Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dyma'r diweddaraf i aelodau ynghylch y broses i gaffael Partner Gweithredu a Datblygu Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.  Lansiwyd y broses ym mis Gorffennaf 2016.

Rydym wedi cyrraedd carreg filltir hanesyddol i'r rheilffyrdd yng Nghymru. Am y tro cyntaf, mae gwasanaeth rheilffyrdd wedi'i gaffael a'i ddyfarnu yng Nghymru er lles Cymru.

Daw yn sgil pedair blynedd o waith caled i ddatblygu trywydd arloesol unigryw fydd yn gallu dysgu o wersi rhoi masnachfreintiau a darparu seilwaith rheilffyrdd ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Gydol y broses, rydyn ni wedi ystyried hefyd yn y Senedd y deg blaenoriaeth yn adroddiad Pwyllgor yr Economi a Sgiliau 'Ar y Trywydd Iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru' a'r argymhellion yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 'Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau trên a seilwaith y rheilffyrdd'.

Aethom ati i lunio proses gaffael oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau, o dan Reoliadau Contractau Defnyddolion (2016) i ddatblygu contract rheilffyrdd a Metro De Cymru sy'n glyfar ac yn integredig ac o'r ansawdd uchaf. Roedd hyn yn newydd ym myd dyfarnu masnachfreintiau yn y DU a golygai y gallwn fynnu bod ymgeiswyr yn canolbwyntio ar ansawdd ac arloesi.

Gyda'r pwyslais ar ganlyniadau, gofynnwyd i'r ymgeiswyr ymateb i set benodol o ofynion ynghyd â'n blaenoriaethau polisi. Roedd y gofynion hyn yn fwy o lawer na'r hyn y gofynnir amdanynt gan y fasnachfraint bresennol. Rhag cael ein dal yn y fagl o wobrwyo'r ymgeisydd sy'n rhoi'r cynnig mwyaf anghynaliadwy, gwnaethon ni bennu amlen ariannu i'r ymgeiswyr allu gweithio ynddi i gyflawni'r blaenoriaethau hyn, ynghyd â dull sgorio fyddai'n cymell ymgeiswyr i fynd hyd yn oed ymhellach â'u cynigion buddsoddi.

Mae'r diwydiant rheilffyrdd wedi croesawu'r ffordd hon o weithio. Yng nghyfnod trafod y broses gaffael a'n helpodd ni i gaboli'n gofynion gan fanteisio ar yr arloesedd yn y diwydiant, cawsom bedwar ymgeisydd credadwy.

Am resymau rwyf wedi'u trafod mewn Datganiadau Ysgrifenedig eisoes, gwnaeth dau ymgeisydd adael y broses, gan adael dau i gystadlu â'i gilydd am y dyfarniad. Roedd y ddau o ansawdd aruthrol o uchel ac yn dyst i ymrwymiad y ddau dîm i ddarparu dau gynnig o ansawdd uchel dros Gymru.

Bydd Trafnidiaeth Cymru, ein cwmni di-elw hyd braich, yn cydweithio â'r Partner Gweithredu a Datblygu (ODP) newydd KeolisAmey i hoelio'n sylw ar brif flaenoriaethau'n teithwyr gan ganolbwyntio ar leddfu pryderon ynghylch capasiti seddau, hyd teithiau a nifer gwasanaethau a sicrhau prisiau teg a fforddiadwy a threnau glân o ansawdd uchel. Y bartneriaeth hon fydd y ffordd ar gyfer datblygu a darparu model y Metro mewn rhannau eraill o Gymru, gan brysuro dyfodiad Metro'r Gogledd.

Trwy Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi sicrhau bod y sector cyhoeddus yn parhau i fod â rhan i arwain a darparu gwasanaethau rheilffyrdd. Mae hynny wedi'i gwneud hi'n bosib inni ddiogelu'r hyn sy'n bwysig inni, integreiddio gwasanaethau â'r seilwaith a rhoi sylfeini cadarnach ar gyfer integreiddio trafnidiaeth gwasanaethau ar lefel ehangach.

Gadewch imi fod yn gwbl glir: yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, byddwn yn gweddnewid trafnidiaeth ar draws y wlad ac yn y gororau.

