Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt , Y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Unwaith eto, rwy’n llunio Datganiad Ysgrifenedig mewn perthynas â gohebiaeth â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys gan nad yw am ganiatáu i’r ohebiaeth wirioneddol gael ei rhannu â’r Cynulliad.

Fel y dywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 10 Ionawr, mae Llywodraeth y Cynulliad yn hynod anhapus ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU i ddileu ein stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn sydd wedi’u cronni, ac sy’n dod i gyfanswm o ryw £385m. Hwn yw’r arian y pleidleisiodd Senedd San Steffan o blaid ei roi i Gymru. Dylid ei ddefnyddio i gefnogi buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i gefnogi’r adferiad economaidd, yn hytrach na’i gadw gan y Trysorlys.

Ysgrifennais at y Prif Ysgrifennydd ar 11 Ionawr, gan ofyn ar i’n holl stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn sydd wedi’u cronni gael eu rhyddhau. Atebodd y Prif Ysgrifennydd fy llythyr ar 9 Chwefror, ond mae wedi gwrthod caniatáu i’r stociau sydd wedi’u cronni gael eu rhyddhau. Yr ensyniad yw y bydd y stociau hyn, bellach, yn cael eu dileu.

Mae ein stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn bwysicach nag erioed o ystyried y gostyngiad yng Nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, gostyngiad na welwyd ei debyg o’r blaen. Byddwn yn parhau i wrthwynebu cynlluniau Llywodraeth y DU i dynnu ein stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn oddi wrthym a sefyll dros fuddiannau pobl Cymru.

Byddaf i a’m swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon nawr yn ysgrifennu llythyr ar y cyd at y Canghellor yn gofyn eto am i’r stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn sydd wedi’u cronni gael eu rhyddhau. Y gobaith yw y bydd gweithredu gyda’n gilydd yn fwy llwyddiannus ac y bydd yr arian y pleidleisiwyd dros ei roi i bobl yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn cael ei ddychwelyd.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ynghylch y datblygiadau ar y mater pwysig hwn.