Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd Cymwysterau Cymru o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, a bydd Bwrdd Cymwysterau Cymru yn cyflawni rôl bwysig o ran sicrhau’r canlynol:

  • arweinyddiaeth effeithiol,
  • trywydd strategol sydd wedi ei ddiffinio’n glir;  
  • bod Cymwysterau Cymru yn cyflawni gweithgareddau’n effeithlon ac yn effeithiol, yn unol â’i nodau, ei amcanion a’i dargedau.

Bydd aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys y Cadeirydd (Ann Evans), Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru (Philip Blaker) ac o leiaf wyth (ond dim mwy na deg) o aelodau cyffredin a benodir gan Weinidogion Cymru.

Ym mis Awst 2015, cytunais i benodi pum aelod i Fwrdd Cysgodol Cymwysterau Cymru ac yna, ar ôl i Cymwysterau Cymru gael ei sefydlu ar 21 Medi 2015, i’w penodi i Fwrdd Cymwysterau Cymru. Yr aelodau hynny yw:

Paul Croke
Angela Maguire-Lewis
Claire Morgan
Isabel Nisbet
Dr Caroline Burt

Dechreuodd y penodiadau hyn ar 6 Awst 2015, a byddant yn parhau am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.

Hefyd, rwyf wedi cytuno i benodi’r tri aelod canlynol i Fwrdd Cymwysterau Cymru:

  • Mae Ellen Donovan wedi cael profiad helaeth fel Cyfarwyddwr Bwrdd Rheoli, ac mae ganddi dros 25 o flynyddoedd o brofiad busnes yn y Sector Preifat. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys bod yn Gyfarwyddwr Masnach, lle bu’n gyfrifol am ddatblygu brandiau, nwyddau a gwasanaethau yn Debenhams PLC, a hefyd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau, lle bu’n arwain gweithlu o dros 5,000 o staff.
  • Ar hyn o bryd, mae Robert Lloyd Griffiths yn Gyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru. Mae wedi bod yn y swydd hon ers 2009 yn dilyn swyddi blaenorol ym meysydd hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfathrebu. Mae’n aelod o Gyngor Adnewyddu’r Economi Prif Weinidog Cymru a Grŵp Cynghori ar Fusnes Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae hefyd wedi cadeirio nifer o gyrff adolygu a grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru, neu wedi bod yn aelod ohonynt.
  • Mae Rheon Tomos yn gyfrifydd cymwysedig Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, ac ar hyn o bryd mae’n bartner gyda TDE-Associates, lle mae’n rhoi cymorth arbenigol mewn perthynas â llywodraethu corfforaethol. Bu’n cyfrannu at y gwaith o weinyddu gwasanaethau’r sector cyhoeddus ers blynyddoedd, gan gynnwys cyfnodau gyda’r Comisiwn Archwilio a Deloitte & Touche.

Dechreuodd y penodiadau hyn ar 8 Rhagfyr 2015, a byddant yn parhau am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.

Roedd yn bleser gennyf benodi’r pum aelod cyntaf i Fwrdd newydd Cymwysterau Cymru. Maen nhw’n dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth gyda nhw o amrywiaeth o gefndiroedd ym meysydd addysg, cymwysterau a rheoleiddio. Dw i bellach yn falch o allu cyhoeddi penodiad tri aelod newydd i Fwrdd Cymwysterau Cymru. Bydd yr aelodau ychwanegol hyn yn dod â phersbectifau gwahanol a gwerthfawr i’r Bwrdd, a dw i’n siŵr y bydd y Bwrdd yn helpu i lywio’r sefydliad newydd hwn wrth iddo gychwyn ar ei waith o sefydlu ei hunan fel y corff rheoleiddio newydd ar gyfer cymwysterau yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am aelodau Bwrdd Cymwysterau Cymru ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru.

Nodiadau

Cafodd y penodiadau hyn eu gwneud yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyniad bod gweithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os caiff unrhyw weithgarwch ei ddatgan) yn cael ei wneud yn gyhoeddus. Ni wnaeth unrhyw un o’r rhai a benodwyd i Fwrdd Cymwysterau Cymru ddatgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.