Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn diweddaru’r aelodau ar gynnydd y negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a’r UE ar berthynas y DU a’r UE yn y dyfodol, yn dilyn cyfarfod gyda’r Cyngor Ewropeaidd yr wythnos diwethaf.
Ar ôl saith mis o negodiadau, naw rownd ffurfiol a llawer o ymgysylltu anffurfiol rhwng timau negodi Llywodraeth y DU a’r UE, roeddwn wedi gobeithio y byddwn erbyn hyn mewn sefyllfa i ddisgrifio’r cynnydd sylweddol a wnaed, a bod cytundeb cynhwysfawr wedi’i negodi, ei lofnodi a’i gytuno. Fodd bynnag, nid wyf mewn sefyllfa o hyd i roi unrhyw sicrwydd i chi beth fydd canlyniadau’r negodiadau, er bod y terfynau amser a bennwyd gan Lywodraeth y DU bellach wedi pasio a’n bod yn nesáu’n gyflym at ddiwedd y cyfnod pontio.
Gellid bod wedi osgoi’r amgylchiadau hyn, a grëwyd gan Lywodraeth y DU ei hun, yn gyfan gwbl. Gwrthodwyd y galwadau gennym ni a nifer o bobl eraill i ymestyn y cyfnod pontio er mwyn rhoi amser iddynt gwblhau set mor gymhleth o negodiadau, gan gydnabod bod yr amgylchiadau wedi newid yn sgil pandemig COVID. Yn hytrach, mynnodd Llywodraeth y DU ei bod yn hollol abl i ymateb i bandemig COVID a sicrhau canlyniad da i’w negodiadau masnach cyntaf ers dros 40 mlynedd.
Gan na chafwyd cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) cyn cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, ysgrifennais at Lywodraeth y DU yn galw arni i roi blaenoriaeth i gael cytundeb, ac yn amlinellu’n glir beth y ddylai Llywodraeth y DU ei wneud er budd pennaf busnesau a chymunedau yng Nghymru, ac ar draws y DU. Roedd y llythyr yn adeiladu ar y gyfres o lythyron a ysgrifennais ddiwedd y Gwanwyn a thros yr haf a ddarparwyd gyda fy Natganiad Ysgrifenedig ar 8 Medi.
Rhaid mai’r flaenoriaeth yw cael cytundeb. Mae’r meysydd o wahaniaeth megis pysgodfeydd a chymorth gwladwriaethol yn bwysig, ond nid digon i beryglu cytundeb masnach cynhwysfawr y mae gweddill yr economi gymaint ei angen. Mae Prif Weinidog y DU yn honni y bydd y DU yn ffynnu’n gadarn mewn senario heb gytundeb. Bydd ymadael heb gytundeb yn achosi tarfu sylweddol yn y tymor byr ac yn arwain at gostau sylweddol i’r economi yn yr hirdymor. Bydd y costau uwch i fusnesau, y rhwystrau ychwanegol i fasnachu yn rhoi’r DU dan anfantais sylweddol yn gystadleuol, gan fwrw busnesau ar adeg pan fônt yn dal i ddod i delerau ag effeithiau COVID-19 ar yr economi, ac yn bygwth swyddi a chyflogau nifer o ddinasyddion ar draws Cymru gyfan.
Mae’n hollbwysig bod unrhyw gytundeb yn diogelu buddiannau economaidd Cymru. Yn fy llythyr at Lywodraeth y DU, galwais arni i sicrhau bod y cytundeb yn sicrhau cyn lleied o rwystrau â phosibl i fasnachu. Ni fydd gwerth i’r cytundeb ‘dim tariffau, dim cwotâu’ rydym wedi clywed cymaint amdano os ceir rhwystrau sylweddol nad ydynt yn dariffau – megis darpariaethau prin yn ymwneud â Rheolau Tarddiad, neu rwystrau technegol rheoleiddiol cyffredinol i fasnachu neu rhwystrau penodol i sectorau – sy’n golygu bod masnachu’n anos ac yn fwy costus i fusnesau yng Nghymru.
Gan nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon blaenoriaethu anghenion yr economi, os ceir cytundeb, mae’n annhebygol y bydd mor gynhwysfawr ac uchelgeisiol â fwriadwyd gan y ddwy ochr ar ddechrau’r broses negodi, ac yn bendant bydd yn bell o’r math o gytundeb y mae Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson amdani.
At hynny, mae Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU – sy’n cynnwys darpariaethau a fyddai’n torri cyfraith rhyngwladol yn ogystal â bygwth y setliad datganoli – yn golygu y bydd yn anos gwneud cytundeb gyda’r UE. Yn anffodus, nid oes unrhyw arwydd bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y ffordd y mae ei gweithrediadau yn tanseilio enw rhyngwladol y DU o fewn yr UE ac yn ehangach.
Mae’n amlwg bod Llywodraeth y DU yn dal i gredu – mwy na thair blynedd ar ôl yr addewid y byddai negodi cytundeb da gyda’r UE yn hawdd, a bron i flwyddyn ar ôl i Brif Weinidog presennol y DU frolio bod ganddo gytundeb parod (‘oven ready’) – mai bygwth a dwndro yw’r ffyrdd gorau o orfodi’r UE i gydymffurfio. Wrth i’r DU barhau i deimlo ergyd argyfwng COVID, yr hyn sydd ei angen ar y wlad nawr yw arweinyddiaeth aeddfed, nid rhodres.