Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Rwy'n falch o fedru rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y gwaith sy'n mynd rhagddo gam wrth gam i weithredu Deddf Diwygio Lesddaliadaeth a Rhydd-ddaliadaeth 2024 ac i gyflwyno diwygiadau pwysig at y dyfodol.
Mae ystod eang o newidiadau yn y Ddeddf bydd llawer ohonynt yn ddibynnol ar ragor o ymgynghori ac ar benderfyniadau am y manylion gweithredol cyn y gellir cychwyn y newidiadau hynny. Rwyf wedi nodi mewn mannau eraill ei bod yn fwriad gennyf weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU wrth inni baratoi i weithredu'r Ddeddf, fel y bodd inni gymhwyso'r manteision yma yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd. Heddiw, rwy'n falch o fedru rhoi gwybod ichi am nifer o ddarpariaethau sydd wedi dod i rym, a hefyd am hynt y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ragor o ddiwygiadau pwysig. Mae'r rhain i gyd yn golygu ein bod yn gwneud cynnydd go iawn ar yr ymrwymiad ar lesddaliadaeth a wnaed ar lesddaliadaeth yn ein Rhaglen Lywodraethu.
Gweithredu Deddf Diwygio Lesddaliadaeth a Rhydd-ddaliadaeth 2024
Cafodd adran 27 o Ddeddf 2024, sy'n ymwneud â dileu'r cyfnod cymhwyso ar gyfer hawliadau rhyddfreinio a hawliadau ymestyn, ei chychwyn ar 31 Ionawr. Mae'r newid hwn yn golygu nad oes angen i berchnogion tai aros am ddwy flynedd ar ôl prynu eu heiddo lesddaliadol cyn arfer eu hawliau i brynu'r rhydd-ddaliad neu i ymestyn eu prydles.
Cafodd rhagor o'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ymwneud â'r Hawl i Reoli (RTM) eu cychwyn ar 3 Mawrth. Mae adran 49, sy'n ymwneud â newid y terfyn amhreswyl ar hawliadau hawl i reoli, yn ehangu'r meini prawf ar ba adeiladau a fydd yn gymwys i arfer yr hawl honno. Yn lle'r terfyn blaenorol o 25%, bydd adeiladau nad oes ynddynt fwy na 50% o ofod amhreswyl yn cael arfer yr hawl yn y dyfodol. Hefyd, mae adran 50 a'r darpariaethau yn adran 64 sy'n ymwneud â RTM yn dileu'r gofyniad i gwmnïau RTM dalu costau partïon eraill wrth arfer yr hawl, ac eithrio mewn amgylchiadau y penderfynir arnynt gan y tribiwnlys. Mae adrannau 51 a 52 yn adlewyrchu polisi ehangach yn y Ddeddf i symud yr awdurdodaeth dros achosion sy'n gysylltiedig â lesddaliadaeth o'r llys i'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru.
Mae ymestyn y terfyn amhreswyl sy'n gysylltiedig â RTM yn golygu bod gofyn diweddaru'r erthyglau enghreifftiol ar gyfer cwmnïau RTM, sydd i'w gweld mewn is-ddeddfwriaeth. Rwyf wedi gosod Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2025, a ddaeth i rym hefyd ar 3 Mawrth, er mwyn diwygio hawliau pleidleisio mewn cwmnïau RTM fel y bo lesddeiliaid yn gallu parhau i arfer pleidlais fwyafrifol pan wneir penderfyniadau ar RTM ar ôl i adran 49 gael ei chychwyn.
Fel yr wyf wedi nodi uchod, bydd angen rhagor o ymgynghori er mwyn llywio'r is-ddeddfwriaeth y bydd angen ei pharatoi cyn cychwyn rhannau eraill o'r Ddeddf. Byddaf yn parhau i fynd ati i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.
Diwygiadau yn y dyfodol
Gan adeiladu ar y gwelliannau diweddaraf hyn i hawliau lesddeiliaid, ac fel yr wyf wedi nodi o'r blaen, rwy'n parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ragor o ddiwygiadau. Bydd Bil Drafft ar Ddiwygio'r Gyfraith ar Lesddaliadaeth a Chyfunddaliadaeth yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Un elfen o'r gwaith hwnnw, sy'n cael ei wneud ar y cyd, yw bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gwyn sy'n nodi sut y gall system Cyfunddaliadaeth ddiwygiedig weithio. Mae'r Papur Gwyn yn amlinellu'r weledigaeth ar sut y gall Cyfunddaliadaeth, fel y bwriadwyd yn y lle cyntaf, gynnig dewis arall hyfyw yn y dyfodol yn lle lesddaliadaeth yng Nghymru a Lloegr. Hoffwn annog partïon sydd â diddordeb i ddarllen y Papur Gwyn, sydd i'w weld yma: Commonhold White Paper: The proposed new commonhold model for homeownership in England and Wales. (Saesneg yn Unig).