Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Yn unol â'r cytundeb ar gysylltiadau rhyngsefydliadol, rwy’n rhoi gwybod i'r Aelodau imi fod yn bresennol yng nghyfarfod y Grŵp Masnach Rhyngweinidogol ar 29 Tachwedd.
Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod yr oedd:
- Y Gweinidog Hands – Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach, yr Adran Fusnes a Masnach, Llywodraeth y DU (MH)
- Y Gweinidog Lochhead – Gweinidog Busnesau Bach, Masnach ac Arloesi, Llywodraeth yr Alban
- Y Gweinidog Barker – Gweinidog Gwladol Gogledd Iwerddon
- Y Gweinidog Jones – Gweinidog Gwladol Cymru
Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Masnach yw’r prif fforwm ar gyfer trafod materion polisi masnach rhwng Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.
Yn y cyfarfod, buom yn trafod y paratoadau ar gyfer cynhadledd gweinidogol nesaf Sefydliad Masnach y Byd (MC13), yn ogystal â'r ymwneud rhwng y llywodraethau datganoledig a llywodraeth y DU yng nghyswllt y trafodaethau am Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r Unol Daleithiau.