Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ym mis Mai 2018, yn amlinellu fy mwriad i gyflwyno rhwydwaith o wasanaethau awyr Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus strategol bwysig newydd o Gymru i rannau eraill y DU, hoffwn roi'r newyddion diweddaraf ar y sefyllfa.

Wrth baratoi i ymadael â'r UE ym mis  Mawrth 2019, mae Cymru wedi cymryd cyfres o fesurau proactif i liniaru effaith Brexit ar yr economi yng Nghymru. Mae 80% o fasnach busnesau o Gymru gyda gweddill y DU.Yn ogystal â gweithredu i gryfhau Undeb y DU yn ystod cyfnodau anodd, bydd gwell mynediad i wasanaethau awyr domestig rhwng Caerdydd a bob rhan o'r DU yn gwella datblygiad a chyfleoedd economaidd, gan gryfhau'r economi leol yng Nghymru a chyfrannu at Brydain Fawr mwy llewyrchus.  

Fel a bennwyd yn y Cynllun Gweithredu Economaidd, mae gwella cysylltedd o fewn Cymru, gyda gweddill y DU ac yn rhyngwladol yn allweddol i ddatblygiad economi Cymru.

Rydym eisoes yn datblygu cynigion ar gyfer prif briffyrdd Cymru yn ne-ddwyrain a gogledd-ddwyrain y wlad.

Yn anffodus nid yw Cymru wedi elwa llawer o fuddsoddiad y DU yn ei rheilffyrdd yn ddiweddar, ac er bod gennym oddeutu 11% o filltiroedd o reilffyrdd a 5% o'r boblogaeth, rydym wedi derbyn llai na 2% o'r buddsoddiad mewn gwelliannau i'r rheilffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedwyd yn ddiweddar bod gan Gaerdydd y cysylltedd rheilffyrdd gwaethaf o unrhyw un o ddinasoedd craidd y DU - eto o ganlyniad i benderfyniadau a wnaethpwyd gan yr Adran Drafnidiaeth. Daw y sefyllfa hon yn llawer gwaeth gyda dyfodiad HS2. Mae rhagolygon yr adran drafnidiaeth yn dangos y bydd HS2 yn achosi gwerth £200 miliwn y flwyddyn o ddifrod economaidd i economi de Cymru.

Gallai gwella y cysylltedd yn yr awyr ddechrau sicrhau mwy o gydbwysedd a achoswyd gan yr heriau sy'n wynebu'r sector rheilffyrdd.  Er hyd yn oed gyda hynny, mae Cymru wedi cael triniaeth annheg. Mae'r ffaith i Lywodraeth y DU wrthod yn ddiweddar i ganiatáu rhanddirymu rheoliadau diogelwch NASP ym Maes Awyr Ynys Môn, er gwaethaf caniatáu hynny yn flaenorol ym meysydd awyr eraill y DU, yn ogystal â gwrthwynebiad parhaus Llywodraeth y DU i ddatganoli Dyletswydd Teithwyr Awyr er mwyn adlewyrchu y setliadau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi ein dal yn ôl rhag gwella cysylltedd yn yr awyr i ddatblygu ein heconomi.

I geisio goresgyn y rhwystrau y mae Llywodraeth y DU wedi'u codi i atal twf yr economi yng Nghymru ar y rheilffyrdd ac yn yr awyr, cyflwynodd fy swyddogion a minnau ym mis Mawrth eleni i'r CE a'r Adran Drafnidiaeth, gyfres o achosion busnes yn dangos yn glir yr achos economaidd dros gefnogi nifer o lwybrau Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus newydd.Mae arbenigwyr hedfan annibynnol yn rhagweld y bydd y llwybrau hyn yn creu Gwerth Ychwanegol Gros o oddeutu £10.14m sydd o werth sylweddol i Gymru.

Fodd bynnag, er gwaethaf darparu tystiolaeth glir i gefnogi cyflwyniad y llwybrau newydd hyn, mae Llywodraeth Prydain yn parhau i atal datblygiadau y cynigion hyn, gan ddatgan bod cynnydd yn cael ei ddal yn ôl oherwydd strategaeth awyrennau newydd yr Adran Drafnidiaeth. Yn y cyfamser mae'r strategaeth presennol, gan yr UE, yn parhau i weithio. Nid yw Llywodraeth  Cymru yn gweld rhesymeg amlwg dros ddal economi Cymru yn ôl ar sail mor ansicr.

Y cyfan sydd ei angen ar Lywodraeth y DU yw i anfon ein cais ymlaen i'r CE i'w ystyried yn erbyn y meini prawf cyfredol y cytunwyd arnynt.

Mae Gweinidogion yr UE wedi dweud eu bod yn awyddus i gefnogi'r fenter hon, er bod oedi wrth i'r Papur Gwyrdd gael ei ddatblygu ar gyfer Strategaeth Hedfan newydd i'r DU. Gwnaethpwyd yn glir hefyd na fyddai unrhyw ddatblygiadau ar gynnig y Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus tan sefydlu Polisi Hedfan newydd i'r DU y flwyddyn nesaf, ond wedi iddo gael ei basio mewn deddf, bydd angen gwneud llawer o waith o hyd er mwyn gweithredu hyn.Mae'n amlwg y bydd proses y Papur Gwyrdd, y Papur Gwyn, Deddfwriaeth (mewn cyfnod pan fydd Brexit yn pwyso ar allu deddfwriaethol), datblygu meini prawf newydd a gwerthusiad yr Adran Drafnidiaeth o'n cynigion yn debygol o gymryd amser. Nid oes gennym reswm i gredu y bydd y broses hon wedi'i chwblhau o fewn y dair blynedd nesaf.

Felly bydd hyn yn 4 blynedd ers inni gyflwyno ein achos busnes am y tro cyntaf.Mae'r math yma o aneffeithlonrwydd yn mynd i fod yn amlwg a bydd yn dal economi Cymru yn ôl yn ddi-angen mewn cyfnod o anscirwydd economaidd sylweddol.

Yn dilyn hyn, ac er lles pawb yn y DU, rwyf wedi ysgrifennu eto at y Farwnes Sugg, y Gweinidog Hedfanaeth i'w hannog i ailystyried ei safbwynt ac i gyflwyno y cynigion Rhwymedigaethau Gwasanaethau Cyhoeddus ar fyrder i'r UE i gael eu penderfynu cyn i'r DU ymadael.