Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae'r aelodau yn ymwybodol fy mod wedi cyfarfod â'r Tasglu Gweinidogol yng Ngogledd Cymru ym mis Tachewdd 2013 i gael cyngor ar sut y gall y Gogledd fanteisio ar y broses o foderneiddio'r rheilffyrdd, gwella cysylltiadau trafnidiaeth a sicrhau bod gwelliannau mwy effeithiol i’r isadeiledd a gwasanaethau trafnidiaeth yn y rhanbarth.
Mae'r gwaith bellach wedi'i gwblhau, ac rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a'r Aelodau, sef cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol, ardaloedd menter a'r sector preifat yng Ngogledd Cymru am eu hadroddiad. Mae’r adroddiad yn cynnwys 23 o argymhellion sy'n adeiladu ar argymhellion yr adroddiadau blaenorol - gan gynnwys Adroddiad Economi Drawsffiniol Rhanbarth Dyfrdwy ac adroddiad Tasglu Trafnidiaeth Integredig Gogledd-ddwyrain Cymru.
Heddiw rwy'n cyhoeddi'r adroddiad hwnnw a'm ymateb manwl i bob un o'r 23 o argymhellion, ac, wedi ystyried yr adroddiad, gallaf bellach roi amlinelliad o'm blaenoriaethau ar gyfer rheilffyrdd yn y rhanbarth.
Cyn bo hir byddaf yn cyflwyno'r Achos Busnes Amlinellol Strategol ar gyfer trydaneiddio Prif Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru i'r Adran Drafnidiaeth. Wrth bwyso i drydaneiddio'r rheilffyrdd yn y gogledd, rwy'n ystyried y rheilffordd rhwng Caergybi a Crewe fel un. Byddai cynllun annibynnol ar gyfer Crewe i Gaer ac ar gyfer Caer i Warrington, fel arall, yn arwain at ddiffyg manteision sylweddol, a fyddai'n gorfodi teithwyr i newid yng Nghaer gan arwain at golledion economaidd o dros £260 miliwn i economi Cymru a dros £210 miliwn i economi Lloegr. Mae'r adroddiad diweddar gan dasglu trydaneiddio Gogledd Lloegr wedi gwneud yn glir bod angen ystyried cynlluniau i Gaer fel rhan o gynllun ehangach ar gyfer Gogledd Cymru.
Rwyf wedi gofyn i Dr Elizabeth Haywood gysylltu gydag awdurdodau lleol a busnesau yng Ngogledd Cymru i gefnogi'r achos dros drydaneiddio'r brif reilffordd.
Dim ond rhan o'm gweledigaeth ehangach ar gyfer moderneiddio'r rheilffyrdd yw trydaneiddio. Mae gan reilffyrdd ar draws ffiniau swyddogaeth economaidd bwysig o ran manteisio i'r eithaf ar fuddsoddiadau mewn rheilffyrdd yng Ngogledd Lloegr a Gogledd Cymru. Mae fy swyddogion wedi edrych ar ba mor ymarferol yw ymestyn y gwasanaethau ar draws y Pennines o Ogledd Cymru a rydym yn cydweithio â Merseytravel i ddatblygu achos dros wella Halton Curve a fyddai'n gwella'r cysylltiadau rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru.
Mae cyfyngiadau'r rhwydwaith rhwng Wrecsam a Chaer yn golygu bod rhwystrau sylweddol i gyflawni'r cysylltiadau y dymunwn ar y rheilffyrdd ar gyfer Wrecsam. Rwyf wedi gofyn am gymorth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i gael Network Rail i gynnal gwaith datblygu, gyda'r bwriad o ddarparu rhagor o gapasiti ar y rhwydwaith rhwng Wrecsam a Chaer. Bydd fy swyddogion yn cydweithio â Network Rail i sicrhau y bydd y gwaith datblygu hwn yn mynd yn ei flaen yn gyflym fel y gall y costau buddsoddi a'r manteision sydd i ddeillio o'r buddsoddiad yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol. Rwyf wedi sicrhau y byddwn yn edrych ar yr achos dros y cynllun hwn, yn ogystal â gwelliannau eraill yn y Gogledd megis gwelliannau i gyflymder y rheilffyrdd, a'u cynnwys yn yr Astudiaeth Llwybrau Cymru gan Network Rail, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ar 4 Mawrth 2015.
Ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddais fy Nghynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar gyfer ymgynghoriad. Mae'r Cynllun yn rhoi amlinelliad o'r amrywiol ymyriadau a'r buddsoddiadau i wella'r cysylltiadau trafnidiaeth ledled Cymru, gan gynnwys blaenoriaethau rhanbarthol. O fewn y Cynllun, rwyf wedi gwneud ymrwymiadau i wella gorsafoedd, edrych ar y posibiliadau ar gyfer gorsafoedd newydd, gwella gallu y rhwydwaith, lleihau amseroedd teithio a sicrhau gwasanaethau mwy rheolaidd.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ein trafodaethau â'r Adran Drafnidiaeth i benderfynu ar ein swyddogaethau yn y dyfodol o ran masnachfraint y rheilffyrdd. Rwyf wedi sefydlu fframwaith clir sy'n pennu'r gwaith sydd angen ei wneud i sicrhau bod y cyfrifoldeb ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd yn cael ei drosglwyddo'n ddi-drafferth erbyn dechrau 2017. Byddaf yn cyhoeddi'r Bwrdd Cynghori Strategol newydd yn fuan a fydd yn llywio ein gwaith ar Fasnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Dyma gyfle i gynllunio gwasanaethau rheilffordd sy'n cefnogi ein huchelgeisiau economaidd a chymdeithsaol ehangach yn well.
Bydd copi o'r adroddiad terfynol gan fy Nhasglu Gweinidogol ar Drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â'm hymateb, yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.