Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant ar 21 Ionawr. Hwn oedd cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ers mis Ionawr 2023.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Weinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Ddiwydiant, Sarah Jones AS. Roedd Richard Lochhead ASA, Gweinidog Busnes, Llywodraeth yr Alban ac uwch-swyddog ar ran Conor Murphy, Gweinidog yr Economi, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd yn bresennol. Caiff hysbysiad am y cyfarfod hwn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU.
Canolbwyntiodd y trafodaethau ar sefydlu Cylch Gorchwyl. Darparwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynlluniau economaidd y pedair gwlad ac roedd eitem sylweddol ar genhadaeth twf Llywodraeth y DU, gyda ffocws ar y Strategaeth Ddiwydiannol.
Roeddwn am weld y cydweithredu yn parhau, a rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf am waith sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â diwygio cynllunio a fydd yn sicrhau bod y Strategaeth Ddiwydiannol yn cael ei chyflwyno’n llwyddiannus. Bydd y Strategaeth Ddiwydiannol yn parhau i fod yn eitem sefydlog ar yr agenda, a phwysleisiais bwysigrwydd trafodaethau pellach ar strategaethau a chynlluniau arfaethedig eraill Llywodraeth y DU.
Byddaf yn cadeirio'r Grŵp Rhyngweinidogol nesaf ar gyfer Busnes a Diwydiant yn unol â threfniadau cylchdroi'r cadeiryddion.