Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol mai bwriad cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 17 Hydref oedd cytuno ar y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a 27 gwlad yr UE, a gosod telerau’r berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. Er ei bod yn ymddangos bod cytundeb ar y bwrdd oedd yn dderbyniol i'r ddau dîm negodi, nid oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol ar lefel wleidyddol o fewn Llywodraeth y DU.
Fel yr adroddwyd yn eang, mae gwahaniaethau sylweddol o hyd rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ar gynigion i sicrhau na fydd ffin galed yn Iwerddon, yr hyn a elwir yn "backstop". Er gwaethaf galwadau'r UE am gynigion cadarn newydd gan Lywodraeth y DU yn dilyn y methiant i gytuno cyn y Cyngor, ymddengys bod Prif Weinidog y DU wedi ail bwysleisio safbwynt y DU yn hytrach na dangos yr hyblygrwydd angenrheidiol i ddod i gytundeb.
Mae'r oedi pellach hwn cyn cadarnhau Cytundeb Ymadael yn ddiangen ac o bosib yn niweidiol tu hwnt. Heb Gytundeb Ymadael, nid oes unrhyw sicrwydd am gyfnod pontio, ac mae'n amlwg bod hyn yn effeithio ar hyder busnesau a buddsoddiad. Pe bai Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu'r cynllun ar gyfer negodi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dros 18 mis yn ôl, ni fyddai unrhyw angen am gynllun wrth gefn, ac fe fyddem wedi gweld cynnydd sylweddol ar y bartneriaeth gyda'r UE yn y dyfodol yn ogystal â chadarnhau'r Cytundeb Ymadael.
Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU, drwy fy rôl i ar Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) a rôl y Gweinidog Tai ac Adfywio ar Fforwm y Gweinidogion, i ddangos yr hyblygrwydd angenrheidiol i ddod i gytundeb gyda'r UE. Rydym wedi dweud yn glir bod angen i'r cytundeb ddiogelu'r economi a swyddi, fel nodwyd yn Diogelu Dyfodol Cymru.
Gan gofio cymhlethdod y negodiadau manwl sy'n ofynnol, rwyf hefyd wedi pwysleisio'r angen am ddigon o hyblygrwydd o ran hyd y cyfnod pontio. Er ei bod yn galonogol gweld rhywfaint o gydnabyddiaeth o'r diwedd bod angen hyblygrwydd, rydym eto fyth yn gweld rhaniadau o fewn Llywodraeth y DU, gyda'r Prif Weinidog yn ceisio plesio'r rhai sy'n gwthio am ymadael heb gytundeb.
Rydym wedi dweud yn gwbl glir y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru a'r DU yn gyfan. Rhaid osgoi sefyllfa o'r fath. Mae unrhyw oedi cyn dod i gytundeb cywir â'r UE ond yn cynyddu'r perygl o ymadael heb gytundeb. Mae pob diwrnod ychwanegol o ansicrwydd yn peryglu mwy o fuddsoddiadau a swyddi. Rhaid i Brif Weinidog y DU drechu cefnogwyr di-ildio Brexit a chytuno ar gytundeb gyda'r UE fel bod modd ei chyflwyno gerbron Seneddau'r DU.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i'r negodi barhau.