Dyma gontract fydd yn rhoi gwerth ein harian ni. Bydd yr ODP yn cynnal rhaglen fuddsoddi o bron £2 biliwn, gyda £738m yn cael ei fuddsoddi ym Metro'r De, £800m arall mewn cerbydau newydd a bron £200m i foderneiddio pob un o'r 247 o orsafoedd.  Bydd hyn yn chwyldro i gymunedau a phobl ar hyd a lled Cymru a'i gororau. Ar ben y fecanwaith yn y contract i gapio a rhannu elw, nid yw’r ODP yn disgwyl talu difidendau i'w randdeiliaid am y pum mlynedd gyntaf; bydd yn ailfuddsoddi'i elw i dalu am y buddsoddiad hwn.

Yn ogystal â gwella'n sefyllfa ariannol dros oes y contract, byddwn yn gweddnewid gwasanaethau'r rheilffyrdd.

Mae'r contract newydd yn adlewyrchu'n hymrwymiad i leihau carbon. Caiff Leiniau Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Coryton a Rhymni sy’n rhedeg i’r gogledd o orsaf Stryd y Frenhines Caerdydd eu trawsnewid i redeg yn llwyr ar drydan, gyda'r holl drydan hwnnw'n dod o ffynonellau cynaliadwy (50 y cant ohonyn nhw yng Nghymru). Erbyn y pumed flwyddyn, bydd allyriadau carbon yr holl wasanaeth wedi gostwng 25 y cant yn sgil cyflwyno'r genhedlaeth ddiweddaraf o Unedau Diesel Amlgerbyd (DMU).

Fe welwn welliannau sylweddol yn y system docynnau a phennu prisiau, gan gynnwys mwy o docynnau clyfar, cynllun gwell ar gyfer talu iawndal gan gynnig ad-daliadau os bydd trên mwy na 15 munud yn hwyr (yn hytrach na'r 30 munud presennol) gan gynnwys proses awtomatig ar gyfer tocynnau a brynwyd ymlaen llaw. O fis Ionawr 2020, byddwn yn gweithio i wneud y drefn prisio tocynnau'n haws ei deall ac yn decach, trwy gyflwyno prisiau cyfnodau tawel newydd, gostwng prisiau wrth y cownter yn y Gogledd a gwastodi prisiau tocynnau'r Metro yn rhyw 50 y cant o’r gorsafoedd ym Mlaenau'r Cymoedd.

Bydd tocynnau consesiwn hanner pris yn cael eu cynnig i bobl 16-18 oed.

Bydd trenau'n fwy prydlon a theithwyr fydd canolbwynt safonau perfformiad er mwyn sbarduno gwelliannau. Bydd gorsafoedd a threnau'n lanach yn sgil cyflwyno safonau ansawdd newydd a buddsoddiad sylweddol.

Bydd cynnydd mawr yn y capasiti er mwyn i fwy o bobl gael sedd ar yr adegau prysuraf.  Bydd nifer y seddi'n cynyddu - cynnydd o 80% yn y milltiroedd seddi bob wythnos ar draws y gwasanaeth cyfan. Mae'r contract yn sicrhau y caiff ODP Trafnidiaeth Cymru ei gosbi os bydd yn rhaid i deithwyr sefyll am fwy nag 20 munud.

Mae hon yn rhaglen fuddsoddi tymor hir, gyda gwelliannau i'r gwasanaeth yn dechrau gyda newid yr amserlen ym mis Rhagfyr gan bara hyd at 2024. Mae'r tabl yn Atodiad A yn crynhoi'r gwelliannau sydd yn yr arfaeth.

I leddfu problem gorlenwi'r trenau, byddwn yn prynu cerbydau ychwanegol o 2019, hynny ar ben y trenau ychwanegol rydym eisoes wedi'u cyhoeddi. Defnyddir y trenau ychwanegol hyn i leddfu'r broblem gorlenwi ac i gyflwyno gwasanaethau newydd. Byddan nhw hefyd yn ein galluogi i gynnal y rhaglen dreigl o welliannau i'r fflyd bresennol er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau hygyrchedd a ddaw i rym ddechrau 2020. Caiff symbol tanfuddsoddi yng Nghymru, y fflyd Pacer, eu tynnu'n llwyr o'r rhwydwaith erbyn diwedd 2019.

