Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn sgil ymddiswyddiad Leighton Andrews, rydw i heddiw wedi gwneud newidiadau i'r tîm Gweinidogol.  

Huw Lewis, sydd ar hyn o bryd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, fydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau newydd.  Bydd Jeff Cuthbert, sydd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, yn cymryd lle Huw Lewis yn y Cabinet fel Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

Rydw i hefyd wedi penodi dau Ddirprwy Weinidog.   Bellach, Ken Skates fydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, a bydd Vaughan Gething yn camu i swydd newydd fel Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi â chyfrifoldeb am gyflenwi'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.

Byddaf i'n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am Bolisi’r Gymraeg.

Nid oes yr un o'r swyddi Gweinidogol eraill yn newid.

Caiff dogfen Cyfrifoldebau Gweinidogol ddiwygiedig ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo modd.