Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n dda gennyf gael y cyfle i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf gydag Aelodau'r Cynulliad ynghylch cynllun peilot model ymateb clinigol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi i adroddiad y gwerthusiad annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ddod i law.

Bydd yr aelodau'n ymwybodol o'r penderfyniad a wneuthum yn ystod haf 2015 i dreialu model gweithredol newydd a fyddai'n golygu newid mawr i'r ffordd y darperir gwasanaethau ambiwlans i gleifion yng Nghymru. Roedd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar gyngor clinigol sylweddol gan rai o arweinwyr GIG Cymru a chyrff proffesiynol cysylltiedig. Y bwriad oedd:

  • cyflenwi gwasanaeth a oedd yn canolbwyntio fwy ar yr ochr glinigol ac yn blaenoriaethu'r bobl a fyddai'n elwa fwyaf o gael ymateb ar unwaith er mwyn cael y canlyniad gorau posibl;
  • rhoi rhagor o amser i staff sy'n ateb galwadau yn y ganolfan gyswllt glinigol benderfynu pa fath o ymateb sydd ei angen ar sail angen clinigol y claf. Byddai hyn yn gwella'r profiad a'r canlyniad i'r claf drwy sicrhau ei fod yn cyrraedd y clinigwyr cywir yn gynharach ac, yn bwysig iawn, yn lleihau nifer yr achosion lle mae sawl cerbyd yn ymateb i glaf yn ddiangen; a
  • chyflwyno system fesur newydd a fyddai'n seiliedig ar dystiolaeth glinigol. Byddai hynny'n rhoi mwy o gyd-destun i'r gofal a ddarperir gan glinigwyr ambiwlans ac yn helpu i roi terfyn ar ymddygiad disynnwyr sy'n codi wrth geisio cyrraedd targed pan fo hynny'n rhoi'r claf dan anfantais.


Dechreuodd cynllun peilot y model ymateb clinigol ym mis Hydref 2015, ac wedi deuddeng mis cyhoeddais y byddai'n cael ei ymestyn am chwe mis arall hyd at fis Mawrth 2017 er mwyn caniatáu rhagor o amser i gwblhau adolygiad annibynnol cynhwysfawr o'i effaith. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod ein cynllun peilot wedi ennyn diddordeb ledled y byd. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cael ei gwahodd i ddarparu cyngor i nifer o wasanaethau ambiwlans yn Lloegr a'r Alban, yn ogystal â Chanada, Seland Newydd, Awstralia, Unol Daleithiau America a Chile. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans yr Alban wrthi'n cynnal cynllun peilot cenedlaethol tebyg iawn i'n cynllun ni.

Anfonodd yr Athro Siobhan McClelland gopi o'r adroddiad gwerthuso terfynol ataf ddechrau mis Chwefror. Mae cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wedi trefnu bod yr adroddiad ar gael i'r cyhoedd drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://www.wales.nhs.uk/easc/publications

Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod tîm yr adolygiad annibynnol wedi canfod bod cytundeb cyffredinol ac amlwg o fewn y gwasanaeth ambiwlans ac ymysg partneriaid allanol mai symud i'r model clinigol newydd oedd y peth priodol a chywir i'w wneud.  Yn ôl yr adroddiad, nid yw'r newid i gynyddu'r amser a ganiateir i gategoreiddio galwadau lle nad yw bywyd yn y fantol wedi cyflwyno unrhyw risg newydd i ddiogelwch cleifion, y tu hwnt i'r risgiau sy'n gysylltiedig yn naturiol â darparu gwasanaethau ambiwlans brys. Roedd hefyd yn glir fod tîm yr adolygiad annibynnol o'r farn ei bod yn debygol y byddai'r risg i gleifion wedi bod yn sylweddol heb y newid i'r model newydd, yn enwedig dros y gaeaf, oherwydd y galw cynyddol ar ein gwasanaethau ambiwlans.

O safbwynt ansawdd a diogelwch, daeth yr adroddiad i'r casgliad na fu unrhyw bryderon difrifol o ran diogelwch o ganlyniad i gyflwyno'r model newydd, ac roedd y dangosyddion allweddol ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau niweidiol difrifol a chyfradd y galwadau ailgysylltu â 999 wedi parhau'n sefydlog neu wedi gostwng.

