Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 10 Tachwedd 2022, rhoddais wybod i'r Aelodau fod y Grŵp Arbenigol yr oeddwn i, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, ac Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi ei sefydlu i lunio adroddiad ac argymhellion ynglŷn â'r camau tuag at greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol wedi cyflwyno ei adroddiad. Mae'r adroddiad ar gael i'w weld yma: Sefydlu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol.
Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r cyd-gadeiryddion a holl aelodau'r Grŵp Arbenigol am eu mewnbwn a'u cyfraniad i'r gwaith hollbwysig a heriol hwn.
Lluniodd y Grŵp Arbenigol adroddiad trylwyr a manwl gydag argymhellion pellgyrhaeddol ar gyfer datblygu'r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Ar ôl ystyried yr argymhellion yn ofalus, yn enwedig yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol anodd iawn sy'n wynebu Llywodraeth Cymru a'r sector gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, rydym wedi cytuno ar gynllun cychwynnol cyflawni tri cham fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae'r cynllun cyflawni tri cham hwn yn cwmpasu cyfnod o 10 mlynedd ac mae Cam 1 yn ymgorffori nifer o weithgareddau sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu bresennol, a'r mwyaf nodedig yw'r Rhaglen ar gyfer Ailgydbwyso Gofal a Chymorth.
Mewn ymateb i’r nifer o argymhellion yr adroddiad, rydym wedi ystyried y rhain yn ofalus yng nghyd-destun y cyfnod cyflwyno graddol sydd wedi’i argymell. Cynigir dull tri cham, ac mae rhywfaint o'r gwaith sy'n perthyn i'r Cam 1 arfaethedig eisoes wedi dechrau yn 2022. Bydd darpariaeth Cam 1 yn cael ei chyflawni dros y 2-3 blynedd bresennol (2022-25); bydd darpariaeth Cam 2 yn cael ei chyflawni ymhen 4-6 blynedd (2026-2028); a bydd darpariaeth Cam 3 yn cael ei chyflawni ar ôl 6 blynedd (o 2029 ymlaen).
Mae'r sector gofal cymdeithasol yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi bobl bregus ar draws Cymru ac rydym wedi yn y llywodraeth yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth efo y sector gofal wrth hyrwyddo’r gwasanaethau sydd o bwys i unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau. Bydd y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth yn arwain y gwaith o sicrhau bod y cynllun cyflawni cychwynnol hwn yn cael ei gyflawni a bod lleisiau pobl a'r rhai sy'n gweithio yn y sector yn ganolog i'n datblygiadau. Rwy'n gobeithio y byddwch chi i gyd yn ymrwymo i weithio gyda ni ar y weledigaeth uchelgeisiol hon o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.
Mae’n bleser gennyf ddweud bod y Cynllun Gweithredu Cychwynol ar gael i’w ddarllen yma: Tuag at Wasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol: cynllun gweithredu cychwynnol
Byddaf yn gwneud datganiadau pellach ar gyflawni yn erbyn y cynllun cyflawni maes o law.