O fis Rhagfyr 2019, gwelir cynnydd o 22 y cant yn y milltiroedd o wasanaeth a gynigir ar y Sul, gan gynnwys gwasanaethau'r Sul o Faes-teg, a gwasanaethau ychwanegol i leoedd ledled Cymru a mwy o gysylltiadau i ranbarthau'r ffin. Bydd hyn yn creu gwasanaeth saith niwrnod llawn gyda gwasanaethau newydd ar y Sul, a bydd y gwasanaethau ar y rhan fwyaf o'r llwybrau'n dechrau'n gynt.

Erbyn 2023, bydd 95 y cant o'r teithiau'n cael eu gwneud ar 148 o drenau newydd sbon, gyda thros eu hanner yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a bydd oedran cyfartalog y fflyd yn cwympo o 25 oed i 7 oed erbyn 2024. Bydd y trenau newydd yn gwella ansawdd ac awyrgylch y cyfleusterau i deithwyr. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod hynny'n cynnwys seddau cyfforddus.

Mae'r graff yn Atodiad B yn dangos sut y caiff stoc gerbydau a chapasiti eu cyflwyno.

Bydd socedi pŵer wrth dros 95 y cant o seddi ar bob cerbyd erbyn 2020 ac wrth 100% erbyn 2022.  Mae cyfleusterau arlwyo yn parhau'n nodwedd bwysig o'r gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a'r Gororau. Bydd lefel y gwasanaeth yn cadw o leiaf at ei lefel bresennol. Bydd systemau awyru'n cael eu gosod ar yr holl stoc gerbydau wrth i'r fflyd gael ei thrawsnewid.

Bydd y cysylltedd â dyfeisiau symudol yn gwella gydag o leiaf 2Mbps ar gael ar gyfer pob defnyddwyr ym mhob gorsaf, a chysylltedd di-dor rhwng y trenau a'r gorsafoedd. Er mwyn mynd i'r afael â datblygu'r rhwydwaith cellog 3G a 4G ledled Cymru, bydd Trafnidiaeth Cymru a'r ODP yn llenwi cymaint o'r 132 o fannau digyswllt ar y rhwydwaith rheilffyrdd â phosib. Drwy hyn, erbyn 2024, bydd cyswllt â'r rhyngrwyd ar 85 y cant o deithiau, o'u dechrau i'w diwedd.

Bydd gwasanaethau Metro'r De yn cynyddu i bedwar gwasanaeth yr awr i bob un o orsafoedd blaenau'r cymoedd i'r gogledd o orsaf Stryd y Frenhines Caerdydd; o 2022 i Aberdâr, Treherbert a Merthyr, ac o 2023 ar gyfer gwasanaethau Rhymni. Gan weithio ar draws y Llywodraeth, rydym am estyn cangen Coryton i ysbyty newydd Felindre, a wrth wneud, cynyddu'r gwasanaethau ar y lein i 4 yr awr.

Mae'n para'n flaenoriaeth i Fetro'r De gynyddu amlder y gwasanaeth ar leiniau Maes-teg ac Ebwy. Mae'r gwelliannau i'r seilwaith ar Lein Ebwy yn mynd rhagddynt, ac rydyn ni'n rhagweld dyblu'r gwasanaethau ar y lein honno o 2021.  Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i Trafnidiaeth Cymru weithio gyda'r ODP ar hyn. Ar lein Maes-teg, byddwn yn cyflwyno gwasanaethau ar y Sul ym mis Rhagfyr 2019.

Mae'r ateb hyblyg rydyn ni'n ei brynu yn caniatáu inni ymchwilio i welliannau i'r seilwaith ar unwaith er mwyn inni allu cyflwyno rhagor o wasanaethau ar leiniau Maes-teg ac Ebwy. Ein huchelgais yw cynyddu'r gwasanaethau ar yr Ebwy i bedwar trên yr awr erbyn 2024, ac rwyf wedi gorchymyn Trafnidiaeth Cymru i weithio gyda'r ODP i roi'r opsiynau inni ar gyfer eu darparu. Mae'r her i ddarparu lefelau gwasanaeth Metro ar lein Maes-teg yn wahanol gan ei bod wastad wedi bod yn rheilffordd un trac, ond rydyn ni wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gyflwyno opsiynau ar gyfer cynnig atebion arloesol sy'n cwrdd ag anghenion pobl leol.

