodau. Mae hyn yn rhoi i ni’r cyfle aur y mae arnom ei angen i fynd ati i  oruchwylio’r farchnad gofal cymdeithasol ac i ystyried pa welliannau y byddai eu hangen yn achos ein trefniadau presennol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu darparwyr. Bydd y  Papur Gwyn yn amlinellu’r dewisiadau ar gyfer cryfhau rheoleiddio gofal gwasanaethau a lleoliadau, yn arbennig rheolaeth ariannol ar ddarparwyr, a sut rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â’r agenda hon. Bydd yn ystyried y model ar gyfer rheoleiddio yn y dyfodol a’r pwerau gorfodi a ddylai fod ar gael i Weinidogion Cymru.  Bydd darpariaethau mewn perthynas â chofrestru  darparwyr corfforaethol mawr a mecanweithiau ar gyfer ymdrin ag achosion o fethiant ar ran darparwyr, gan gynnwys methiant ariannol, yn rhan o’r ystyriaethau hyn. Rydym wrthi’n ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ynghylch llunio ein Papur Gwyn ac mae’n fwriad gennyf gyhoeddi hwn ym mis Medi. Trefnaf fod gwybodaeth bellach ar gael am hyn maes o law.

Trwy’r camau amrywiol hyn rwyf yn bwriadu dysgu gwersi Southern Cross nid yn unig trwy wella’r ffordd y mae’r awdurdodau lleol ac eraill yn delio â sgil-effeithiau uniongyrchol methiant ar ran darparwr gofal cymdeithasol, ond hefyd sefydlu gwell broses o reoleiddio at y dyfodol i sicrhau mai dim ond y rhai sy’n gallu darparu gwasanaethau cyson o safon sy’n cael gweithredu yn y sector yn y lle cyntaf.