Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Yn gynharach eleni cafodd Aelodau'r Cynulliad wybod am ganlyniad arolygiad Estyn o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac am yr ymweliad monitro a gynhaliwyd wedi hynny gan Estyn. Rwy'n gwneud y datganiad hwn i roi'r diweddaraf i'r Aelodau am y camau yr wyf wedi'u cymryd fel ymateb i ganlyniadau'r arolygiad.
Yn dilyn arolygiad Estyn o wasanaethau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ym mis Hydref 2011, cafodd yr awdurdod ei enwi fel un a oedd angen Gwelliannau Sylweddol a nododd Estyn bum argymhelliad y dylai'r awdurdod weithredu arnynt. Yn ystod yr ymweliad monitro dilynol, daeth Estyn i'r casgliad bod yr awdurdod wedi mynd i'r afael yn rhannol â 3 o'r argymhellion hynny ond heb fynd i'r afael â'r ddau arall. O ganlyniad, ym marn y tîm arolygu, annigonol oedd y cynnydd a wnaed gan yr awdurdod o ran mynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad arolygu, araf fu'r gwelliannau a dylid gosod yr awdurdod yn y categori Mesurau Arbennig.
Er gwaetha'r gwendidau difrifol hyn, cytunwyd gyda'r awdurdod na fyddai Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw gamau uniongyrchol. Penderfynwyd bod angen caniatáu cyfnod o amser i'r awdurdod symud ymlaen ag amryw o gamau a oedd eisoes ar y gweill ac i baratoi ei gynllun gweithredu fel ymateb i'r arolygiad.
Ddiwedd yr haf, cefais gyfle i ystyried sut fyddai orau i gefnogi a chynnig her i awdurdod Torfaen wrth iddo symud ymlaen. Anfonais gyfarwyddyd drafft i arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Roedd y cyfarwyddyd drafft yn nodi fy mod yn bwriadu sefydlu Bwrdd Adfer i roi cefnogaeth a her i'r awdurdod wrth iddo fynd i'r afael ag argymhellion yr arolygiad craidd a'r ymweliad monitro. Roedd y cyfarwyddyd drafft yn datgan hefyd y dylai'r awdurdod gydweithredu â'r Bwrdd ac roedd yn rhoi pwerau cyfarwyddo wrth gefn i'r Bwrdd. Cafodd yr awdurdod ei wahodd i ymateb i'r cyfarwyddyd drafft.
Wedi ymgynghori â'r awdurdod, ysgrifennais at yr Arweinydd ar 23 Hydref 2013 a chyhoeddais y cyfarwyddyd. Rhestrwyd aelodau'r Bwrdd yn y cyfarwyddyd, fel a ganlyn:
- Steve Dalton OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg Sony UK, Pencoed
- Mel Ainscow – Athro Addysg a chyd-Gyfarwyddwr Centre for Equity in Education, Manceinion
- Yr Athro Cyswllt Sue Davies – Deon Cynorthwyol Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Y Cynghorydd Huw David – Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Fodd bynnag, ar ôl ystyried aelodaeth y Bwrdd, rwyf wedi penderfynu cynyddu nifer yr aelodau i gynnwys:
- Eifion Evans – Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion a chyfarwyddwr addysg arweiniol consortia ERW (Ein Rhanbarth ar Waith)
- Joyce Redfearn – cyn-Brif Weithredwr Cyngor Wigan a Chyngor Sir Fynwy ac aelod o'r Grŵp Arbenigwyr a fu'n cynorthwyo i ddatblygu'r Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol.
Gan fod nifer aelodau'r Bwrdd wedi cynyddu, rwyf wedi rhoi gwybod i Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen am yr aelodau ychwanegol.
Byddaf yn parhau i adolygu strwythur ac aelodaeth y Bwrdd wrth i'r gwaith ddatblygu a byddaf yn rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd wrth i waith y Bwrdd fynd rhagddo.