Bydd Metro'r De yn defnyddio cyfuniad o Gerbydau Metro a threnau tri-modd.  Bydd eu drysau'n lefel â'r platfform a byddant rhyngddynt yn cynnig 45% yn fwy o seddi nag ar hyn o bryd ar y trenau sy’n teithio i Gaerdydd ar adeg brysur y bore.

Bydd trenau tri-modd yn dod â thair technoleg sydd wedi profi'u gwerth ynghyd - diesel, batrïau a thrydan 25KV (o ffynonellau ynni adnewyddadwy) - datblygiad o'r trenau deufodd sydd wedi hen ennill eu plwyf. Bydd y trenau tri-modd ynghyd â Cherbydau'r Metro yn golygu y gall teithiau'r Metro fod yn gwbl ddi-ddiesel neu ddi-garbon gan leihau'r llygredd niweidiol a ollyngir yn ardaloedd mwyaf poblog Cymru gan gefnogi'n nodau o fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang a Chymru iachach. Bydd defnyddio batrïau yn ein galluogi i gynnal rhaglen drydaneiddio 'glyfar', gan olygu dim ond ychydig o newidiadau i bontydd a strwythurau eraill.  O'i chymharu â thechnegau trydaneiddio confensiynol, bydd yn fodd i osgoi gorfod gwneud gwaith peirianyddol sifil ac ar y trac ar 55 o strwythurau; gyda dim ond 17 o safleoedd lle bydd angen gweithio ar y trac a dim ond un bont, wrth ganolfan chwaraeon Rhondda (ychydig i’r de o Ystrad, Rhondda) angen ei chodi.

Er bod y trenau tri-modd penodol hyn wedi'u datblygu'n unswydd i ateb gofynion unigryw Metro'r De, mae'r trên yn seiliedig ar blatfform cynhyrchu sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ac yn defnyddio dyluniad modiwlar a ddyfeisiwyd gan wneuthurwr cerbydau profiadol sydd â hen hanes o ddarparu cerbydau dibynadwy mewn mannau eraill yn Ewrop.

Mae trenau tri-modd tebyg yn cael eu cyflwyno yn Ne-ddwyrain Lloegr yn haf 2019. Byddwn yn sicrhau bod yr ODP a'r gwneuthurwr cerbydau'n dysgu o'r profiad hwnnw er mwyn hwyluso proses eu cyflwyno i Gymru.  

Bydd Cerbydau'r Metro yn defnyddio technoleg y cyfeirir ato'n aml wrth yr enw 'Trên-Tram'. Byddan nhw'n gweithio o dan reoliadau Rheilffyrdd Trwm ar reilffyrdd confensiynol, ond bydd modd eu cael i weithio ar Reilffyrdd Ysgafn (neu Dramffyrdd) os bydd angen estyn y lein. Er mwyn sicrhau bod pob ymgeisydd yn diogelu rhag y dyfodol o'r dechrau, mae'r contract yn gofyn am ddarn byr o reilffordd ysgafn ar y stryd ym Mae Caerdydd. Treial fydd hyn gyda golwg ar ei ddefnyddio i gynyddu’r hyblygrwydd er mwyn gallu estyn y rhwydwaith yn y dyfodol.

Fel rwyf eisoes wedi dweud, bydd toiledau'n cael eu cadw ar fwrdd trenau hen a newydd.  Ar y cerbydau Metro newydd a fydd yn cynnig gwasanaeth 'cyrraedd a theithio' heb ris rhwng y trên a'r platfform ar leiniau Cwm Taf a'r Ddinas (h.y. gwasanaethau i Ferthyr, Aberdâr a Threherbert), yr amser teithio hiraf i doiled sy'n hygyrch i bawb yw 14 munud, ac ar 95% o'r teithiau, 10 munud.

At hynny, bydd y gwasanaethau olaf bob dydd yn cynnwys toriad ym man canol y daith i deithwyr gael defnyddio'r cyfleusterau.  Cân nhw eu hysbysebu a byddan nhw'n rhan o ddarpariaeth ffurfiol y gwasanaeth.


