Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 6 Tachwedd, dathlodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei ben-blwydd yn 10 oed. Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i fod yn bresennol mewn digwyddiad yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd i ddathlu ei gyflawniadau rhagorol ers iddo gael ei lansio.

Daeth y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i fodolaeth o ganlyniad i bryderon sylweddol ynglŷn â gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys ansawdd a nifer y gwasanaethau hynny; tegwch yn y ddarpariaeth ar draws amrywiaeth ddaearyddol Cymru; ac amserlenni hir i fabwysiadwyr a phlant.

Ar y pryd roedd ein dull o strwythuro'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn arloesol - nid oedd gwasanaeth tebyg yn unman yn y DU.  Aethom o 22 o wasanaethau awdurdodau lleol ar wahân i 5 asiantaeth fabwysiadu gydweithredol, ranbarthol a chydgysylltiedig, gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gweithredu fel canolbwynt ymatebol a blaengar ar gyfer y ddarpariaeth fabwysiadu yng Nghymru.

Mae'r model cydweithredol rhanbarthol hwn wedi llwyddo i gyflwyno gwelliannau sylweddol.  Bellach mae gennym gyfeiriad strategol a rennir, ac mae llywodraeth leol a'i phartneriaid wedi ymrwymo amser ac adnoddau i ymateb mewn modd creadigol i'r heriau o ddarparu gwasanaeth mabwysiadu cyson o ansawdd uchel.

Hefyd, mae'r trefniadau wedi ein helpu i wella sut yr ydym yn comisiynu gwasanaethau mabwysiadu ar y cyd, ac maent wedi hwyluso partneriaethau cynhyrchiol â sefydliadau trydydd sector, sydd wedi arwain at ffordd well o rannu arferion da a sefydlu mentrau creadigol ac addawol ar gyfer y dyfodol.

Ymhlith y datblygiadau allweddol mae:

  • Gweithredu fframiau amser gwell ar gyfer cymeradwyo mabwysiadwyr, ac amrywiaeth wrth recriwtio mabwysiadwyr.
  • Lleoli plant mewn modd amserol, gyda llai o aros, a mwy o frodyr a chwiorydd yn cael eu lleoli gyda'i gilydd a mwy o blant yn cael eu lleoli yng Nghymru.
  • Gwella’r ddarpariaeth ac ansawdd y gwaith taith bywyd. 
  • Ei gwneud yn haws cael cymorth mabwysiadu, a darparu mwy o wasanaethau i rieni biolegol.
  • Sefydlu fframwaith perfformiad cenedlaethol sydd wedi darparu proffil cywir ar gyfer y sector o ran gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ac anghenion plant sy'n cael eu lleoli, a ffordd o nodi meysydd i'w gwella. 
  • Lansio'r Ymrwymiad Cymorth Mabwysiadu sy'n rhoi addewid clir i ddarparu cynigion cymorth wedi ei dargedu i bob teulu sy'n mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol a therapiwtig, i'r rheini sydd â'r angen mwyaf.
  • Cyflwyno Fframwaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru i ddarparu eglurder a chymorth i blant sy'n derbyn gofal, a lleihau nifer y digwyddiadau pontio y maent yn gorfod ymdopi â nhw yn ystod eu taith mewn gofal.
  • Datblygu gwasanaeth cymorth pwrpasol a llwyddiannus ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig o'r enw Connected, gan weithio ochr yn ochr â'n partner trydydd sector Adoption UK Cymru.
  • Sicrhau bod gwell boddhad â'r gwasanaeth fel y dangosir gan yr adborth a ddaeth i law drwy ddigwyddiad ymgynghori blynyddol Cymru gyfan, y Sgwrs Fawr ar Fabwysiadu, ac astudiaeth Adoption Barometer  y DU gyfan.

Rwy'n falch o ddweud bod gan Gymru Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol sy'n eiddo i awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda'i gilydd, ac yn cael ei redeg ganddynt. Rwyf hefyd yn falch o'r cyfraniad sylweddol sydd wedi ei wneud gan y trydydd sector. Yr ymrwymiad ar y cyd hwnnw i sicrhau rhagoriaeth sydd wedi gwneud y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn llwyddiant, ac sydd wedi arwain at welliannau gwirioneddol i bawb y mae mabwysiadu yn effeithio arnynt. 

Rwy'n falch iawn o'r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma, ac rwy'n cymeradwyo'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol am yr hyn y mae wedi ei wneud dros y 10 mlynedd diwethaf.  Er ein bod wedi gweld newidiadau a gwelliannau sylweddol yn y gwasanaeth, mae'r daith yn parhau, ac wrth edrych tua'r dyfodol bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a'i bartneriaid i wella a chreu gwasanaeth mabwysiadu modern, ymatebol a blaengar sy’n weithredol ar draws Cymru. 

Hoffwn estyn fy niolch i bawb sy'n gysylltiedig â'r gwaith o wneud y sector mabwysiadu yr hyn ydyw heddiw. Trwy eu hymroddiad a'u gwaith caled i wella gwasanaethau i bawb y mae mabwysiadu'n effeithio arnynt, rydym wedi llwyddo i gyflawni cymaint.