Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Yn fy natganiad ar 27 Ionawr, esboniais fod Llywodraeth y Cynulliad wedi achub ar y cyfle a gyflwynir gan y Mesur Addysg i wneud cais am bwerau fframwaith mewn perthynas â rheoleiddio a hyfforddi athrawon a’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru, yn ogystal ag ariannu Addysg neu Hyfforddiant cyn-16. Yn awr, hoffwn ychwanegu at y datganiad hwnnw er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am y darpariaethau eraill sy’n berthnasol i Gymru yn y Mesur Addysg hwn.

Mae rhai agweddau ar y pwerau fframwaith ar reoleiddio a hyfforddi athrawon a’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru yn ymateb, yn rhannol, i’r cynnig yn y mesur hwn i ddiddymu’r Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.  Bydd hynny’n caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu mewn perthynas â hyrwyddo gyrfaoedd mewn ysgolion a’r gweithlu addysg ehangach.  Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd bwlch yn y pwerau sydd ar gael yn y maes hwn rhwng cyfnod diddymu’r Asiantaeth a rhoi ar waith unrhyw Fesur Cynulliad o dan y pwerau fframwaith. 

Er mwyn achub y blaen ar sefyllfa o’r fath, mae’r Mesur yn darparu ar gyfer rhoi pŵer penodol i Weinidogion Cymru hyrwyddo gyrfaoedd yng ngweithlu ysgolion Cymru. Byddai’n caniatáu i Weinidogion Cymru arfer y pŵer hwnnw ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw un arall a chanddo swyddogaethau yng nghyswllt gyrfaoedd gweithlu ysgolion, neu i’r pŵer gael ei arfer ar ran Gweinidogion Cymru gan unrhyw berson arall. Petai’n cael ei rhoi ar waith, byddai’r ddarpariaeth hon yn sicrhau bod pwerau perthnasol yn parhau i fod ar gael i Weinidogion Cymru heb unrhyw fwlch. 

Mae’r Mesur Addysg hwn hefyd yn cynnwys y meysydd canlynol sy’n berthnasol i Gymru: Addysg Uwch, Adran 409 o Ddeddf Addysg 1996, Taliadau a Ganiateir, y Panel Apelio Annibynnol, Ysgolion a Cholegau Preswyl, yr Asiantaeth Dysgu Pobl Ifanc (YPLA), a pheidio â datgelu enwau athrawon.

Darpariaethau Addysg Uwch  

Mae’r Mesur yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â ffioedd myfyrwyr ar gyfer cyrsiau rhan amser ac ad-dalu benthyciadau myfyrwyr.

Bydd y Mesur yn diwygio’r dehongliad o Ran 3 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, sy’n ymwneud â ffioedd myfyrwyr a mynediad teg at addysg uwch, er mwyn sicrhau ei fod yn gymwys i’r un graddau yn achos cyrsiau amser llawn a rhan amser. Mae’r Mesur yn diwygio Deddf Addysg Uwch 2004 er mwyn cynnwys cyrsiau rhan amser yn y diffiniad o gyrsiau, a hynny at ddibenion y terfyn ar ffioedd dysgu.  Bydd y Mesur yn caniatáu i Weinidogion Cymru gapio ffioedd dysgu myfyrwyr rhan amser sy’n dechrau ar eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny.

Mae’r Mesur yn diwygio adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau er mwyn cefnogi myfyrwyr.  Ar hyn o bryd, ni chaiff y cyfraddau llog a osodir ar gyfer benthyciadau myfyrwyr fod yn uwch na’r cyfraddau sydd eu hangen i gynnal gwerth y benthyciad mewn termau real, neu’r swm a nodwyd ar gyfer benthyciadau ar gyfraddau llog isel, p’un bynnag sydd isaf.  Yn achos myfyrwyr sy’n dechrau ar eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny, bydd gan Weinidogion Cymru bŵer ehangach i osod cyfraddau llog nad ydynt yn uwch na’r rhai sydd ar gael yn fasnachol. 

Taliadau a Ganiateir 

Bydd y Mesur yn cynnig eglurhad o’r diwygiad i ‘Determination of Permitted Charges’. O dan adran 455 o Ddeddf Addysg 1996, caniateir i ysgolion godi tâl am weithgareddau penodol nad ydynt yn gysylltiedig ag addysg neu opsiynau ychwanegol.

Mae adran 455 yn caniatáu i ysgolion godi tâl am wasanaethau fel trefnu llety i ddisgybl yn ystod taith preswyl.  Byddai’r diwygiadau arfaethedig yn egluro pa gostau sydd i’w priodoli i ddarparu a chynnal y fath opsiynau ychwanegol, e.e. cynnal a chadw, gwresogi a goleuo.