Ar Fetro'r De, rydyn ni'n darparu'r hyn rydyn ni wedi'i addo:

  • Yr holl drenau sy'n rhedeg ar wasanaethau lein y Cymoedd ac sy'n pasio trwy Stryd y Frenhines Caerdydd yn cael eu gyrru gan drydan.
  • Dyblu'r gwasanaethau i gefnogi'r cynllun Swyddi Gwell yn Nes Adref gyda phedwar gwasanaeth yr awr o Dreherbert, Aberdâr Merthyr o 2022 ac o Rymni o 2023, gyda 2 wasanaeth yr awr ar yr holl leiniau hyn o 2024 ar y Sul. 
  • Dyblu'r gwasanaethau ar lein Glynebwy o 2021 ac ar lein Bro Morgannwg o 2023. 
  • 45 y cant yn fwy o seddi ar y trenau i Gaerdydd ar adeg brysur y bore, 
  • Fflyd o Gerbydau Metro modern a hygyrch fydd yn gallu mynd ar y stryd i wasanaethu leiniau Cwm Taf a'r Ddinas a threnau newydd tri-modd ar gyfer leiniau Rhymni, Coryton, Penarth, y Barri a Bro Morgannwg, er mwyn caniatáu gwasanaethau trwodd i'r leiniau di-drydan i'r de ac i'r gorllewin o orsaf Caerdydd Canolog. 
  • Caiff gorsafoedd newydd eu hadeiladu yn Nghaerdydd yn Sgwâr Loudon, Heol y Crwys, Gabalfa a'r Flourish.  

Byddwn yn prysuro'r gwaith i ddarparu Metro'r Gogledd-Ddwyrain. Byddwn yn cyflwyno gwasanaeth Caer-Lerpwl o fis Rhagfyr 2018 a chynnydd sylweddol yng ngwasanaethau'r Sul ar y rhan fwyaf o lwybrau o 2019.

Bydd Metro'r Gogledd-ddwyrain yn elwa ar y rhaglen fuddsoddi mewn gorsafoedd, ar ehangu'r tocynnau clyfar a gwella'r cynllun iawndal sy'n cynnig ad-daliadau am unrhyw oedi. Byddwn yn gweld ail wasanaeth cyflym prif orsafoedd bob awr ar lein Wrecsam-Bidston o 2021 ac o 2022, gwelwn wasanaethau'n aros yn Wrecsam fel rhan o'r gwasanaeth newydd bob 2 awr rhwng Lerpwl a Chaerdydd.

Mae pedair gorsaf yn ardal Metro'r Gogledd-Ddwyrain wedi'u dewis ar gyfer buddsoddi ymhellach ynddynt fel rhan o brif raglen y gorsafoedd; gan gynnwys Caer, Shotton, Wrecsam Cyffredinol a Blaenau Ffestiniog. Mae gwelliannau eraill yn yr arfaeth hefyd gan gynnwys gwasanaeth newydd rhwng Lerpwl a Llandudno, trenau cyflymach rhwng Caerdydd Canolog a Chaergybi a mwy o drenau'r awr ar bedair lein arall.

Er mwyn cysylltu'r wlad, byddwn yn adeiladu ar y gwasanaethau cyflym rhwng y De a'r Gogledd trwy welliannau pellach i amser teithiau a rhoi cerbyd arlwyo ar dri thrên y dydd yn ychwanegol o fis Rhagfyr 2019 gan ddefnyddio'r cerbydau Marc 4 mwy cyfforddus.  

Yn y Canolbarth a'r De-orllewin, bydd y rhaglen orsafoedd yn buddsoddi i wella cyfleusterau a dolenni i dwristiaid yng ngorsaf Machynlleth, gwelliannau i'r amgylchedd a'r cysylltedd yng ngorsaf Llanelli a llwybrau i orsaf Caerfyrddin. Byddwn yn cyfnewid cerbydau Cambria yn 2022 am fflyd newydd a fydd yn cadw swyddi lleol yn nepot Machynlleth.

Bydd gwasanaethau rheolaidd bob awr ar lein Cambria rhwng Amwythig ac Aberystwyth, byddwn yn ychwanegu trenau at lwybrau Caerdydd-Cheltenham a Chalon Cymru ac yn cynyddu'r gwasanaethau ar hyd arfordir Cymru. Erbyn mis Rhagfyr 2018, bydd yna saith trên y dydd rhwng Abertawe a Harbwr Abergwaun, gan alw ym mhob gorsaf ar y rhan fwyaf o deithiau. Yn 2022, bydd y gwasanaethau Abertawe i Amwythig (trwy Galon Cymru) yn cynyddu i bum trên y dydd.

