Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Ym mis Gorffennaf 2013, lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd y Gynghrair Prentisiaethau Ewropeaidd yn Leipzig yn yr Almaen. Nod y Gynghrair yw gwella ansawdd prentisiaethau a sut maent yn cael eu darparu ledled yr UE, gan newid agweddau at brentisiaethau fel ffordd o ddysgu. Mae’r Gynghrair yn tynnu ynghyd randdeiliaid allweddol o’r sector cyflogaeth a’r sector addysg er mwyn cydgysylltu ac ehangu cwmpas gwahanol fentrau er mwyn rhedeg cynlluniau prentisiaethau llwyddiannus.
Rwy’n croesawu lansio’r Gynghrair hon ac yn cydnabod y rôl bwysig y mae prentisiaethau o safon yn ei chwarae yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi, bodloni’r galw am sgiliau, a hybu’r economi. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod llai o bobl ifanc ddi-waith mewn gwledydd sydd â system brentisiaethau gref nag mewn gwledydd lle nad oes system o’r fath. Erbyn mis Ebrill 2014, roedd 19 o Aelodau-wladwriaethau wedi gwneud ymrwymiad pendant i gymryd camau i wella’r ddarpariaeth brentisiaethau. Rwy’n awyddus inni weithio gyda’r gwledydd eraill hyn sydd wedi ymrwymo er mwyn gwella’r manteision a ddaw o’r arian a fuddsoddir gan yr UE, a chan y sector cyhoeddus a phreifat, mewn prentisiaethau o safon, a rhannu arferion da. I’r perwyl hwnnw, Cymru yw’r genedl gyntaf yn y DU i wneud cais i ymuno â’r Gynghrair ac ymrwymo i gyflawni ei hamcanion.
Rwy’n benderfynol o sicrhau bod yr hyfforddiant a gynigir drwy brentisiaethau yn rhagorol ac yn ddeniadol. Byddwn yn datblygu ein rhaglen lwyddiannus, sydd wedi cael cymorth ariannol sylweddol gan yr UE, i’w gwneud yn haws i bobl ifanc ymuno â’r farchnad lafur a symud rhwng addysg a hyfforddiant, a hefyd symud ymlaen yn esmwyth i hyfforddiant sgiliau lefel uchel. Mae’r Gynghrair yn creu’r cyfle inni gydweithio â chenhedloedd sy’n rhannu ein brwdfrydedd a’r nod o gryfhau’r system brentisiaethau ar lefel Ewropeaidd.