Gwahardd o’r Ysgol

Yn Lloegr, bydd y Mesur yn darparu y dylid rhoi’r cyfle i ddisgyblion sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol ofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu gan banel adolygu. Fodd bynnag, o hyn ymlaen ni fydd modd i rieni na disgyblion yn Lloegr wneud cais i Banel Apelio Annibynnol a gyfansoddir o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002. Bydd y ddarpariaeth hon yn gymwys i Loegr yn unig, felly bydd y Mesur yn diwygio adran 52 o Ddeddf Addysg 2002 er mwyn iddo fod yn berthnasol i Gymru yn unig.

O ganlyniad i hynny, bydd atodlen 1 i’r Mesur hwn yn diwygio ymhellach atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (disgyblion anabl: gorfodi). Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau bod eglurhad yn cael ei ddarparu ynghylch yr hawl i apelio, a hynny er mwyn cyd-fynd â’r meini prawf a nodir yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Effaith hyn yw caniatáu i ‘unigolyn neu riant unigolyn’ apelio, yn hytrach na ‘rhiant unigolyn’ yn unig fel sydd ohoni ar hyn o bryd – sefyllfa nad yw’n adlewyrchu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

Adfer adran 409 o’r Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu  

Bydd cymal 44 yn adfer adran 409 a pharagraffau 6(3) a (4) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 yng Nghymru. Yn ystod hynt Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 drwy’r senedd, cafodd darpariaethau eu cynnwys a oedd yn diddymu adran 409 a pharagraffau 6(3) a (4) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996. Yn anfwriadol, rhoddwyd y diddymiad hwn ar waith yn achos Cymru hefyd yn hytrach na Lloegr yn unig.

Mae a wnelo adran 409 o Ddeddf Addysg 1996 â phwerau sy’n darparu y dylai awdurdodau lleol drefnu eu bod yn ystyried cwynion mewn perthynas â materion penodol e.e. y Cwricwlwm Cenedlaethol, addoli ar y cyd, addysg grefyddol a’r cwricwlwm yn gyffredinol. Hyd yn hyn, nid yw’r penderfyniad i ddiddymu’r darpariaethau hyn wedi dod i rym, felly nid oes unrhyw newid ymarferol wedi digwydd hyd yn hyn, a bydd y diwygiad hwn yn cynnal y sefyllfa fel ag y mae.

Arolygu Ysgolion Preswyl 

Bydd y Mesur yn darparu ar gyfer newidiadau deddfwriaethol i eiriad presennol adrannau 87-87D o Ddeddf Plant 1989 trwy gyfrwng y Mesur Addysg. Y prif fwriad yw darparu eglurder mewn perthynas ag adrannau 87-87D, lle gall ysgol neu goleg ddarparu llety i blentyn trwy ei ddarparu ar safle’r ysgol neu’r coleg ei hun neu trwy drefnu i’w ddarparu mewn man arall.  Er mwyn ymdrin â bwlch posibl yn y gyfraith lle gall ysgolion drefnu llety amgen i ddisgyblion sydd, o bosibl, y tu allan i gwmpas y ddeddfwriaeth bresennol ac felly heb fod yn destun arolygiad, bydd nifer o ddiwygiadau’n cael eu rhoi ar waith er mwyn egluro’r sefyllfa.

Er eu bod yn dechnegol eu natur, mae’r cynigion hyn yn darparu eglurhad cadarnhaol yn y maes.

Asiantaeth Dysgu Pobl Ifanc (YPLA)

Bydd cymal 62 yn diddymu Adrannau 60 i 80 ac Atodlen 3 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, gan roi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu’r Asiantaeth Dysgu Pobl Ifanc. Lansiwyd yr Asiantaeth ym mis Ebrill 2010.  Ei chenhadaeth oedd hyrwyddo addysg a hyfforddiant i bobl ifanc yn Lloegr.  Mae’n gwneud hynny trwy ddarparu cefnogaeth ariannol i ddysgwyr ifanc, drwy ariannu holl ddarpariaeth academïau, a thrwy gefnogi awdurdodau lleol i gomisiynu cyfleoedd addysg a hyfforddiant addas i bawb rhwng 16 a 19 oed. Nid yw’r Asiantaeth yn darparu unrhyw wasanaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn bwrw ymlaen â’r darpariaethau hyn.

Peidio â Datgelu Enwau Athrawon

Mae’r Adran Addysg yn cynnig cynnwys darpariaethau yn y Mesur a fydd yn darparu na cheir enwi athrawon sydd wedi’u cyhuddo gan ddisgyblion neu gan rieni disgyblion o ymddygiad troseddol yn erbyn y disgyblion hynny. Bydd y darpariaethau yn atal yr honiadau hyn rhag cael eu hadrodd, a bydd y cyfyngiadau ond yn dod i ben pan fydd achos troseddol yn dechrau mewn llys.

Gan mai ymwneud â chyfiawnder troseddol y mae’r darpariaethau hyn, bydd athrawon yng Nghymru yn cael eu diogelu yn yr un ffordd â’r rheini yn Lloegr rhag cael eu henwi mewn adroddiadau.

Gellir gweld y Mesur a’r nodiadau esboniadol perthnasol ar wefan Senedd y DU.