Vikki Howells, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Heddiw, cyfarfu'r Prif Weinidog a minnau â'r Is-Gangellorion o bob prifysgol yng Nghymru i barhau â'n deialog ynghylch ein rhaglen diwygio addysg uwch. Mae diwygio yn hanfodol ar gyfer iechyd ariannol ein sector yn y dyfodol, i'r dysgwyr sy'n astudio yn ein sefydliadau, ac ar gyfer ein twf economaidd yn y dyfodol.
Fel y dywedais o'r blaen, rydym eisoes wedi dechrau trawsnewid y system addysg drydyddol yng Nghymru ac rwyf am roi mwy o fanylion am sut y bydd Llywodraeth Cymru, Medr a'r sector yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy.
Heddiw, ar y cyd â’r Is-Gangellorion a Medr, rydym wedi nodi nifer o feysydd gwaith blaenoriaeth i'w datblygu.
Mae galluogi mwy o gydweithio yn y sector yn hanfodol i sicrhau darpariaeth briodol ledled Cymru ac i lywio’r gwaith o gynllunio addysgu ac ymchwil. Rwyf wedi gofyn i Medr arwain ar hyn drwy ymgymryd â throsolwg o'r galw am bynciau a'r ddarpariaeth yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried a allai ymyriadau polisi fod yn angenrheidiol i ddiogelu darpariaeth o bwysigrwydd strategol. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a yw'r cyllid sy'n cael ei ddarparu i gefnogi darpariaeth sy’n flaenoriaeth strategol yn ddigonol ar gyfer cynaliadwyedd a thwf hirdymor.
Rydym wedi llwyddo yng Nghymru i ehangu addysg uwch ran-amser yn sylweddol, yn enwedig drwy'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Rwyf am sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn gynaliadwy, ac felly byddaf yn archwilio cynnydd yn y benthyciad at ffioedd rhan-amser i sicrhau y gall prifysgolion barhau i ddarparu mewn modd cynaliadwy a gall dysgwyr barhau i fanteisio ar gyfleoedd rhan-amser. Rydym am ddenu mwy o bobl yn ôl i ddysgu, gan ddarparu sgiliau lefel uwch a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach pan fydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau.
Rwyf hefyd am nodi'r meysydd y byddaf yn eu blaenoriaethu wrth weithio gyda Llywodraeth y DU ar eu cynlluniau nhw ar gyfer diwygio addysg uwch. Byddaf yn gofyn am eglurder gan Lywodraeth y DU ar bolisi ffioedd ar draws tymor seneddol presennol y DU, fel y gallwn roi mwy o sicrwydd i brifysgolion yn eu cynllunio ariannol. Rwyf hefyd eisiau mwy o eglurder ynghylch manylion rheolau Trysorlys EM ar ein cyllideb ar gyfer benthyciadau myfyrwyr, fel y gallwn gynllunio'n well o lawer ar gyfer polisi ehangach ar gymorth myfyrwyr. Byddaf hefyd yn archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y cyllid ffyniant cyffredin ac ymchwil, er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg sylweddol yr ydym yn ei wynebu yng Nghymru yn dilyn diwedd cyllid strwythurol yr UE. Byddaf hefyd yn cyfathrebu sylwadau’r sector yng Nghymru ar ddyfodol y fisa i raddedigion.
Bydd Medr yn cyhoeddi ei Gynllun Strategol cyntaf yr wythnos nesaf, gan nodi mwy o fanylion ar sut y bydd yn llywio'r broses ddiwygio drwy'r sector addysg drydyddol ac ymchwil. Mae Medr eisoes yn datblygu system reoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol a bydd yn dechrau ymgynghori ar hyn ym mis Ebrill. Bydd y system ar waith y flwyddyn nesaf a bydd yn cael ei hategu gan gofrestr addysg uwch gydag amodau cysylltiedig. Bydd yr amodau hyn yn cynnwys amrywiaeth o ofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol, llywodraethiant a rheolaeth, ansawdd, cyfle cyfartal, lles staff a myfyrwyr ac ymgysylltu â dysgwyr.
Rwy'n bwriadu cychwyn dyletswyddau Medr mewn perthynas â datblygu ei ddatganiad ar bolisi cyllido ym mis Ebrill. Dyma'r cam cyntaf i ddatblygu system gyllido i gefnogi'r sector addysg drydyddol a sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bob punt yn ein system addysg drydyddol ac yn targedu'r canlyniadau cywir.
Yn ogystal â'm cyfarfod gyda'r Is-Gangellorion, rwy'n parhau i gwrdd yn rheolaidd â'r undebau llafur y mae'r ansicrwydd yn y sector yn effeithio ar eu haelodau, i glywed ganddynt yn uniongyrchol. Drwy gydol y cyfnod hwn, rwyf wedi pwysleisio'n barhaus yr angen i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rwy'n dal i ddisgwyl i brifysgolion weithio'n agos gydag undebau llafur, staff a chynrychiolwyr myfyrwyr a rhoi ystyriaeth lawn i opsiynau amgen cyn ystyried diswyddiadau gorfodol.
Mae ein prifysgolion yn hanfodol i'n huchelgeisiau ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus, tyfu'r economi, a galluogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Er nad oes atebion hawdd i'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd, rwyf wedi ymrwymo i barhau â'n rhaglen ddiwygio mewn partneriaeth ag eraill er mwyn sicrhau y gall ein prifysgolion barhau i ddarparu'r addysg a'r twf economaidd sydd eu hangen arnom yng Nghymru.
I'r perwyl hwnnw, byddaf yn cwrdd â phob Is-Ganghellor a Medr yn rheolaidd trwy gyfres o gyfarfodydd bord gron i'n helpu i gynnal momentwm y rhaglen ddiwygio a gwneud cynnydd yn erbyn camau gweithredu allweddol. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.