Mae contract newydd y gwasanaethau rheilffyrdd yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau, gan gynnwys yn Lloegr. Bydd y gwelliannau yn Lloegr yn dechrau gyda chyflwyno gwasanaethau newydd rhwng Caer a Lerpwl o fis Rhagfyr 2018, a chaiff llawer o welliannau eraill eu cyflwyno yr un pryd â'u cyflwyno yng Nghymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth i sicrhau bod gofynion Llywodraeth y DU am wasanaethau yn Lloegr yn cael eu bodloni.

Bydd nifer Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol yn fwy na dyblu yn eu nifer, a bydd eu cyllidebau'n cynyddu bedair gwaith yn fwy.

Rwyf eisoes wedi disgrifio sut mae'n ffordd o weithio wedi ceisio osgoi'r math o darfu sydd wedi'i brofi yn y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Er hynny, rydyn ni wedi cynnwys mesurau diogelu priodol. Felly os gwelwn broblem o'r math hwn yn dechrau datblygu, mae gan Trafnidiaeth Cymru nifer o opsiynau i'w dewis. . Mae'r mesurau hynny'n cynnwys gwarant gan y prif gwmni, cymalau torri sy'n caniatáu inni ddod â'r contract i ben ym mlwyddyn 5 a blwyddyn 10 a'r gallu i ddewis gweithredwr 'dewis olaf'. Yn y tymor byr, byddwn yn defnyddio pŵer prynu'r DU o ran y gweithredwr 'dewis olaf', ond wrth i Trafnidiaeth Cymru ennill ei blwyf, ein hamcan yw gweld Trafnidiaeth Cymru yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn.

Ac fel gyda'n Contract Economaidd newydd, buddsoddi cyhoeddus at bwrpas cymdeithasol yw conglfaen ein ffordd newydd o ymdrin â'r rheilffyrdd. Trwy weithio gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur yn hytrach nac yn eu herbyn, rydyn ni'n diogelu amodau'r bobl sy'n gweithio ar ein rhwydwaith a byddwn yn cadw ail aelod o staff ar bob trên.

Bydd y gwasanaeth newydd yn gweithredu o dan frand Trafnidiaeth Cymru - gwasanaeth ar gyfer Cymru yw hwn, wedi'i wneud yng Nghymru.

Yn olaf, croesewais gyhoeddi adroddiad diweddar y Pwyllgor Materion Cymreig sy'n ailddatgan llawer o'r materion rydyn ni wedi ceisio'u trafod dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU. Mae'n gwneud argymhellion pwysig i Lywodraeth y DU ynghylch ariannu a gwelliannau i'r rheilffyrdd a datganoli rhagor o seilwaith y rheilffyrdd.

Yn sgil gwrthod y rhaglen ar gyfer trydaneiddio prif lein y Great Western, 1 awr 45 munud fydd hyd y daith rhwng Caerdydd a Llundain ar ei gorau, yr un faint â 30 mlynedd yn ôl, a bydd Abertawe'n dal i fod 2 awr a 45 munud o Lundain. Y tu allan i'r cytundeb i drosglwyddo Leiniau'r Cymoedd i ni, rydyn ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar gyfer cynnal gwelliannau i rwydwaith rheilffyrdd Cymru, ac rwyf eisoes wedi pennu fy nisgwyliadau a'm hanghenion cyffredinol ar gyfer y rhwydwaith.

Mae seilwaith rheilffyrdd effeithiol a dibynadwy  yn gwbl angenrheidiol i deithwyr sy'n teithio yng Nghymru a thros y ffin. Rwy'n dal i dynnu sylw Llywodraeth y DU at yr angen iddyn nhw weithio gyda ni i ddatblygu a darparu gwelliannau i'r rhwydwaith rheilffyrdd sydd eu hangen ar Gymru, i wneud yn siwr bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu rhoi ar waith.

Yn gynharach eleni, gelwais ar Lywodraeth y DU i ganiatáu i Gymru ysgwyddo'r cyfrifoldeb am ddyfarnu masnachfraint y gwasanaethau intercity rhwng Cymru a gweddill y DU. O gofio'r manteision aruthrol rydym wedi'u sicrhau a llwyddiant y broses rydym wedi'i chru, hoffwn ailadrodd yr alwad honno heddiw.

Rhannu’r dudalen hon