Mae'r adroddiad hefyd yn cadarnhau bod perfformiad o ran amser ymateb ar gyfer pobl sydd fwyaf angen ymyriad clinigol brys wedi gwella'n sylweddol. Mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer ambiwlansiau a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn cadarnhau hyn. Fel arfer, roedd y rhai yr oedd eu bywyd yn y fantol neu'r rhai a oedd mewn perygl o golli coes neu fraich yn cael ymateb o fewn llai na phum munud,

Yn bwysig, rydym yn gwybod bod llai o adnoddau'n cael eu defnyddio ym mhob digwyddiad, beth bynnag fo'r categori, sy'n golygu bod cleifion yn fwy tebygol o gael yr ymateb cywir a fydd yn darparu'r ymateb clinigol cywir y tro cyntaf. Gall hyn olygu ymateb gan barafeddyg mewn cerbyd ymateb cyflym neu ambiwlans brys ar gyfer rhai galwadau neu, yn gynyddol ar gyfer pobl sydd ag angen gofal iechyd lefel is, mae'n golygu rhoi cyngor clinigol dros y ffôn.

Rydym hefyd yn gwybod bod mwy o adnoddau'n cael eu buddsoddi i ddarparu gofal yn nes at gartrefi pobl ac i sicrhau bod llai o achosion lle anfonir ambiwlans at gleifion pan nad oes angen gofal na thriniaeth pellach gan y gwasanaeth ambiwlans arnynt. Unwaith eto, mae hyn yn golygu bod adnoddau ambiwlans hanfodol yn cael eu cadw ar gyfer y cleifion sydd angen ymateb brys fwyaf.

Un enghraifft o'r llwyddiant hwn yw'r buddsoddiad mewn parafeddygon, nyrsys a meddygon teulu i ddarparu asesiad clinigol eilaidd dros y ffôn i sicrhau bod cleifion yn cael yr ymateb cywir ar sail eu hanghenion. Mae'r buddsoddiad yn y maes hwn wedi arwain at gynnydd o 70% yn y cyfraddau cyngor dros y ffôn.  Caiff y cleifion hyn eu rhyddhau'n ddiogel dros y ffôn ac nid oes angen ymyriad pellach gan y gwasanaeth ambiwlans. Rwy'n disgwyl i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gydweithio â'r Byrddau Iechyd Lleol drwy'r broses comisiynu ar y cyd i fuddsoddi mewn mentrau fel yr un hwn, lle'r ydym wedi osgoi derbyn pobl i'r ysbyty, a hynny mewn modd diogel a darbodus.

Mae'n galonogol iawn y cytunir bod y model newydd yn briodol i Gymru a'i fod wedi arwain at fwy o bwyslais ar ochr glinigol y gwasanaeth.  Mae'r galw'n cael ei reoli'n well hefyd, ac mae adnoddau'n cael eu defnyddio'n well er budd cleifion. Mae tystiolaeth y gwerthusiad annibynnol yn ategu cefnogaeth staff ac arweinwyr clinigol i'r model newydd. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r dystiolaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad chwarterol ar Ddangosyddion Ansawdd Ambiwlans.  Rwyf wedi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ac wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth i weithredu'r model ymateb clinigol ar sail barhaol ar unwaith.

Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a nodwyd yn y gwerthusiad annibynnol i wella a mireinio'r model ymhellach.  Mae hynny'n cynnwys adolygu'r model ymateb clinigol yn gyson. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Athro Siobhan McClelland, cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac wedi cyfarwyddo'r pwyllgor i gynllunio'r ffordd ymlaen yn dilyn argymhellion yr adroddiad, gyda Phrif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans ar y cyd ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae'n bwysig fod dinasyddion a staff yn cael y cyfle i gyfrannu at ddatblygiadau pellach wrth iddynt ddod i ddeall mwy am ddefnyddio a chyflenwi'r gwasanaethau hanfodol hyn, er mwyn gwella'r profiad i bawb sy'n eu defnyddio.

Un maes yr wyf wedi ceisio cyngor penodol arno yw trothwy'r targed perfformiad mewn perthynas â chleifion y tybir bod eu bywyd yn y fantol. Bydd angen inni ystyried y dystiolaeth yn ofalus er mwyn ystyried yn iawn a oes dulliau mesur eraill a allai roi sicrwydd digonol ynghylch ansawdd a phrydlondeb ymatebion ar draws sbectrwm eang o gyflyrau.

Mae'n hanfodol ein bod yn achub ar y cyfle hwn ac yn parhau i arwain y ffordd ar lefel ryngwladol yn y maes pwysig hwn. Wrth fwrw ymlaen â gwelliannau pellach i'r model, mae'n rhaid inni barhau i weithredu mewn ffordd arloesol a dewr. Wrth geisio parhau i wella'r canlyniad a'r profiad i'r claf, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth glinigol a'r cyngor clinigol gorau un.

Byddaf yn darparu rhagor o fanylion ynghylch y penderfyniad hwn mewn datganiad llafar i Aelodau'r Cynulliad yfory.